Online History Talks - Advanced Learners

Clwb Hanes

Hanes Menywod Cymru 1920-1960 yw’r pwnc dan sylw ar nos Iau, 26ain Mai am 7y.h. yng nghwmni’r hanesydd Catrin Stevens.

The history of women in Wales 1920-1960 is the topic for Thursday night, 26th May at 7pm in the company of historian, Catrin Stevens.

Yn enedigol o Lan-non yng Ngheredigion, mae Catrin Stevens yn gyn-bennaeth Hanes a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Bu’n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr (2000 – 2002) ac yn olygydd cylchgrawn Y Wawr (2008 – 2011). Mae’n Gadeirydd Cenedlaethol Archif Menywod Cymru a Chronda Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg. Mae’n awdur llawer o lyfrau i blant ac oedolion ar hanes Cymru a hanes menywod.

Croeso cynnes i bawb. Dyma’r ddolen:

Hanes y Gymraeg: Dr Simon Rodway o Brifysgol Aberystwyth fydd ein siaradwr olaf cyn yr haf ar nos Iau, 23ain Mehefin am 7y.h.

The History of Welsh: Dr Simon Rodway from Aberystwyth University will be our last speaker before the summer on Thursday, 23rd June, at 7pm.