YDYCH CHI’N DDIGON DEWR I EISTEDD YN Y GADAIR DDU WRTH I MASTERMIND CYMRU DDYCHWELYD I S4C?
Mae S4C yn dod â fersiwn Gymraeg o un o gyfresi cwis mwyaf eiconig ac adnabyddus y byd yn ôl i gartrefi Cymru, ac mae’r cynhyrchydd, BBC Studios, yn chwilio am gystadleuwyr i roi cynnig arni i fod yn bencampwr Mastermind Cymru.
Mae’r ddarlledwraig a’r newyddiadurwraig Betsan Powys, a gyflwynodd y gyfres Gymraeg wreiddiol dros ddegawd yn ôl, yn dychwelyd fel cyflwynydd a’r un fydd yn holi llu o gwestiynau i’r cystadleuwyr o’r gadair ddu enwog – cwestiynau gwybodaeth gyffredinol a phynciau arbenigol. Dim ond un fydd yn cael hawlio teitl Pencampwr Mastermind Cymru.
Dywedodd cyflwynydd y gyfres Betsan Powys: “Dwi wrth fy modd fod Mastermind Cymru’n ôl ar y sgrin ac yn edrych ymlaen i weld y gadair ddu unwaith eto. Tro diwethaf roedd gwylio pobol o bob oed yn cael y cyfle i rannu hyd a lled eu harbenigedd mewn pob math o feysydd, o ddiwylliannau Siapan i sglerfyrddwyr i’r Eurovision yn beth gwych iawn ac fe ddysges i lawer iawn!”
Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio ddiwedd mis Tachwedd a dechrau Rhagfyr ym mhencadlys newydd BBC Cymru yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Os hoffech gystadlu, gwnewch gais drwy gysylltu â’r tîm cynhyrchu: mastermind.cymru@bbc.co.uk