2021 Eisteddfod entries - Short Poem

Short poem, written in free verse, on the topic “Môr a Mynydd”

p.s. sorry if the Forum seems to have lost a bit of formatting of the line spaces, I’ll try to figure it out and improve it later - in any case, we should be able to publish them also on a website which gives a bit more options and have them all look as nice as possible!

To vote for the People’s Choice award in the Short Poem category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Short Poem and scroll down to see the voting poll.

C5 Ti a fi gan Y Gonzo Gwych

Ar gyfer lliw dwi’n dewis llwyd, brown a gwyrdd mwsogel

Rwy’n sefyll yn yr unfan, symud yn araf, ymsteb ychydig

Dwi’n gysin, bob amser yn bresennol, yn galonogol

Mae fy gwraig yn dewis lliw yn dibynnu ar y diwrnod neu’r haul

Mae hi’n gyffrous iawn, pob amser yn symud, yn berlymu, yn berwi

Mae hi’n ddwfn ac mae hi’n llawn bywyd

Mae gwrthwynebwyr yn denu

Fi yw’r mynydd

Hi yw’r mor

C6 Paid a Becso gan Siôn o’r Fannau

Sssssh, paid a becso cariad bach,

S’dim ots i unrhywun, heb ti ar bydysawd,

S’dim ots i unrhywun, dangos amynedd,

Mae’r môr un aros a hefyd y mynydd,

Byth amseroedd well yn dod, gyda llawenydd,

Byth popeth un iawn ac yn iach.

C8 Rwy’n Byw Yma gan Doodle

Mewn man lle mae cymylau o anadl draig yn cyrlio dros y bryniau hynafol,

Mewn man lle mae awyr agored, helaeth yn cwrdd â dyfroedd steely, wedi’u taflu gan donnau.

Mewn man lle mae blancedi o wyrdd yn cwympo i lawr bryniau tonnog, yn cuddio clogfeini mynyddig mewn gorchuddion tebyg i cwrlid,

Mewn man lle mae awelon ysgafn yn troi glaswellt yn foroedd o lafnau chwifio,

Mewn man lle mae coed hydrefol, euraidd yn newid yng nghyffiniau llygad, gan droi at ddawnsio, ffyn duon ac yna at lawntiau emrallt yn ystod y gwanwyn,

Mewn man lle mae stormydd a gwyntoedd yn chwipio o amgylch a thrwy’r lonydd a’r ffyrdd, yn arddangos pwerau anhygoel yn ffyrnig ac yn falch, mae grymoedd natur yn cael eu tanamcangyfrif yn llwyr gan adnoddau dynol,

Mewn man lle mae mynyddoedd gwenithfaen llwyd llechi yn twrio dros bentrefi bach chwareli, wedi’u cysgodi yng nghysgodion y cerrig coffa anferth,

Mewn man lle mae myth a chwedl yn cydblethu, gan gymylu’r realiti presennol gyda gorffennol tanbaid, Celtaidd.

Dyma fi’n fodlon.

Dyma fi adref

C9 Hiraeth am Harlech gan Mair Abaty

Wrth i mi gerdded ar hyd y tywod,

Gadael olion traed lle dw’di bod.

Dw i’n troi cylch i weld yr olygfa,

Yno yn y pellter mae’r y Wyddfar

Yn falch o wylio mae hi’n sefyll

Ddydd a nos, yn olau ac yn tywyll.

Wedyn dw i’n edrych y tu ôl i mi

A weld mae’r dŵr yn adlewyrchu

Awyr glas, y mynyddoedd yn porffor

Lle mae nhw cafarfod evo y môr.

1 Like

C16 Môr a Mynydd gan Tynan

Daw ymwelwyr yn awyddus

Er mwyn gweld ein gwlad hynafol

Ei mynyddoedd, hyfryd, gleision

Y môr aflonydd ar dair ochr,

Daw y defaid ar mynyddoedd

O’r hen ffermydd yn y cymoedd,

Achos ar mynyddoedd Cymru

Sy’n tyfu’r porfa mwya’ melys.

Gweithgar hefyd, yr arfordir

Lle mae’r dynion dal yn fentro

Dros y môr yn hel y pysgod

Fel eu tadau o’u blaenau.

Mae’r tir yn dangos wyneb arall

Dros y misoedd hir yr haf

Pan ddaw cerddwyr i’r mynyddoedd

Ac i’r traethau ddaw teuluoedd.

Er eich bod chi’n eitha’ bychan

“Bach yw brydferth” medden nhw.

“Mab afrodlon, dere adref,

Dyma Gymru yn dy galw”.

