Problemau efo ebostydd SSIW

Dydyn ni ddim wedi derbyn ebostydd SSIW ar ôl mis Hydref. Nes i edrych ar y FAQ’s SSIW a doedd yr ebostydd ddim yn yr ysbwriel ein cyfrifriadur ni. Nes i drio ymuno y rhestr o aelodau eto heb llwyddiant. Ydy rhywun yn medru awgrymu rhybeth neu ella trwsio’r problem?

Rhyfedd. Dwi’n dy weld di yn y rhestr tanysgrifiadau i’r ebost. Gest ti’r ebost ‘Welcome to SSiW’? A’r cyfeiriad ti’n checio ydy dy gyfeiriad internode, ia?

Diolch, Aran. Roedden ni’n derbyn yr ebost bob wythnos tan 14 Hydref ac wedyn - dim byd. Naethon nhw ddechrau dwy flynedd yn ôl. Pan roeddwn i’n trio ymuno eto roedd yr adroddiad yn yr ateb SSIW ar 16 Tachwedd yn iawn. Roedd yr adroddiad ebost yn gywir bob tro o’r blaen ac yr un peth ar y fforwm hefyd - gmnicholson[at]internode.on.net

Dwi 'di newyd dy gyfeiriad ebost o @ i [at] fel na fydd sbam-bots yn ei gasglu… :sunny:

Fel arall - mae hynna’n od iawn. Mae’r gronfa ddata yn dangos i’r cyfeiriad ebost yna gael ei danysgrifio ar 16/11/14. Ydi o’n bosib i ti ddefnyddio cyfeiriad arall cyn hynny?

Mae’n bosib bydd ychwanegu ‘post@saysomethinginwelsh.com’ at dy lyfr cyfeiriadau yn helpu - pa raglen wyt ti’n defnyddio i ddarllen dy ebyst?

Dan i’n defnyddio Mail, fersiwn 7.3 gan Apple fel rhaglen. Dydyn i ddim erioed wedi newid ein adroddiad ebost ac roedd 'at’yn gamgymeriad yn fy neges diwethaf. Dw i wedi edrych ar adroddiad SSIW ar ein rhaglen ebost a doedd o dddim wedi cael ei newid cyn 16 Tachwedd - ‘post@saysomethinginwelsh.com’

Pan wyt ti’n dweud ‘adroddiad ebost’ - wyt ti’n meddwl ‘cyfeiriad ebost’?

Dwi ddim yn siwr o dy ateb os oes gen ti post@saysomethinginwelsh.com yn dy lyfr cyfeiriad?

Mae’n swnio i fi fel bod yr ebyst yn cael eu stopio rhywsut (efallai gan dy ISP?) - dan ni ddim yn cael bouncebacks, felly maen nhw’n cyrraedd i rywle. Y cam cyntaf, yn sicr, ydi rhoi post@ yn dy lyfr cyfeiriad - unwaith byddi di wedi gwneud hynna, fedran ni weld os oes pethau eraill fedran ni drio :sunny:

Dwi ddim yn gwybod pam nes i rhoi adroddiad i lawr yn lle cyfeiriad. Mi edychaf eto i weld os ydy post@saysomethinginwelsh yn ein llyfr cyfeiriad ni. Diolch am dy gyngor.

Os ydi o, gad i mi wybod, ac mi gawn ni drio rhai profion eraill :sunny:

Diolch yn fawr, Aran - mae’r ebost SSIW wedi cyrraedd eto.

2 Likes