Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Wel, ddoe es i gyfarfod trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn yr Atom i glywed am gynllun y cyngor (Sir Gar) am yr iaith rhwng nawr a 2021 (cyfrif nesa).

Roedd rhaid i fi adael yn gynnar oherwydd Gŵyl Defaid yn Llanymddyfri ble o’n i’n nyddu. Ond pan gyrhaeddais i nid doedd gŵyl. Penwythnos nesa!

Felly es i i Lyn Brianne, 6 milltir o ffynnon yr afon Tywi, ac o’n ni’n ar goll ar y ffordd. Mwynheais y ffyrdd bach.

Neithiwr es i i Dwmpath yn y Canolfan Halliwell ym Mhrifysgol Dewi Sant (ayyb) yng Nghaerfyrddin i gael “workout”.

1 Like

A heddiw? Dw i newydd frwydro fy ffordd trwy Amazon Japan i archebu llyfr am bererindod o gwmpas ynys Shikoku ac 88 o’i themlau.

Dwi newydd paratoi ffrwchnedd ar gyfer y rhewgell. Mae Asda yn gwerthu ffrwyth wedi difrodi am rhad iawn. 30c i’r cwbl. Wrth gwrs, dwi’n trio bod yn glyfar defnyddio’r gair “ffrwchnedd”, dwi ddim yn gwybod hyd yn oed os mae o’n hollol cywir. :joy:

Sa i’n deall, hyd yn oed gyda’r geriadur.

Ti ddim yn dallt beth? Gair? Brawddeg? Yr holl peth?

Y gair. Sa i’n gallu ei ffeindio yn y GPC. Ffrwch yw ‘eruption’ yn ol nhw.

1 Like

O’n i’n trio bod yn glyfar, ffrwchnedd ydy’r gair “proper” ar gyfer banana. Ond does neb (bron) yn ei ddefnyddio fo.

1 Like

Dan ni’n mynd i gael twmpath ar gyfer ein priodas ni! Sut oedd o?

Heddiw, roedd rhaid i mi weithio. Roedd diwrnod da. Doedd o ddim yn brysur ond ddim yn dawel chwaith, felly aeth yr amser yn gyflym.

Roedd y dwmpath rhan o benwythnos gwneud cerddoriath gwerin trefnwyd gan TRAC. Daeth llu o gerddorwyr, llais, ffidl, telyn, bodhran, pibau o bobman. Roedd gwaithdai dros y benwythnos ac roedd sesiwn ar ol y dwmpath hefyd.

Pat Smith o “Pluck & Squeeze Band” oedd y daplasgwraig (?) (caller)

1 Like

Yuck - bwyd diafol!

1 Like

Rwan hyn, dwi’n lawnsio ‘swyddfa’ newydd - ia, mae cysylltiad i’r we wedi cyrraedd Carmel! Ac mae gynnon ni linell ffon hefyd! Mae bywyd yn ail-ddechrau… (ac mae rhywun hynod glen wedi galw draw heddiw a gadael potel o win coch neis y tu mewn i’r giat, ond dan ni ddim yn gwybod pwy!)… :slight_smile:

5 Likes

Ydw i’n medru gweld Maggie ar y ffenest?

2 Likes

Dwi ddim yn gwybod. Mae’n dibynnu os ydi dy lygaid yn gweithio neu beidio…

2 Likes

Felly, yndw. :blush:

2 Likes

Mae’n edrych fel Maggie

1 Like

Dw i’n tybio bod hi’n helpu aran efo cwrs newydd.

2 Likes

Hi sgwennodd pob dim hyd yma…:wink:

2 Likes

Wel mae hi’n gwneud yn dda iawn.

1 Like

Wel mae fy mab yn dysgu sut i yrru.

Felly, y prynhawn 'ma, aethon ni i Rhuthun. Yn anffodus dydy o ddim yn medru siarad cymraeg. Roedd o’n dysgu yn yr ysgol ond dydy o ddim yn defnyddio hi.

Felly ddudes i popeth yn y Gymraeg. Doedd o ddim yn hapus!

1 Like