Fantastic opportunity to sing in a community choir in Caerdydd

This is an announcement from the TV company Cwmni Da who are setting up a community choir to help refugees from the Oasis Centre in Splott integrate into Welsh culture. The choir will be practising under the guidance of RHYS MEIRION and Patrick Rimes (from CALAN). You couldn’t get two more expert people guiding a choir if you tried! The announcement is all in Welsh and doesn’t give much in the way of detail, but for more information there’s an email address at the bottom.

Mae Cwmni Da yn chwilio am wirfoddolwyr o ardal Caerdydd ar gyfer digwyddiad go arbennig.

Rydym yn galw am gyfranwyr i ymuno â chriw o ganolfan ffoaduriaid Oasis yn Splott er mwyn ffurfio côr. Amcan y gyfres yw edrych ar yr effaith cadarnhaol y gall canu corawl ei gael ar nid yn unig, unigolion ond ar gymunedau yn eu cyfanrwydd. Prif nôd Canolfan Oasis yw cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymuned leol. Maent hefyd yn canolbwyntio ar ddysgu mwy am ddiwylliannau a thraddodiadau eu cleientiaid arbennig. Mae gwaith rhagorol Oasis yn ddathliad amlwg o natur amlddiwylliannol ein prifddinas. http://oasiscardiff.org/about/

Nid yw cefndir cerddorol yn angenrheidiol; bydd yr holl beth yn cael ei greu mewn modd organig mewn gweithdy arbrofol o dan arweiniad y tenor Rhys Meirion a’r cerddor Patrick Rimes (Calan). Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar S4C yn y Gwanwyn fel rhan o gyfres newydd o’r enw Corau Rhys Meirion.

:incoming_envelope: Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost: elin.tomos@cwmnida.tv

2 Likes