Prose entries of up to 500 words, open to everyone, on the topic “Fy mhrofiad fel dysgwr”
Fy mhrofiad fel dysgwr gan Tysilio
Mae’n annodd imi benderfynu lle i ddechrau, achos dwi ddim yn gwybod pan dechrauais i dysgu Cymraeg. Mae rhaid imi egluro.
Ges i fy ngheni yn Aberystwyth, ond ddysgais i ddim Cymraeg pan oni 'n ifainc. Rhoedd fy nhad Cymro Cymraeg ond, achos rhoedd fy mam Saisnes, doedd neb yn siarad imi yn y Gymraeg. Clywais i Gymraeg yn yr ysgol, wrth gwrs, a pan eithon ni i ymweld fy nhaid a fy nain pwy oedd yn byw mewn pentre bach, lle mae pawb oedd yn siarad Cymraeg, ger Llangollen.
Cyn ini’n symyd dros y ffin i Loegr oni’n wedi byw yn Nghymru am mwy na’r hugain mlynedd ond, doni byth yn meddwl am dysgu Cymraeg.
Ond, rhwan mae o’n clir oni’n wedi amsugno llawer o Gymraeg dros y flynyddoedd, heb fi 'n gwybod, achos, dwy mlynedd yn ol, oedden ni ar gwiliau ger Machynlleth ac, yn sydyn, oedd llawer o geiriau Gymraeg dechrau dod yn ol imi. Gwybodais i beth oedd llawer o honi nhw’n olygu, ond roedd llawer gwybodais i ddim.
Ar y pryd, gwnes i wedi newydd gorffen gwneud hanes o fy nheulu, ar ol gwaithio arna fo am llawer o flynyddoedd, ac oni’n chwilio am rhiwbeth arall diddorol i gwneud er mwyn treulio’r amser. Oni’n wedi teimlo Cymraeg yn wastad - mae gen i draig goch ar fy nghar! Felly oedd hi’n clir beth i gwneud nesaf. Roedd rhaid imi drio dysgu siarad Cymraeg fel fy nhad, ac ei theulu. “Ond”, meddyliais i, “Pensiwnwr dw’i. Ydi mae hi yn rhy hwyr? Basen cymaint i ddysgu. Gallwn i gwneud o?” Roedd dim ond un fordd i darganfod. Triwch!!
Drwy lwc, darganfodais i “SSiW” a ddechrauais i gwneud Cwrs Un ar unwaith. Ar y dechrau, oni’n ffindio oedd hi’n gwaith galed, ac oedd angen imi gwneud llawer o’r gwersau dwywaith neu mwy. Weithiau, oni’n meddwl gwnes i methu gofio dim byd o beth oni’n wedi dysgu ac oni’n dod bach yn di-galon. Yn foddus, meddyliais i am ysgrifenu am y peth ar y forwm a ges i llawer o cefnogaeth i dal ati. Ar ol tua mis, oni’n synnu am cymaint oni’n wedi dysgu trwy SSiW ac a cymaint oni’n medri cofio o pan oni’n ifainc. Er engrhaifft, cofiais i llawer o’r treugliadau, digon i gwneud yr eraill hawddach i ddysgu.
Ar ol gorffen Cwrs Un dechrauais i fynd i gyfarfodau Cymdeithas Cymraeg yn Amwythig, i’r grwpiau SSiW lleol ac yn Saith Seren er mwyn ymarfer siarad. Wedyn, dwi wedi gwneud Cwrs Dau, ac rhwan dwi’n gwaithio ar Cwrs Tri. Rhaid imi ddeud roedd “short form verbs” anodd iawn i ddysgu ond dwi’n meddwl bod nhw’n dechrau dyfod mwy naturol rwan.
Yn mis Gorfennaf, es i i bootcamp yn Tresaith i le dysgais i llawer mwy o Gymraeg a ffindiais boddi’n medri siarad Cymraeg yn digon o dda efo’r bobol yn y grwp, a tu-allan. “Lingo warriors” oedden ni, ac dwi byth yn teimlo mwy fel Cymro. Dim “Dic Sion Dafydd” ydw i rhwan, diolch am SSiW.
Fy mhrofiad fel dysgwr gan Aerfen
Hiraeth a Pherthyn.
Y pedwerydd mis Ebrill 2011, y cychwyn fy nhaith fel dysgwr. Wnes i wedi teithio efo fy ngŵr o Hampshire er mwyn mynychu cynhebrwng fy Mam yn Nhywyn. Roedd hi wedi bod yn byw yn Lloegr ond eisiau cael ei gosod i orffwys yng Nghymru efo ei rhieni.
Arhoson ni ychydig ddyddiau ar ôl y cynhebrwng. O’n i eisiau i’m gŵr gael blas y cefn gwlad ysblennydd a hudol, ei mynyddoedd, môr ac ei phobl rhyfeddol. Wnaethon ni fforio lleoedd lle es i fel plentyn, lleoedd llawn dop efo hiraeth, Cadair Idris, Craig Aderyn heb sôn am y rheilffordd Tal-y-Llyn.
Yn Hampshire o’n i’n aml yn eistedd yn hel atgofion am fy mhlentyndod yng Nghymru, y cynhesrwydd a charedigrwydd fy Nain. Wnaeth hi redeg tŷ gwely a brecwast yn Nhywyn a phob bore deffrais i efo arogl anghredadwy, bacwn, arennau a thost yn llenwi y tŷ. Wnes i gofio hefyd fy Nhaid, dyn doniol a charedig. Weithiau gwrandewais i arnyn nhw, Nain a Thaid yn sgwrsio yn y gegin yn y Gymraeg.
