This is a great opportunity for those of you who love a bit of gardening and would like to practise Welsh as well. The National Trust is offering the chance to volunteer in the garden on Sept 13, and work alongside experienced volunteers, all Welsh speakers. It’s open to learners of all levels, but there are limited places, so be quick if you’d like to take part. Here’s the original announcement in Welsh with the contact details for more information and to register your interest at the end:
Sesiwn Gymraeg yng Ngerddi Dyffryn, Dydd Mercher 13 Medi
Os ydych chi’n siaradwr iaith gyntaf neu’n dechrau rhoi ambell air at ei gilydd, os oes gennych ddiddordeb mewn siarad Cymraeg yna dewch draw am fore o arddio hamddenol mewn lleoliad prydferth, ochr yn ochr â’n tîm o staff a gwirfoddolwyr gwybodus.
Mae gennym siaradwyr o bob lefel yma, ac i’r rhai sydd ond yn dechrau mae’n gyfle perffaith i ymarfer siarad gan wneud rhywbeth defnyddiol i dynnu’ch sylw ar yr un pryd!
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Rhiannon am fwy o wybodaeth rhiannon.bramer@nationaltrust.org.uk