Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Dw i wedi gorffen fy bedwaredd noson a dw i wedi blino yn rhacs. Ond dw i’n eistedd yn fy ngar cyn i fi fynd nofio. Mae ffrind wedi ei gansello ei bryd o fwyd gyda ni heno felly dw i’n gallu cysgu trwy’r dydd heb raid i fi dacluso’r ty. Ond mae rhaid i fi ffonio’r adran ffisio yng Nglangwili achos bod nhw ddim wedi fy ffonio fi.

1 Like

Gobeithio gei di hyd ohonyn nhw yn y pen draw!

Wel ar hyn o bryd dw i adre. Felly bob dydd dw i 'di bod yn dysgu cymraeg. Fel arfer SSIW a memrise hyfed.

Ond rhaid i mi stopio gwylio “food network”.

1 Like

Gobeithio dy fod ti’n iawn?

1 Like

Penwythnos 'ma, dan ni wedi dod i Plymouth ar gyfer y seremoni graddio fy nghariad. Mae’r tywydd yn fygythiol ond gobeithio’r dydd yn dda!

Sut mae pawb? Be ydach chi’n gwneud penwythnos 'ma?

2 Likes

Ar hyn o bryd, dw i’n bwyta cinio. Wyau, selsig, cig moch a ffa. Blasus iawn!

Yn nes ymlaen, da ni’n mynd ar y trên stêm ar y Ribble Steam Railway.

1 Like

Dim madarch? :wink:

Rwan hyn, dw i’n meddwl am beth i goginio nos gwener at mini bootcamp. Dw i ddim yn sîwr ar hyn o bryd.

Dw i angen syniadau!

Nes i anghofio’r madarch!

O, ac nos Wener yn nos gig iâr.

Esgusodwch fy gramadeg!

Mae’n edrych yn iawn! Ond dw i wedi bod yn dysgu ers mis mai, felly dw i ddim yn sîwr i fod yn onest.

Dw i wedi bod yn trio ymarfer pob dydd, a dw i’n gwybod bo fi’n wella. Ond weithiau mae’n anodd i gofio popeth a pan dw i’n siarad efo lleill, dw i wedi ffeindio bo’ fi ddim yn deallt dim byd weithiau.

Ond… Ymarfer, ymarfer, ymarfer. Y ffordd ymlaen!

1 Like

Dw i wedi bod (yn?) nyddu a gwau yng Ngwyl Defaid Llanymddyfri heddiw ar ol fynd wythnos yn gynnar. Mae’n bwrw glaw nawr ond oedd hi’n sych yn ystod y dydd.

Dw i newydd weld dau o dri rhaglen Joanna Lumley yn Siapan achos fy mod i feddwl am fynd i Siapan blwyddyn nesa.

A nawr dw i’n gwneud houmous.

2 Likes

Bore da bawb.

Ddo o’n i wedi coginio …

marmaled eirin-afal. Ddim llawer ond jyst digon.

7 Likes

Mae’n edrych yn flasus, @tatjana!

Es i i weld yr Opera yng Ngaerdydd neithiwr, Machbeth gan Verdi. Wnaethon ni joio’n fawr iawn - oedd popeth amdani’n wych!

Rhywbeth arall diddorol hefyd - am y tro cyntaf o’n i’n gallu deall y rhan fwyaf y ‘surtitles’ yn Gymraeg bron cystal a’r Saesneg. Oedd hynny’n tynnu fy sylw o’r gerddoriaeth weithiau! Wnes i sylweddoli bod fy ymateb emosiynol yn gallu bod yn wahanol i’r cyfiethiad Cymraeg i’r un Saesneg - yn gryfach weithiau. Tybed pam? Ac mae’r teimlad o ddeall yn yr ddwy iaith yn hollol wahanol. Diddorol…

5 Likes

Naeth Dee rhannu erthygl amdani. Maen nhw wedi addysgu pobl sy’n cael dwy iaith. Edrychant ar y croen pan gofynant cwestiwnau yn eu mamiaith a’u ailiaith. Roedd yr adwaith yn wahanol iawn.

Mae’n pwnc diddorol iawn!!

Dw i isio mynd i’r opera yng Nghaerdydd hefyd. Sut oedd o?

Ar hyn o bryd dw i’n eistedd ar y soffa. Mae fy fenga yn chwarae minecraft ar y ecsbocs. Dw i’n ddim y deallt y gêm.

Dw i’n rhy hen! Dylwn i ymchwilio pam mae plant yn licio fo. Dw i’n wedi dechrau dweud pethau oedd fy nhad dweud!

Neis iawn. Eleni es i i Thailand, a llynedd i Malaysia. Oedd yn poeth iawn.

Ond wnes i ddygsu coginio bwyd lleol.

A, a, a … pa mor hen ywt ti? Dwi’n teimlo bod ti ddim yn henach na fi … ac, dw i’n deall yr gem. Dw i ddim yn chwarae “survvival” er a pan dw i’n chwarae “mode” hon dw i’n chwarae fe heb angenfilod . Os ti ddim yn moyn i frwydr, ti’n gallu adeiladu beth ti’n dychmagu. Jyst rhoi ciwbiau o ddeunydd ar ei gilydd ac dilyn dychymyg ac ti’n iawn … Os ti’n chwarae “Creative” does ddim rhaid i ti chloddio a chasglu yr deunydd o gwbl. :slight_smile:

Rwybeth o log i chi bawb beth wnes i wneud rhai mlyned nol.

Trio ac joyo. :slight_smile:

Hwyl!

1 Like

hanner cant yn mis ionawr. dw i’n gwybod, “dw i ddim yn edrych yn ddigon hen” :wink:

1 Like

Mae WNO yn wych. Dw i dipyn bach yn ‘biased’ achos oedd fy ngŵr yn arfer chwarae yn y gerddorfa nes ychydig o flynyddoedd yn ôl pan gaeth e ei anafu, ac mae gyda ni lawr o ffrindiau yna. Ond oedd yn wirioneddol dda neithiwr. Mae’r gerddorfa’n well nag erioed.
Os ti ddim yn gyfarwydd gyda opera eto byddwn i’n argymell dechrau gyda un o’r ‘tear jerkers’ efallai, pan ddaw rhywbeth fel ‘La Boheme’ - dim yn gallu methu!

Mae fy ngŵr yn gaeth i Minecraft! Wnaeth e ddechrau chwarae er mwyn deall beth oedd y plant yn gwneud. Ond nawr, mae’r plant wastad yn gofyn iddo fe a yw e eisiau chwarae, achos maen nhw’n hoffi ei wylio fe!

2 Likes

Mae hynna yn doniol!