Hyd hynny wnes i wedi erioed meddwl amdani ond rŵan sylweddolais i fy mod i wedi colli nid yn unig fy Mam ond hefyd fy nghyswllt efo Cymru.
Wnaeth Cymru wedi cydio calon fy ngŵr ac ar bob cyfle dychwelon ni yno. Roedden ni’n dau’n teimlo bod fy Mam yn gofalu amdanon ni.
O’n i’n gweithio fel garddwr ar y pryd a roedd yn symud i Gymru dim ond breuddwyd, felly sylweddolais i os o’n i eisiau leihau fy hiraeth rhaid i mi gofleidio y diwylliant a dysgu yr iaith.
O’n i’n benderfynol. Wnes i ddechrau dysgu ar fy mhen fy hun yn defnyddio llyfrau, S4C ac wrth gwrs SSIW. Bob tro ymwelon ni â Chymru ymarferais i siarad ond efo anesmwythder dealladwy. Dweud y gwir roedd fy nghalon yn fy ngwddw ond roedd pawb yn mor gefnogol a chyfeillgar ata fi a rhodd hwb i mi.
Ar dechrau eleni daeth fy mreuddwyd yn wir. Roedden ni’n mynd i symud i Ogledd Cymru, i bentre ger Corwen. Erbyn y Gwanwyn darganfyddon ni bwthyn bach ar ben y boncen efo golygfa fendigedig. Felly, bant â ni!
Wnaethon ni symud yma mis Ebrill, pedair mlynedd yn union ers dechrau fy nhaith Cymraeg. Pob dydd rŵan gen i gyfle i siarad yr iaith efo cymdogion, pobl yn y siopau, lle bynnag awn ni, a heddiw dan ni’n hapus fel y gog.
Mae dysgu y Gymraeg wedi rhoi cymaint i mi. Dw i wedi hyd yn oed magu plwc yn diweddar i sgwennu erthygl yn ein papur bro, yn adrodd tipyn bach am fy nheulu gan obeithio fy mod i’n digwydd i ddod ar draws perthynas pell. Wel, dach chi byth yn gwybod!
Drwy ddysgu’r Gymraeg dw i’n teimlo eisoes fy mod i’n perthyn yma. Heddiw dw i’n gwybod, Cymraes ydw i, nid unig yn y gwaed ond hefyd yn fy nghalon. Diolch Mam!
Fy Mhrofiad fel Dysgwr gan Trysor
Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos roedd fy nheulu i gyd yn siarad Cymraeg ac roedd pawb o gwympes fi yn siarad Cymraeg ac yn troi i’r Saesneg i siarad â fi. Dw i’n dod yn wreiddiol o Iwerddon. Symudais i i’r Gymru yn 2008. Mae partner ac un ferch gyda fi.
Dechreuais i’n dysgu Cymraeg un diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth gyda’r Brifysgol yn Ysgol Gymraeg. Dechreuais i’r iaith yn araf yn y dechrau. Un peth ro’n i ddim yn hapus yn troi i’r Saesneg i siarad gyda fi. Cyn bo hir ro’n i yn dechrau deall geiriau o’r iaith. Roedd e’n anodd siarad gyda phobl achos roedd rhaid i fi feddwl beth oedd yn dweud a nesa ateb yn iawn. Fy mhrofiad cyntaf yn defnyddio’r iaith oedd anfonais i neges i’r partner fi ar y ffon. Gofynnais i “Dw i’n gwneud cinio, wyt ti eisiau rhyw”. Ro’n i’n falch iawn tan gefais i neges nol “I beg your pardon “. Ro’n ni’n chwerthin yn y diwedd. Ro’n i yn ofalus ar ôl y neges ond roedd pethau fel hyn ddim yn stopio fi trio’r iaith eto. Pan ddechreuais i’r iaith roedd rhaid a fi cael rhywbeth i anulu at. Y peth cyntaf oedd yr arholiad Mynediad gyda WJEC. Ar ol amser ro’n i’n barod am yr arholiad. Ro’n i yn llwydianais yn yr arholiad. Es i i weithio gyda’r Cylch Meithrin am flwyddyn. Ro’n i’n hedrych ar ol plant, cyn aethon nhw i’r ysgol gynradd, bob prynhawn. Pan o’n i gyda Meithrin es i i’r cyfweliad gyda Cam Wrth Gam (rhan o Fudiad Meithrin) am le ar gwrs NVQ3- Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant trwy gyfrwng Cymraeg. Roedd rhaid i fi fynd mewn ysgol am flwyddyn i wneud yr hyfforddiant. Ro’n i yn llwydianais a nawr dwi’n gweithio fel cynorthwyydd addysg gyda New Directions Education. Dw i wedi gwneud arholiad Sylfaen gyda WJEC hefyd a ro’n i wedi llwydianais gyda’r arholiad. Yn 2013 dechreuais i Her Darllen Chwech. Rhaid i ti ddarllen chwe pheth Cymraeg dros chwe mis ac ysgrifennu rhywbeth mewn dyddiadur. Darllenais i chwe llyfr yn 2013, 2014 a 2015. Ces i dystysgrif i bob her. Ces i gyntaf yn y dosbarth y dysgwr yn yr Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth yn 2015. Ces i ran fel “extra” yn y ffilm Y Syrcas yn 2013 ar S4C.
Yn y dyfodol bydda i yn trio am yr arholiad Canolradd WJEC ond dw i’n edrych am ddosbarth Canolradd ar hyn o bryd. Dw i eisiau gwneud arholiadau O lefel ac A lefel mewn Cymraeg. Hefyd dw i eisiau mwy profiad gyda’r plant yn y cyfnod sylfaen a gwneud pethau arall gyda’r plant gyda phroblemau neu gyda anghenion arbennig.
Vote here
- Tysilio
- Aerfen
- Trysor
0 voters