C23 Dau nerth gan Yr anialwch

Ti sy’r môr

A fi sy’r mynydd

Dy gariad, dwfn a helaeth

Fy malchder, uchel a hunanol

Ti’n gwrthod ‘laen, dwi’n gwrthod nôl

Rhodda ngwên llonydd dagrau i lygaid di

Ti’n deud fod ti’n methu dallt stormydd nghalon

Dwi’n meddwl mod i’n methu dallt tonnau dy angerdd

Dwi’n gwylio’r adar yn hedfan

Ti’n danfon y morfilod yn ddi-ben-draw

Leiciet ti ddŵad i fyny, lle mae’r gwynt yn udo

A leiciwn i ddŵad i lawr, lle mae’r tonnau’n sibrwd

Dan ni’n trio

A dan ni’n cwffio

Yn erbyn ei gilydd, heb gwbod pam

Os oes cyfle, lle mae geiriau wedi mynd?

Dan ni’n credu

Dan ni’n gobeithio

Heb ateb, heb arwydd

Heb fod yn hollol onest, oes rili hawl inni deud bod ni’n hyderus?

C29 Môr a mynydd a Yr Ysgwrn gan Cyflythrennu

Mae’r mynyddoedd yn dawel heno

Achos bod y bugeiliaid ar draws y môr

Ymladd mewn gwlad bell.

Mae’r mynyddoedd yn dawel heno

Achos mae mamau’n

Crio dagrau distaw.

Mae’r mynyddoedd yn dawel heno

Achos mae’r sw^n mewn mân

Arall ar draws y môr.

Mae’r mynyddoedd yn dawel heno

Achos bod y gadair ddu

Wedi dod i fod ar eu bwys nhw.

C30 Y Môr Nos gan MabNefyn

Pan on i’n ifanc,

Oedden ni’n arfer cerdded ar y traethau gyda’r nos,

Rhosneigr, Niwbwrch, Cemlyn, Aberffraw,

Fy llaw fach yn llaw fy nhad.

Chwerthin a rhedeg a gweiddi ar y môr nos.

Mae dy geiriau yn dod â’r teimlad yn ôl:

“Tonnau; codi a cwympo mewn chwydd araf”

Rhaid i mi ei wneud, ydy dadgodio dy barddoniaeth ac wyt ti yno,

Mae dy llais yn swnio trwy’r blynyddoedd.

“Yng nghefnor tywyllaf yr ymennydd,

Mae synapsau yn gwreichioni,

Mil o bwyntiau yn y môr nos.”

Ac rŵan, fel dyn tyfu, dw i’n dal dy llaw eto, cyn i dy taith di olaf:

“Bydd y llanw hwn yn trai,

Bydd y don olaf yn gwneud ymosodiad olaf,

Cyn yr egwyl olaf,

Ac mae pob golau’n pylu.”

Felly, dw i’n mynd â chdi i Ynys Môn yn dy dychymyg di:

“Mae’r harddwch hwn yn cael ei wneud o’n marw”.

1 Like

C38 Rhwng Mynydd a Môr gan Ysgyfarnog Wyllt

Yn fy hoff le, rhwng mynydd a môr

Y Rhinosedd eistedd fel dannedd creigiog.

Islaw awyr o gymylau dramatig

A sbololeuadau heulwen.

Dw i’n cymryd y llwybr i’r ‘eglwys yn y tywod’

A ychwanegu at yr cregyn goffa

Am Eglwys Tanwg Sant

Dw i’n clywed y sibrwd ysgafn y môr.

Yma Aber Artro yn cysylltu y mynyddoedd â’r môr

A chyda’i gychod wedi’u hangori ym Mochras

Cyfarchion y cefnfor

Cofleidio gan Pen Llyn

A Bae Ceredigion i gyd

A pan fydd cymylau yn uchel neu absennol

Mae Eryri yn sefyll yn falch

Ac yn framio’r olygfa

Oherwydd bod popeth hardd am ogledd Cymru

Yma

Ar yr traeth

Rhwng môr a mynydd.

C39 Aflonydd gan Fioled

Goruwch Llanuwchllyn,

Yng ngwyllt Eryri,

Mae Afon Dyfrdwy’n codi -

Yn torri’n rhydd

O dywyllwch y ddaear

I olau disglair y dydd,

Yn newydd-anedig

Ond yn hŷn

Na chof y byd ei hun.

Rhed ei dyfroedd

Drwy’r wlad fel gwaed,

Yn gryf a phur,

Dod â bywyd i’r tir,

Byth yn llonydd,

Bob amser yn symud

Ymlaen, aflonydd

Am y môr agored,

A galw’r gwylanod.

C46 Moroedd pell gan Niwl Gwyn

Moroedd pell sy’n porthladdu’r cychod ac yn bwydo’r afonydd, darparu bywyd ac ymborth.

Diddigrwydd a ffyrnigrwydd.

Ynddoe ynysoedd ynysig i ddynion unig sydd wedi sefyll yn falch ers canrifoedd.

Mae’r moroedd yn ffin i fyd arall, byd mor helaeth a welir o’r mynydd.

