Calling all confident SSiW speakers

I apologise that this message is solely in Welsh, but it’s calling for particular input from confident Welsh speakers who have completed all levels of the SSiW courses. Diolch. :slightly_smiling_face:

Annwyl Siaradwyr Cymraeg

Dw i ar hyn o bryd yn ymwneud â phrosiect newydd a chyffrous gyda SSiW. Mae’r prosiect yn gofyn i mi gasglu gwybodaeth gennych chi ein dysgwyr hyddysg, am eich teithiau dysgu unigol, a’r cerrig milltir o fewn y daith honno, rŵan bod chi wedi llwyddo mynd â’r maen i’r wal, fel petai.

Nod y prosiect yw cyflwyno’r wybodaeth yma i ddarpar ddysgwyr a dysgwyr newydd, mewn ffordd ddifyr a hwyliog ac ar ffurf gronolegol sydd yn cyd-fynd â threfn y cwrs.

Sut wnaeth eich defnydd o’r iaith newid wrth i chi symud drwy’r cwrs? Yn fras, beth ddigwyddodd pan oeddech wedi cyrraedd tua gwers #4 Lefel 2(ish) er enghraifft?

Y gobaith yw dangos i ddysgwyr newydd yr hyn gallan nhw edrych ymlaen ato yn ystod eu taith, yn enwedig yr enillion bychan sydd i’w cael yn gynnar yn y broses.

Dw i’n awyddus iawn i ddarganfod mwy am yr adegau bendigedig hynny o’r rhai bychain i’r rhai mawr, ond yn enwedig y rhai bychain, pan wnaethoch lwyddo defnyddio’r iaith mewn ffyrdd amrywiol.

Er enghraifft y tro cyntaf i chi archebu paned mewn caffi. Y tro cyntaf wnaethoch chi i wrando ar Radio Cymru a llwyddo i ddeall llawer o’r hyn oedd yn cael ei ddweud. Pan wnaeth y geiriau yn eich hoff gan Gymraeg ddechrau gwneud synnwyr go iawn i chi. Pan wnaethoch ddechrau medru gwylio Pobl y Cwm neu Rownd a Rownd heb orfod dibynnu cymaint ar yr isdeitlau. Eich Eisteddfod lwyddiannus gyntaf. Dechrau meddwl yn y Gymraeg. Dechrau breuddwydio yn y Gymraeg hyd yn oed?

Dw i’n siŵr bo na restr hir o gerrig milltir difyr sy’n rhan o’ch taith dysgu gyda SSiW ac os ydych chi’n gallu cofio ac yn fodlon rhannu, yna byswn i wrth fy modd clywed amdanynt.

Dw i’n deall bo llawer ohonoch bellach yn defnyddio’r iaith yn gwbl naturiol, ac o bosib bo llawer o’r broses dysgu eisoes wedi mynd yn angof. Ond os allech chi rannu dim ond un garreg filltir/atgof gyda fi, yna byddaf i’n ddiolchgar dros ben.

Os bysech chi’n hoffi gwirfoddoli i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y prosiect hwn, yna gallwch un ai e-bostio fi ar catrin@saysomethinginwelsh.com i gadarnhau neu yrru neges breifat drwy’r fforwm.

Diolch blaenllaw am eich cydweithrediad.

6 Likes

Gyda llaw, does dim rhaid i chi gyflwyno y wybodaeth i mi yn y Gymraeg, gan byddai’n ei gyflwyno yn y Saesneg. Diolch gyfeillion! :smiley:

2 Likes

Syniad da, Catrin. Nai rhoi ateb dros y penwythnos, gobeithio :slight_smile:

2 Likes

Diolch John!

Diolch also to @gisella-albertini for getting in touch - your input is invaluable! :slight_smile:

Would more of our long termers like to get involved? :wink:

1 Like

Croeso. :wink:

I guess that long post in Welsh was just too much of a shock to many - thinking we’d have to write everything in Welsh! :sweat_smile:
(and despite the clarification later, which someone may have missed though)

4 Likes

Email sent

2 Likes

On it!

