EISTEDDFOD ENTRIES 2018 - Welsh Prose - Post Beginner

Prose entries of up to 750 words, open to everyone, on one of the following topics:
"Beth ydy Cymru i fi”, “Taswn i’n byw yn y gorffennol”, “Un peth hoffwn i newid yn fy mywyd”

1 Like

Taswn i’n byw yn y gorffennol gan Y Pethau Bychain

Taswn i’n gallu byw yn y gorffennol am sbel byddai’n dewis byw gyda theulu fy mam yn yr ugeiniau. Siaradodd hi lawer am ei bywyd pan oedd hi’n blentyn a hoffwn i weld i mi fy hun.

Roedd gyda hi naw o frodyr a chwiorydd ac roedden nhw’n byw mewn tŷ teras yng ngogledd Llundain. Oedd rhaid y tŷ wedi bod yn swnllyd iawn ac yn brysur iawn gyda’i thad a’r plant henach yn rhuthro i’r gwaith, y plant bach yn paratoi i fynd i’r ysgol tra bod y babanod yn chwarae yn y gegin.

Roedd tad fy mam yn weithgar ac yn llym. Nid oedd yn caniatáu i fechgyn ymweld â’r tŷ ond, yn ôl fy mam, roedd y chwiorydd yn ysbrydol ac roedden nhw’n llwyddo i gyfarfod eu cariadon rhywsut.

Roedd mam fy mam yn Wyddelig. Dechreuodd hi gweithio fel morwyn pan roedd hi’n naw oed ac roedd ei bywyd hi yn galed iawn. Hoffwn i sgwrsio gyda hi a chael cyfle i glywed ei hanes. Sa i’n gallu dychmygu mynd i fyw mewn tŷ dieithr fel plant. Oedd ofn gyda hi neu roedd hi’n hapus achos roedd hi’n gweithio gyda phlant arall? Pa mor aml welodd hi ei theulu? dw i wedi clywed mai oedd hi’n fenyw garedig iawn ond ddim siaradus.

Pam o’n i’n nabod hi, roedd fy mam yn siarad gydag acen BBC ond dw i’n gwybod oedd hi’n siarad fel cocni go iawn pan roedd hi’n iau. Hoffwn i glywyd y teulu cyfan yn sgwrs o gwmpas y bwrdd. Dw i’n dychmygu roedd llawer o hwyl a llawer o chwerthin pan roedden nhw i gilydd.

Roedd fy mam yn blentyn yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Tybed sut ymdopodd y teulu. Dw i’n gwybod a oedd pawb yn gweithio cyn gynted â phosib. Gobeithio, doedden nhw llwyddo i gadw eu swyddi er mwyn bwydo’r teulu. Byddai o ddiddordeb i mi eistedd gyda’r teulu a chlywed eu storïau am eu bywyd yn y gwaith.

Byddai’n fendigedig gallu pasio ymlaen i fy mhlant y storïau byddwn i’n clywed yn ystod fy nhaith i’r ugeiniau.

Beth ydy Cymru i fi gan Blodeuwedd

‘Mi wna i achub y tân,’ meddai Hannah yn cwrcwd o flaen yr aelwyd.

Hen ffrind oedd Hannah. Roedden ni wedi hyfforddi efo’n gilydd i fod meddyg amser maith yn ôl rŵan ym Manceinion. Ar ôl y cwrs aethon ni ar wasgar; penderfynais i symud i Gymru er mwyn ymarfer tra arhosodd Hannah yn Lloegr.

O’n i yn y gegin yn ailgynhesu’r cawl i swper a mewn chwinciad clywes i clindarddach, sŵn y tân yn adfywio, sŵn cyfeillgar. Wrth agosáu at y lolfa efo dau fŵg cawl berwedig weles i Hannah wedi swatio yn y gornel y soffa. Teinlais i hapus a chartrefol a cyn i ni rannu’r swper tynnais blanced dros ein gliniau ni. Roedd y cawl yn gysurlon. O’n i’n dwlu ar y Hydref, nosweithiau fel hyn, yn glyd o flaen y tân. Heno roedd y tân yn taflu cysgodion dros y waliau, ffigyrau hudolus yn dawnsio o’n cwmpas ni. Llifodd y sgwrs, y ddau ohonon ni’n hel atgofion am y hen ddyddiau coleg ac am y diwrnod wnaethon ni newydd dreulio efo’n gilydd. …

Wnaeth Hannah wedi cyrraedd y noson gynt, yn hwyr a wedi blino, felly cytunon ni i fynd yn gynnar i’r wely a chodi ben bore wedyn.

Roedd y wawr yn ysblennydd pan godon ni, yr awyr yn las, y haul yn treiddio drwy 'r coed cyferbyn â fy mwthyn i. O’n i’n awyddus ddangos tipyn bach fy mywyd Cymraeg i Hannah. (O’n i’n gwybod oedd hi’n pryderu amdana fi’n byw yn lle mor anghysbell ac eisiau i mi symud yn ôl i Loegr.) Wrth ein boddau efo cerdded oedden ni, felly cymeron ni mantais ar y tywydd, yn dilyn llwybr a arweiniodd dros y bryn o’r sticil i fyny y lôn. Wel, am fore braf! Y heddwch, dim ond y sŵn y barcutiaid uwchben ac y brefu ysbeidiol y defaid. Roedd y dringfa’n heriol ond yn werth y drafferth. Wrth i ni gyrraedd y copa ymledu golygfa banoramig o’n blaen ni. Ges i gipolwg ar Hannah oedd yn sefyll wrth f’ochr fi, golwg o ryfeddod ar ei hwyneb.

Ymlacion ni am sbel fach cyn anelu at y dref ochr arall y bryn. Roedd cerdded i lawr y bryn yn andros o hawddach, diolch byth. Amser cinio a bron yn llwgu oedden ni pan aethon ni i mewn y caffi cymuned, croesawgar, awyrgylch yn dirion ac yn fywiog. Llenwyd efo leisiau, cymysgedd Gymraeg a Saesneg a chafodd Hannah amlwg ei chyfareddu efo’r lle. Awr a hanner yn nes ymlaen daethon ni allan o’r tŷ bwyta, llawn dop efo bwyd cartrefol, wedi mwynhau cwmni bendigedig ac yn barod am y daith yn ôl.

Dewisais i ffordd wahanol yn ôl, heibio i un o fy hoff lefydd yn y byd, y Llyn Barfog. Lle cudd oedd o ac er waethaf y diwrnod braf gorweddodd gorchudd o niwl dros wyneb y dŵr; man gwyllt, llawn ysbrydolrwydd a chwedlau. Bydden ni wedi aros yno yn hirach, mor hudolus oedd o, ond roedd y amser yn hedfan, bron iddi nosi wrth i ni gyrraedd y bwthyn.

…A dyna ni, hen ffrindiau’n parablu efo’n gilydd yn y lolfa glyd. Roedd yn dechrau mynd yn hwyr ac yn sydyn difrifolodd y sgwrs a daeth golwg sobr ar wyneb Hannah.

'Des i yma i weld hen ffrind da ac, fel ti’n gwybod o’r gorau, er mwyn trio dy berswadio symud yn ôl i L oegr. Ond ar ôl heddiw dw i wedi dechrau sylweddoli beth ydy Cymru i ti, ’ meddai hi. 'Y bore ‘ma dw i wedi gweld tirwedd anhygoel, bywyd gwyllt yn agos, wedi treulio amser cinio mewn caffi cymuned dwyieithog mor groesawgar. Profiad dyrchafol oedd yn gwrando ar yr sgyrsiau Gymraeg. A wedyn, y llyn lle teimlais i ysbrydion ym mhobman, yn ogystal â synnwyr hanes.’

O’n i’n teimlo emosiynol braidd. ‘Diolch i ti Hannah am boeni amdana fi ond does dim angen. Cymru yw lle arbennig, lle sydd yn golygu cymaint i fi, ond uwchben pob dim cartref yw hi a medra i byth adael hi.’ Do, wnes i wedi dod adra.

Beth ydy Cymru i fi? gan Y Frân Bygddu

Siaradid Gerallt Lloyd Owen am hanfodion cenhedlau’n gyson- yn wir, dim ond cipolwg ar ei gerdd ysgubol “Etifeddiaeth” sydd angen arnoch i sylweddoli hyn . Yr oedd ef o’r farn bod angen tri pheth I ffurfio cenedl- iaith gyffredin, pobl gyffredin a thir cyffredin. Er mwyn osgoi gwneud anghyfiawnder mawr â’r pencerdd ei hun, mi ganolbwyntiaf ar y pethau dan sylw fesul un. Yr wyf yn ddyledus iawn, felly, i’r dyn a’i waith penigamp am ddarparu strwythur i mi.

Yr Iaith

Diymwad yw swyn yr iaith Gymraeg- mae’r ffaith fy mod yn cyfansoddi’r darn hwn o ryddiaith yn hytrach na gwneud aseiniad y Brifysgol ar hyn bryd yn dystiolaeth i hynny (y mae hi’n bwysig blaenoriaethu, onid oes?). Caddugaidd fyddai Cymru heb ei hiaith, canys nad iaith seml mohoni- eithr yn hytrach un sydd gan hanes hyglod a chyfoeth diwylliannol. Efallai ei bod hi’n egwan i ddibynnu ar hen ddihareb i gyfiawnhau fy safbwynt, ond nid oes amheuaeth mai anfeidrol yw perthnasoldeb “ Cenedl heb iaith, cenedl heb galon ”. Y mae’r iaith wedi wynebu heriau digynsail drwy gydol y canrifoedd- ond mae hi’n dal i ymlwybro ymlaen, fel merlen wedn. Nid yw hi wedi cael ei goresgyn, er gwaethaf gormes barhaus. Credaf y dylem oll fod yn ddiolchgar i sefydliadau fel SSIW (ymddiheuriadau am y weniaith, ond nid ymdrech i ennill ffafr mo hyn!), oherwydd mai hwynt-hwy sydd wedi taro tant â phobl dros Gymru benbaladr (ac ar lefel ryngwladol) drwy eu meistrolaeth parthed dysgu a’u hymrwymiad tuag at yr iaith fain.

Y Bobl

Hil garedig a chynnes yw’r Cymry- boed yn Nghaerffili neu ar Ynys Llanddwyn, cewch groeso calonnog. Mae’r wlad yn dygyfor â gwahanol dafodiaethau ac acenion, ac mai hyn- yn bennaf oll- sy’n ei gwneud mor unigryw. Wrth grwydro strydoedd Caernarfon, byddwch yn clywed sôn am “sgram” (sef, bwyd), os ydych yn teithio dros lechweddi Tregaron, efallai y daw y gair “disgled” (hynny yw, cwpanaid) fel gwledd i’r glust. Y mae’r Cymry Cymraeg yn ddiarhebol o adnabyddus am eu hanogaeth ynghylch dysgwyr Cymraeg- gorau po fwyaf o siaradwyr- a chalonogol i lefelau digynsail yw’r ffaith hon. Yr wyf yn hanu o ardal Seisnigaidd yn Ne Cymru ac mi fynychais ysgolion Saesneg- er bod y Gymraeg cyn brinned ag aur yn ystod yr adegau hyn, darparodd Adran y Gymraeg fy ysgol gynradd gefnogaeth heb ei hail. Yr oedd cyfoedion â chefndiroedd Cymraeg yn arbennig o gefnogol hefyd. Mae’r weithred o ddysgu’r Gymraeg yn dangos parch gwaelodol tuag at yr iaith, ac mae siaradwyr Cymraeg brodorol yn ei gwerthfawrogi. Nodwedd delediw o ddysgu’r Gymraeg yw cyfathrebu â siaradwyr (a dysgwyr) eraill- mae’r holl beth yn creu naws esmwyth a chysurus, ac yn hogi eich sgiliau heb roi pwysau arnoch.

Y Tir

O fynyddau danheddog y gogledd i oleuadau llachar y brifddinas- gwlad sy’n gyforiog o bethau i’w gwneud yw Cymru. Wrth i mi syllu allan o’m ffenestr (gan osgoi’r traethawd segur sy’n gorwedd heb ei orffen ar fy nesg), gallaf weld praidd o ddefaid yn pori ar y ffriddoedd. Pe bawn i’n cerdded allan o’m fflat ac ar hyd y ffordd, byddwn yn dyst i ddyfroedd croyw yr Ystwyth. Tirwedd sy’n annog barddas yw hon- wedi’i chreithio gan ddyn ac yn ildio i rym y môr ond yn dal i afael ar brydferthwch cynhenid. Y mae tir Cymru yn gysylltiedig â hanes Cymru- cafodd gwaed ein gwroniaid a’n gelynion ei dywallt ar y creigiau hyn, sathrai pedolau meirch ein harweinwyr ar y pridd hwn. O ran hynny, credaf fod dyletswydd arnom i gofalu am ein tirwedd, a’i chadw rhag cael ei halogi. Dylai ein plant gael y cyfle i gael eu cyfareddu gan fawredd ein coetiroedd ac ysblander ein harfordir.

Casgliad

Nid un peth mo Cymru i mi o ganlyniad, ond cyfuniad o’r tri pheth yr ydw i eisoes wedi sôn amdanynt. Yr wyf yn ffodus iawn i fyw yma, a byddaf yn ei chadw yn agos at fy nghalon, doed a ddelo.

