Eurovision yn fygythiad i ieithodd Ewrop?

Yr oeddwn i’n gwylio rhan helaeth o gystadleuaeth Eurovision neithiwr. Does gen i ddim lawer o amser fel arfer ar gyfer y fath cachi rwtsh. Neithiwr roedd hi’n drawiadol iawn bod y rhan mwyaf o’r cystadleuwyr yn canu yn Saesneg. Wn i ddim os ydy hyn o ganlyniad i ddymuniadau’r grwpiau i fanteisio ar farchnad cerddoriaeth byd eang Eingl-Americanaidd neu ryw reswm arall anhysbys. Ta beth, pan ddaeth hi amser i’r canlyniadau cael eu hadrodd o 36 wledydd gwahanol ar draws Ewrop dim ond cynrychiolydd Ffranc wnaeth adrodd yn ôl yn ei mamiaith. Pawb eraill, ie PAWB! wedi adrodd y canlyniadau trwy’r Saesneg. Efallai dydy hyn dim o bwys mewn cystadleuaeth ffordd a hi fel Eurovision ond yr oeddwn i’n difaru bod y cyfle i glywed ieithoedd gwahanol Ewrop wedi cael ei cholli. Mae hi’n gwestiwn dwys a ydy dylanwad y diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd yn mynd i arwain at dranc prif ieithoedd Ewrop heb son am ieithoedd llai a lleiafrifol y byd. Felly ydy Eurovision yn hwyl ddiniwed neu fygythiad go iawn i ieithoedd Ewrop? Mond yn gofyn.

Lladd Eurovision!!!

Ond dych chi’n cofio Dan ar Braz yn cynrhychioli Ffrainc gyda’i gân “Diwanit bugale” (yn Llydaweg) ym 1996? Ond dim ond yr ethriad yma sydd wedi bod hyd yn hyn, hyd gwn i. https://www.youtube.com/watch?v=DqIRYrzHoJo

Sa i’n credu bod y cystadleuath yn ddylanwad digon mawr i fod bygythiad go iawn, a gweud y gwir. Ond, pwy a wyr? Sgwn i os oes unrhywun sydd wedi gwneud ymchwiliad. Ta beth, o’n i’n siomedig i glywed cymaint o Saesneg. Hoffwn i glywed mwy o ieithoedd hefyd.

Ond, dy bwynt cyffredin di am yr effaith i’r diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd sy’n rhywbeth lot mwy difrifol, wrth cwrs.

Diolch byth dyw i ddim yn dysgu ieithoedd mewn un o ein hysgolion uwchradd! Fel arfer mae disgyblion yn dweud “Pam mae rhaid i ni ddysgu Ffrangeg pan mae pawb yn Ewrop yn gallu siarad Saesneg?”