Events in Caerdydd 2026

Here we are! A new thread to advertise events in Caerdydd for Welsh learners and new Welsh Speakers, with a few to start you off. Will 2026 be the year you really get into the Welsh-speaking community in Caerdydd?


Bore Siarad Cymraeg - Sadwrn, 10 Ionawr 2026

Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar sgwrs gan Dr Ruth Morgan ar y testun ‘Antur y Wladfa ym Mhatagonia’. Yn Hyb Rhiwbina (CF14 6EH) am 10.30am.

(Come and practise your Welsh and listen to a talk by Dr Ruth Morgan on the text “The Adventure of y Wladfa in Patagonia”.)

Bore Siarad Cymraeg - Sadwrn, 14 Chwefror 2026

Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar sgwrs gan Rhian Williams ar y testun ‘Llunio croeseiriau’. (Rhian sy’n llunio’r croesair ar gyfer pob rhifyn o’r Dinesydd.) Yn Hyb Rhiwbina (CF14 6EH) am 10.30am.

Mae’r ‘Bore Siarad Cymraeg’ yn cael ei gynnal unwaith y mis (ac eithrio dros yr haf) dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Cynhelir y cyfarfodydd yn yr Hyb ym Mhen-y-dre, Rhiwbina (CF14 6EH) rhwng 10.30am a hanner dydd.

(The Bore Siarad Cymraeg is held once a month [except in the summer] sponsored by the Evangelical Welsh Church Caerdydd.)

Mae’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Maent wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg o lefel ganolradd ac uwch, ond mae croeso cynnes i bawb eu mynychu.

(The meetups are free, with no need to register ahead of time. They’re aimed at new Welsh speakers of Canolradd and Uwch levels, but there’s a warm welcome for anyone.)

AMSER PANED (yn ystod tymor yr ysgolion)

Cofiwch hefyd am yr ‘Amser Paned’ sy’n cael ei gynnal dan nawdd yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg bob bore dydd Gwener rhwng 10.00am a hanner dydd yn ystod tymor yr ysgolion, a hynny yn festri capel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD. Dyma gyfle ardderchog ichi ymarfer eich Cymraeg trwy gymdeithasu a sgwrsio’n anffurfiol dros baned. Croeso cynnes i bawb.

(Also remember the ‘Amser Paned’ that is held by the Evangelical Church every Friday morning between 10:00 and midday during school term times, in the chapel vestry Y Tabernacl. A great opportunity to practise your Welsh in an informal social atmosphere over a cuppa. Warm welcome to all.)


Would you like to nominate someone to receive a bouquet of flowers and tasty treats on Dydd Santes Dwynwen this year?
Email one of the addresses in the poster giving their name and the reason for the nomination. :heart_eyes: