tapini? Beth yw’r cyd-destun?
Sai’n gwybod ond fi wedi ffindio’r ateb - “Ta beth yw hynny”.
http://www.bbc.co.uk/cymru/cymraeg/safle/tafodiaith/tudalen/tafodiaith_deorllewin.shtml
Ateb gan Deric gynt o Bontardulais yn y “link” uwchben ond nagw i’n gwybod sut i ddefnyddio fe
Beth ydy “ta Beth yw hynny”? Dwi’m yn deall…
na fi hefyd os fi’n bod yn honest. Heno fi ‘di trio esbonio i yn merch gan ddweud wrtho ti ei fod e’ n “ta beth yw hynny” a nag oedd hi’n deall o gwbl Felly wedais i wrtho ti yn Saesneg “anyway, about that” ond mae’n anodd iawn i fi ddeall hefyd.
Felly dyna rheswm i postio hwnna fan hyn. fi ‘di gweld ta waeth hefyd a taw dyna’ r problem i fi hefyd. galla i ddeall “ta beth” ond sai’n gwybod ta beth yw hynny neu tapini.
Mae’r plant yn nerfys i ofyn cwestiynau i’r athrawes achos mae hi’n hoffi gweiddi ata nhw ond taw dyna’r peth arall.
“ta beth” ydy 'r un peth fel “beth bynnag”, dw i’n meddwl.
Dw i ddim yn nabod yr ymadrodd “ta beth yw hynny” sut bynnag.
Sori - ta beth am hynny ond mae’n dal yn od yndyw e.
Yr enghraifft yn y “link” uwchben yw “simo i’n mynd ‘na tapini’” - fi 'di cyfiethu e fel “dydw i ddim yn mynd yna tapini”. Felly dw i’n meddwl bo fe’n “tag”, yn tebyg fel ta beth, neu “ta beth” am rhywbeth neu am hynny? Ond sai’n gwybod.
Mae eisiau i fi help - @iestyn. nei di helpu fi yma. Beth yw “Tapini”
dw i wedi gofyn rhywun heddiw a ti’n cywir - tapini yw “whatever”
Dydy hi ddim yr un peth, ond mae’n atgofio fi o’r ymadrodd “dim gobaith caneri”.
Efallai rhywbeth i’w wneud gyda ‘ta beth’?
Wedi cael x-ray y bore 'ma ac oedd y nyrs yn gwisgo lanyard Cymraeg! (Yay!) Wedi llwyddo esgus bo fi’n siarad Cymraeg yn rhugl am ychydig o funudau (yay!) - nes iddi hi fwmian rhyw gwestiwn nag o’n i’n deall yn gyfan gwbl. (Diwedd y yay.)
Wedi ystyried bod y sefyllfa’n bwysig, bod y nyrs yn brysur, a bod hi ddim yn diwtor Cymraeg. Wedi newid i Saesneg.
Mae hynny’n hollol iawn. Elfen gwbl normal o ddwyieithrwydd ydi defnyddio’r ddwy iaith ar adegau gwahanol am resymau gwahanol…
Diolch Aran! Yn ffair Nadolig yr ysgol heno, mae rhedeg gem “tynnu darnau tinsel byr neu hir mas o focs i enill haribos” wedi fy nhrechu fi hefyd! (Dim fy syniad i, sut ges i’r job 'na…?) Efallai bydd gweiddi ar plant pobl eraill yn sgil nesaf i ymarfer!
Taset ti ddod i’r Ganolfan Blant Llandochau, baset ti’n ffeindio siaradwyr hefyd
Dyna pedwar ohonon ni yn yr un swyddfa ac ychydig mwy yn y Ganolfan.
Diolch, ond dw i ddim yn chwilio am blant pobl eraill i ymarfer gweiddi arnyn nhw… (Os taw dyna beth o’t ti’n meddwl!).
Haha, na’ o’n i. Ro’n i’n dweud bod gynnon ni siaradwyr dros yr ysbyty.
Wps, sori!
Ond dyn ni’n dod â’r plant yna bob blwyddyn oherwydd eu alergeddau, felly bydda i’n edrych mas am y cyfleoedd yna hefyd y tro nesaf.
Nes ti ddim deud “na diolch” yn digon cynnar?
Hehe, dweud ‘dim diolch’ yn Gymraeg - dyna rywbeth arall i’r rhestr o bethau i ymarfer! Dw i’n tueddi i fod mor hapus bo fi wedi deall y cwestiwn - a bod nhw wedi gofyn i fi yn Gymraeg o gwbl - byddwn i’n cytuno i unrhyw beth!!
Heno, es i i Naw Llith a Charol Glantaf yn yr Eglwys Sant German. Roedd hi’n noswaith hyfryd gyda pherfformiadau gwych gan y disgyblion a’r staff. Lot o ganu a lot o hwyl!
Ro’n i’n eistedd nesa cwpwl o ferched pwy oedd trio’n galed i ennill y sedd ohonaf i. Roeddan nhw’n par o bully fach!! Ond, paid a phoeni! Nes i eistedd cryf a do’n i ddim yn bullied gan cwpwl o merch wyth oed! Dwi’n jocan…naethon nhw ennill…
Roedd hi’n hyfryd i dreulio noson gyda chwmni Cymraeg. I fod mewn lle, ble roedd pawb yn siarad eu hiaith naturol.
Nawr dwi’n teimlo bod y nadolig wedi dechrau!!
Wel, yr wythnos hon, dwi wedi bod ailwneud yr hen cwrs tri.
Hefyd, dwi wedi bod yn darllen y newyddion yn y Gymraeg ac yn defnyddio memrise.
Dwi ddim yn digon amyneddgar. Mae’r llwbr i rhuglder yn hir iawn!