(Nes i sgwennu hwn heb edrych i fyny dim byd[1] fel fy arholiad pen blywdd. Mae’n ddrwg gen i am y camgymeiriadau ofnadwy…)
Felly, yng nghanol mis Mehefin bydda i wedi bod yn dysgu’r Gymraeg efo SSIW ers flwyddyn, ac o’n i’n meddwl y byddai hi’n dda i sgwennu rhwybeth amdani fel adroddiad a fel diolch.
Beth bynnag, dyma fy stori fi am y boen, am y dagrau, am y galon wedi’i thorri, am…
Na – roedd hi’n lllawer o hywl, bendigedig. Dw i wedi ei charu hi’n i gyd, bob munud. Nes i ddechrau ym mis Mehefin diwethaf heb medru dweud dim byd ar wahân i ‘dim parcio’ a rŵan dw i’n teimlo’n digon hyderus i neud twpsyn o fy hyn yn y Gymraeg ar y fforwm fel 'ma. (Yn hytrach nag yn Saesneg fel arfer…)
Mae’n dim ond cam cyntaf, wrth gwrs, ond dw i’n wrth fy modd efo SSIW, @nia.llywelyn, @Deborah-SSi, @aran, @CatrinLliarJones, @siaronjames, @garethrking (a’i lyfrau), a pawb ar y fforwm neu ar Slack sydd wedi fy helpu fi ac wedi ateb fy nghwestiynau twpion dros y flwyddyn.
'Na ni, felly. Diolch o galon i chi i gyd!
…What I think I’ve just said is: I’ve been doing SSIW for a year, starting from almost no knowledge of Welsh and now can make loads of mistakes with confidence. It’s been great: SSIW is fantastic and so are the people on this forum and on Slack. Ta very much!
[1] Heb edrych i fyny dim byd ar wahân i’r gair ‘geiriadur’…