S4C isio cyhoeddwyr ail iaith

[This one is for really, really successful learners - S4C are interested in finding some presenters to do live stuff in the bits between shows, adapting their own scripts and so on - hence it’s in Welsh!]

Newydd gael neges oddi wrth S4C - syniad newydd - maen nhw isio gweld os oes siaradwyr ail iaith byddai’n licio gwneud gwaith cyhoeddi rhwng rhaglenni i S4C - yn gweithio yn y Sgwar Canolog yng Nghaerdydd, yn gweithio ar eu liwt eu hunain i ddechrau - yn fyw yn bennaf, ac angen medru addasu sgriptiau yn annibynnol - felly lefel reit uchel o ddefnydd iaith, ddudwn i!

Os oes gen ti ddiddordeb, anfon neges ataf fi ac mi fedra i roi chdi mewn cysylltiad… :slight_smile: