EISTEDDFOD ENTRIES 2015 - Traditional Song

These are the words to the song:

Hiraeth

Dwedwch fawrion o wybodaeth
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roedd ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo?

Cytgan:
Derfydd aur a derfydd arian
Derfydd melfed, derfydd sidan;
Derfydd pob dilledyn helaeth
Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Hiraeth sydd yn torri ‘nghalon;
Pan fwyf dryma’r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac a’m deffry.

Cytgan:
Derfydd aur a derfydd arian
Derfydd melfed, derfydd sidan;
Derfydd pob dilledydn helaeth
Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth, hiraeth, cilia, cilia
Paid â phwyso mor drwm arna’;
Nesa dipyn at yr echwyn
Gad i mi gael cysgu gronyn.

Hiraeth gan CathGwen

3 Likes

Hiraeth gan Canwr Gwerin

1 Like

Hiraeth gan Gwdihŵ

Hiraeth gan Mair Dancoed

1 Like

Hiraeth gan Neli

2 Likes

Hiraeth gan Eirlys

Hiraeth gan perl hudol

1 Like

Vote here:

  • CathGwen
  • Canwr Gwerin
  • Gwdihŵ
  • Mair Dancoed
  • Neli
  • Eirlys
  • perl hudol

0 voters