The Teifi Walking Group has started up again after the summer. Here’s news from Phillippa, the organiser. Get in touch with her if you’d like to participate - philippa.gibson [AT] gmail.com
Cerddwyr Cylch Teifi
Tymor Newydd Cerddwyr Cylch Teifi

Annwyl Gerddwyr,
Byddwn ni’n dechrau ein tymor newydd ym mis Hydref a bydd yn braf eich gweld chi unwaith eto ar ôl y toriad.
Fel y gwyddoch, bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb. ac fel arfer yn gorffen erbyn 12:30 neu 1.00. Yn aml byddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl cerdded i’r rhai sy’n dymuno.
Bydd y rhan fwyaf o’r teithiau ar yr ail ddydd Sadwrn yn y mis, ond dim pob un (gan gynnwys yr un gyntaf a fydd ar y trydydd dydd Sadwrn ym mis Hydref, sef 18fed, yng Nghei Newydd).
Nid yw manylion y teithiau i gyd yn bendant eto, ond rhoddaf wybod cyn gynted â phosibl.
Er bod Covid wedi cilio i raddau helaeth, mae pobl yn ei ddal o hyd ac yn gallu dioddef yn eithaf gwael, felly rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu’r haint, gan beidio â dod ar daith os ydych chi’n hunan-ynysu, neu’n dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.
Byddaf yn anfon e-bost atoch chi gyda’r holl fanylion wythnos cyn pob taith, ac felly dylech ddisgwyl ebost 11eg mis Hydref ar gyfer taith Cei Newydd 18fed.
Gan edrych ymlaen at eich gweld eto,
Cofion gorau,
Philippa
Dear Walkers,
We will begin our new season in October and it will be good to see everyone again after the break.
As you know, the monthly walks on Saturdays start at 10.30am. and usually finish by 12:30 or 1.00. We often organize a place to socialize after the walk for those who wish.
Most of the walks will be on the second Saturday of the month, but not all (including the first one which will be on the third Saturday in October, namely the 18th, at New Quay).
The details of all the walks are not definite yet, but I’ll let you know as soon as possible.
Although Covid has largely receded, people are still catching it and can suffer quite badly, so we ask the Walkers to be vigilant in order not to spread the infection, by not coming on a walk if you are self-isolating, or showing any symptom linked to the infection.
I will send you an email with all the details a week before each walk, so you should expect an email on the 11th of October for the New Quay walk on the 18th.
Looking forward to seeing you again,
Best wishes,
Philippa