C89 O dywod Casablanca i draeth Newgale gan Estrys
Pan fydd y gwaith yn ormod
Ac mae bywyd yn dod ar fy mhen i
Dw i’n hoffi mynd i Gerdded Nordig ar draeth Newgale.
Wrth i mi weld y traeth yn ymestyn allan o fy mlaen
Ac dw i’n edrych allan ar helaethrwydd y môr,
Neu edrych yn ôl tuag at y Preselis,
Dw i’n teimlo mor fach, mor ddibwys
Ac dw i’n gwybod, fel Rick yn Casablanca,
Nad yw fy nhrafferthion yn gyfystyr â bryn o ffa
Ac dw i wedi gwneud môr a mynydd yn unig.