We’ve had an email from Ifan Llewelyn Jones, who is the Language Development Officer with Hunaniaeth, Cyngor Gwynedd. They have some events coming up which are ideal for new Welsh speakers to join in and practise their Welsh with others.
The first is on 10th June:
Mehefin 10fed
Taith gerdded ar hyd y Lon Goed, nos Lun, Mehefin 10fed, cychwyn o Chwilog am 6.00 y.h. o dan arweiniad Ann Griffith. Taith gerdded hamddenol fydd hon ar lawr gwlad, bydd wedi dod i ben erbyn 8.00 y.h. Bydd lle i tua 20 ymuno.
A leisurely walk starting from Chwilog at 6pm, lead by Ann Griffith, finishing by 8pm. There will be places for 20 people to join in.
Gorffennaf 8fed
Taith gerdded o Lyn Tanygrisiau i Gaffi Croesor. Taith fynyddig o tua 4 awr i ddysgwyr canolradd. Mi fydd bws mini yn disgwyl i gario pawb yn ôl i Danygrisiau wedi paned a theisen yng Nghaffi Croesor. Bydd y daith o dan arweiniad Stephen Jones, sylfaenydd a phrif arweinydd cwmni awyr agored Anelu-Aim Higher. Mi fydd Catrin Roberts o Danygrisiau yn ymuno a’r daith hefyd. Mae Catrin, a fagwyd yn ardal Stiniog brofiad o weithio gyda grwpiau o ddysgwyr a gwybodaeth helaeth am y fro. Pris y daith fydd £5.00 y pen i gynnwys cludiant yn y bws mini. Bydd lle i 12 ymuno a’r daith.
8th July
Another walk but this one is more difficult and takes about 4 hours. There will be a minibus to take you back to Tanygrisiau after a cuppa and cake in Caffi Croesor. Stephen Jones will lead the walk, and Catrin Roberts of Tanygrisiau will join in. This one will cost £5 and there is room for 12 people.
Finally, on the 10th July
Gorffennaf 10fed
Taith o Fethesda trwy Fynydd Llandygai a drosodd i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Taith draws gwlad, oddeutu 7 milltir rhwng 5 i 6 awr. Mi fydd yno fws mini i gludo cerddwyr yn ôl o Lanberis i Fethesda ar ôl cael paned a theisen yng Nghaffi’r Ffowntan. Bydd y daith hon hefyd o dan arweiniad Stephen Jones ac yn costio £5.00 y pen i gynnwys cludiant yn y bws mini.
A trip from Bethesda through Llandygai and over to the Slate Museum in Llanberis. This one is about 7 miles and will take 5 to 6 hours. There will be a minibus to transport walkers back to Bethesda after tea and cake in Caffi Ffowntan. This one also costs £5.
I’ll post more information as it comes to hand, but you can contact Ifan if you’d like to know more:
01286 679452