Taswn i’n byw yn y gorffennol .gan Saesnes Siriol

Siŵr o fod, baswn i’n anhapus iawn.

Sa i’n credu bod y dyddiau hanesyddol oedd yn well na heddiw. Fel dwedodd Tony Capstick, ‘roedd rickets, diptheria a Hitler’ llai na chanrif yn ôl. Doedd dim pleidlais am fenywod (neu lawer o ddynion) dwy ganrif yn ôl. Roedd dim ond y cyfoethog yr hawl i fyw fel oeddynt eisiau ac i bawb arall roedd yn rhaid i ddilyn eu cyndeidiau a byw’r un fath o fywyd - y mwyafrif mewn tlodi eithafol. Dyma’r fath o fywyd dw i’n dychmygu, os o’n i’n byw yn y gorffennol.

Ond dw i’n byw heddiw, a dw i’n ddiolchgar iawn (pan dw i’n cofio) am y pethau da heddiw. Does dim lot o nostalja 'da fi, hyd yn oed am fy mhlentyndod. Roedd rhaid i fy mam yn achub tan glo ac roedd y tŷ cyntaf fy rhieni heb dy bach dan do am sawl mis cyn i fy nhad yn rhoi ystafell ymolchi ble oedd ystafell gwely, fel amod y morgais. Bron bu farw fy mam yng nghyfraith ar ôl cael camesgoriad ei phedwerydd beichiogrwydd, a hon oedd annymunedig, mewn cyfnod heb ddigon o atal cenhedlu a chyn deddf erthyliad 1967.

Ond – wedi dweud hynny sa i’n gallu dadl yr oedd popeth yn ddrwg yn y gorffennol. Roedd llai o salwch meddwl – hyd yn oed yn y rhyfeloedd, yn enwedig yn y rhyfeloedd! Ac fel amgylcheddwr efallai mai’n well i fyw heb bentwr o ddewisiadau. Ydy e’n well, rili, i gael ugain fath o goffi mewn siop coffi? Beth sy’n o’i le gan fynd ar wyliau yn eich gwlad eich hunan? Pan oedd y mwyafrif yn dlawd, roedd y cymdeithasau yn gryfach na heddiw. Heb ffonau roedd pobl yn siarad wyneb i wyneb a heddiw mae pla o unigrwydd.

Ond dw i’n byw heddiw, a dw i’n ddiolchgar iawn (pan dw i’n cofio) am y pethau da heddiw. Does dim lot o nostalja 'da fi, hyd yn oed am fy mhlentyndod. Roedd rhaid i fy mam yn achub tan glo ac roedd y tŷ cyntaf fy rhieni heb dŷ bach dan do am sawl mis cyn i fy nhad yn rhoi ystafell ymolchi ble oedd ystafell gwely, fel amod y morgais. Bron bu farw fy mam yng nghyfraith ar ôl cael camesgoriad ei phedwerydd beichiogrwydd, ac fe oedd annymunedig, mewn cyfnod heb ddigon o atal cenhedlu a chyn deddf erthyliad 1967.

Wedi dweud hynny sa i’n gallu dadl yr oedd popeth yn ddrwg yn y gorffennol. Roedd llai o salwch meddwl – hyd yn oed yn y rhyfeloedd, yn enwedig yn y rhyfeloedd! Ac fel amgylcheddwr efallai mai’n well i fyw heb bentwr o ddewisiadau. Ydy e’n well, rili, i gael ugain fath o goffi mewn siop coffi? Beth sy’n o’i le gan fynd ar wyliau yn eich gwlad eich hunan? Pan oedd y mwyafrif yn dlawd, roedd y cymdeithasau yn gryfach na heddiw. Heb ffonau roedd pobl yn siarad wyneb i wyneb a heddiw mae pla o unigrwydd.

Felly, efallai, oedd yn well, mewn rhai rhan o gymdeithas, yn y gorffennol. Ond y cwestiwn oedd amdana I yn byw yn y gorffennol. A dw I’n gwybod beth dw i’n gwybod. Diolch am eich cynnig caredig, ond dim diolch.

Vote here:

  • Taswn i’n byw yn y gorffennol - gan Y Pethau Bychain
  • Beth ydy Cymru i fi? - gan Blodeuwedd
  • Beth ydy Cymru i fi? - gan Y Frân Bygddu
  • Taswn i’n byw yn y gorffennol - gan Saesnes Siriol
  • No award

0 voters