Max 20 lines, written free verse, on the topic “Iaith”
Iaith gan Efyrnwy
Iaith pob wlad sy’n bwysig
Ond yn bwysig iawn I mi
Yw’r iaith Gymraeg,mamiaith fy Nain
A dyma stori I chi
Gaeth Nain ei geni mewn pentre bach
Llanwddyn, yn y wlad
Cymraeg oedd iaith yr aelwyd
Dim Saesneg wrth Mam a Thad
Cymraeg oedd yn y capel
Ei hysgol a drwy’r plwyf
Dim gair o Saesneg o gwbl
Cymraeg oedd wrth y llyw.
Ond daeth y dydd I ddilyw’r cwm
Rhoi bobl o Lerpwl dwr.
Calonnau drwm mewn pentre bach
Achub Llanwddyn - rhy hwyr.
A dyna pam daeth Nain i’r De
Gyda’i theulu I geisio am waith
Colli cartref, colli ffrindiau, colli ysgol
Ond yn fwy bwysig - colli iaith
A dyna pam dwi’n dysgu Cymraeg
Er cof am fy annwyl hen Nain.
Cymraeg gan Yr Alarch
Dw i’n dysgu iaith newydd
Mympwy?
Nag yw, mae sibrydion yn dweud,
Yn galw i fi o blentyndod
Cymaint mwy…
Mae dysgu yn llawenydd,
Taith darganfyddiad
Mae pobol garedig yn helpu
Mae ffrindiau yn siarad ar draws y môr
Ond cymaint mwy…
Mae diwylliant arall wedi dod
Yn fy mywyd i aros am byth
Cerdd yn fy nghalon i yw’r tirlun
Iaith newydd
Cymaint mwy na geiriau…
Yr Anrheg gan Dynfwal
Dw i’n rhoi iaith i ti
Mae hi’n fel awyr -
Paid â’i cholli hi.
Dw i’n rhoi iaith i ti
Mae hi’n fach o’r cychwyn
Ond bydd hi’n tyfu -
Paid â’i cholli hi.
Dw i’n rhoi iaith i ti
Mae hi’n y lliwiau’r môr
Mae hi’n sŵn traed
Mae hi’n yr enw tegan plentyn
Yni hi yw blas ar fêl
Ac oglau glaw
Siâp barcud yw hi
Ac hedfa y wennol
Y gyntaf ac yr olaf.
Dw i’n rhoi iaith i ti
Mae hi’n fel edau wlân -
Paid â’i thorri hi.
Heb Galon gan Tris D Michaels
A fyddai’r dderwen yn sefyll
Heb ei gwreiddiau dwfn?
A allai’r môr chwyddo
Heb gael ei lenwi gan afon?
Sut llefodd Modron
Ar ôl iddi golli ei Mabon –
Beth yw mam, beth bynnag,
Heb ei meibion?
Pwy ydyn ni ninnau
Heb ein hatgofion?
A sut mae gwlad yn parhau
Heb famiaith, heb galon?
Vote here
- Iaith gan Efyrnwy
- Cymraeg gan Yr Alarch
- Yr Anrheg gan Dynfwal
- Heb Galon gan Tris D Michaels
0 voters