Wrexham folks - Saith Seren need people to join the Management Board

This appeared on my FB feed, so for those not on FB -

(English below)

Hysbyseb Bwrdd Saith Seren

Oes gennych chi gariad at y Gymraeg, cerddoriaeth fyw a Wrecsam? ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Ydych chi’n berson dibynadwy sy’n gweithio’n dda mewn tîm?💪😁

Rydyn ni angen ychwanegu rhywun efo sgiliau arbennig at Fwrdd Rheoli Saith Seren yn dilyn ymadawiad dau aelod yn gynharach eleni. Mae’r Bwrdd presennol yn dîm effeithiol a hapus sydd wedi arwain y datblygiadau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at ennill Gwobr Busnes Lleol yn 2023.

Mae’n gyfnod cyffrous ar ôl i ni brynu’r adeilad yn 2023, ac yn ddiweddar ennill grant mawr i wneud gwelliannau mawr i’r bar a’r tu allan, a hefyd gyda’r Eisteddfod yn dod i Wrecsam yn 2025.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig gyda pheth profiad yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

i) Rhentu swyddfeydd

ii) Cyfrifon a Chyllid

iii) Ceisiadau grant

iv) Technoleg Gwybodaeth - sefydlu a rheoli gwefan

Nid oes angen bod yn rhugl yn y Gymraeg, ond bydd angen i aelod newydd fod wedi dechrau dysgu’r iaith.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â mi.

Diolch,

Chris Evans

Cadeirydd, Canolfan Gymraeg Saith Seren

07885567512

Bwrdd Presennol:

Chris Evans - Cadeirydd

Steve Kynaston - Trysorydd

Siân Edwards - Ysgrifennydd

Ray Floyd - Dirprwy Gadeirydd

Stephen Taylor - Gwefan

Marc Jones - Sylfaenydd

Deb Murray - Clwb Clebran

Tracey Smith - Clwb Clebran

Rheolwr Bar - Adam Wynne


Saith Seren Board Advertisement

Do you have a love for the Welsh language, live music and Wrexham? ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Are you a reliable person who works well in a team?💪😁

We need to add someone with particular skills to the Saith Seren Management Board following the departure of two members earlier this year. The current Board is an effective and happy team that has led the successful developments over recent years, culminating in winning a local Business Award in 2023.

It’s an exciting time after we bought the building in 2023, and recently won a large grant to make major improvements to the bar and exterior, and also with the Eisteddfod coming to Wrexham in 2025.

We are looking for an enthusiastic person with some experience in one or more of the following areas:

i) Office rental

ii) Accounts and Finance

iii) Grant applications

iv) Information Technology - setting up and managing a website

It is not necessary to be fluent in Welsh, but a new member will need to have started learning the language.

For an informal chat please contact me.

Diolch,

Chris Evans

Chair, Saith Seren Welsh Centre

07885567512

Current Board:

Chris Evans - Chair

Steve Kynaston - Treasurer

Siân Edwards - Secretary

Ray Floyd - Deputy Chair

Stephen Taylor - Website

Marc Jones - Founder

Deb Murray - Clwb Clebran

Tracey Smith - Clwb Clebran

Bar Manager - Adam Wynne