Mi wna i ebostio ti heddiw :blush: (sori newydd weld hon)

2 Likes

Nes i anfon neges ata ti!

1 Like

Hi Catrin
Sorry about the delay.
I should be getting back to you, soon.

Gobeithio ti wedi derbyn fy neges erbyn hyn, @CatrinLliarJones?

1 Like

Do diolch @Catriona, ond wedi bod yn sâl yn fy ngwely, felly dim wedi bod yn gweithio. Bydda i’n edrych ac ateb yfory. X

O dw i’n mor sori! Gobeithio ti’n iawn. Mae ddrwg gen i am dy aflonyddu di!

Newydd ddarganfod y neges rwan hyn, dw i. Mi wna i drio ailgofio ambell rhan o fy nhaith at Yr Iaith cyn bo hir.

A brysia wella heyfd, Catrin.

Bob (yn Llanrug)

1 Like

Dim problem o gwbl, siwr iawn. Roeddwn i’n reit giami diwedd wythnos diwethaf, ond wedi cymryd y penwythnos i wella, dw i yn dechrau cryfhau erbyn hyn. Byddai’n cael pleser o edrych ar dy ebost heddiw. X

A huge thank you to everyone who’s sent me emails - they are amazing and are greatly appreciated.

Mae’r wybodaeth dw iwedi dderbyn yn hollol wych, diolch o waelod calon i chi. Mae hefyd yn help mawr i mi pan ydych chi’n son yn fan hyn eich bod wedi gyrru ebost i mi - dw i wedyn yn gallu mynd i chwilio amdano, rhag ofn ei fod wedi ei lyncu gan y ffolder spam.

Mae’n help mawr i mi pan ydych chi’n son am lle oeddech chi yn y cwrs pan nathoch chi gyrraedd y cerrig milltir - dyma bydd sylfaen y prosiect. :slight_smile:

2 Likes

Dw i’n newydd anfon ebost. Gobeithio bod dydy o dim yn rhy hwyr :grinning:

1 Like

Diolch o waelod calon i ti! Na dim yn rhy hwyr o gwbl - dw i’n sori fy mod i’n hwyr yn dy ateb di! :wink:

1 Like

A huge diolch to everyone who’s sent me emails - they are greatly appreciated and of more value to this project than you realise.

It’s still an ongoing thing, so if you’ve got something you would like to share but haven’t yet had the time, don’t worry, there’s no immediate rush.

Just a little reminder -

Dw i’n chwilio am atgofion sydd gennych chi o’ch siwrne dysgu ac o ddefnyddio’r iaith am y tro cyntaf / mewn llefydd newydd / gyda phobl newydd. Eich profiadau gyda’r iaith yn ymwneud a cherddoriaeth / y cyfryngau / digwyddiadau yn y Gymraeg ac ati.

Ond y rhan bwysig i mi yw gwybod lle yn y cwrs oeddech chi pan ddigwyddodd y pethau hyn? Dw i’n deall o bo’r math yma o bethau yn anodd i’w cofio. Ond o bosib, bydd rhai ohonoch wedi cadw dyddiaduron? Wedi cadw postio ar y fforwm? Wedi postio pethau ar gyfryngau cymdeithasol? Neu gyda chof arbennig o dda? :wink:

Y nod yw creu map i ddarpar ddysgwyr a dysgwyr newydd yn amlinellu’r siwrne dysgu a’r gwobrwyon allen nhw ddisgwyl gael ar hyd y siwrne honno.

Diolch o galon i chi gyd am fod mor frwdfrydig ac am fod yn agored io helpu. Dw in gwerthfawrogi yn fawr iawn. X

3 Likes

Wna i trio sgwennu rhywbeth dros y penwythnos! :slight_smile:

2 Likes