C48 Mynydd a Môr gan Amynedd

Swn y gwynt ar y mynydd uchel,

Yn llenwi fy mhen gyda geiriau newydd.

Geiriau heb ystyr, anarferol imi.

Ond, dwfn yn fy mhola oes rhyw dealltwriaeth,

O’r geiriau mor hen na alla clywed yn iawn?

O, be’ ydy’r geiriau sy’n atsein yn fy mhen?

Nawr dw i’n cerdded ar tywod y traeth

Y mynydd yn uchel uwchben.

Yr un geiriau yn gweiddi,

Ond nawr dod maes ar y gwynt o’r môr.

O, be’ ydy’r geiriau o’r mynydd a môr,

Be’ ydy’r ystyr o bobeth o’m cwmpas?

Dw i’n siwr mod i’n eu ‘nabod, ond hefyd, dw i ddim.

Tawelwch! Mae’r gwynt wedi diflanu.

Ond, mae sibwryd bach, yn tawel yn fy mhen.

Dau air bach, colled a gobeith.

Geiriau fy nhadau o’n nhw ar y mynydd.

Geiriau fy mamau o’n nhw ar y traeth.

Ac, yn awr, ac yn araf dw i’n clywed a deall

Tra dw i’n findio fy iaith ar y mynydd a’r môr.

C49 Ar lan y mor gan Mochyn bach

Weithiau dw i’n hapus

Weithiau dw i’n trist

Ond…

Beth ?

‘Sen i’n dweud e yn Gymraeg

Dw i’n meddwl bo’ i’n teimlo trist llai o amser

A hapus moy o amser

Hmm…

Dw i’n teimlo yn well yn Gymraeg !

A yr cân ‘Ar lan y mor’ ?

Oh !

Dw i’n newydd wylo y pryd hwnnw…

C64 Noson Ddi-gwsg gan Marag Dhubh

Gair ysgafn achosodd y stwr

Awgrymiad dylai amaethwyr a’r byd natur

Byw ochr yn ochr

Daeth y ffrwydrad Trydar

‘Rhaid I ti cael dy herio ‘ychan!’

Dilynodd ton o ‘likes’

O’n i’n barod am rhyfel

‘Ddylen ni i gyd byta lentils o Uzbekistan?’

Chysgais I ddim noson honno

O’n I’n parodi atebion trwy’r nos

Agorais i Drydar y bore dilyn

Yn disgwyl ateb trydanol

Ond, yn y diwedd doedd hi ddim rhy syfrdanol

Anadlais i yn esmwyth unwaith eto

Dim ond ailadrodd fy nhweet i

Oedd yr ateb, mwy neu lai

Rhoais i’r gorau i’r holl sgwrs

I ganolbwyntio ar fy nghardd

C69 Stormydd Bywyd gan Eirlys

Golau y lleuad llawn yn creu llwybr llachar dros y tonnau

Y llwybr sy’n ymestyn i’r lanau ac i fyny ‘r llethrau y bryniau

Ar lloergan oleu’r creigiau tywyll y mynyddoedd

Mae’r glaw hefyd yn eu cysylltu fel ei gyrru ar y creigiau

Diferu i lawr, i lawr edrych am y nant, y rhaeadr a’r afon

I lawr, i lawr dros y pistyll, y creigiau a’r pyllau dwfn

Nes yr aber yn cyrraedd at y mor ac yn llifo i mewn y tonnau

Y tonnau, heddiw yn lapio’n ysgafn

Ac yn sibrwd y cyfrinachau’r mor

Ond weithiau mae’r tonnau yn taranau, rhuo a chwilfriwio

Felly mae’n nhw’n ysgubo ar draws y bae

Wrth i ni’n deithio trwy fywyd

Rydym yn cwrdd a’r tawelwch a’r stormydd

Ewch i’r mor sefwch ar y lannau, a wrandewch a’r swn y mÔr

Edrych i fyny i’r mynydd, gwyliwch y niwlog chwyrlio

Neu yr olau haul yn symud dros y copaon garw mareddog

Dim ond yno byddwch chi’n darganfod y cryfder i dal ati

A hefyd dewch o hyd I heddwch o fewn eich enaid

C81 Môr a Mynyddoedd gan Bilidowcar

Cawsom ein geni o’r môr a’r mynyddoedd,

O’r wlad wyllt hon uwchben y ddaear,

Ac o’r tywyllwch llwm isod.

O’r rhai a ymladdodd dros ein tir,

Ac o’r rhai a’i meithrinodd.

Yr haul a’r glaw,

A phob anadl o wynt yn ffurfio ein llwybr.

Mae llanwyau’n tywys ein dyddiau wrth i’r tonnau ymchwyddo i’n glannau

Maen nhw’n newid ac yn herio bob awr a phob dydd.

Rydym un gyda’r wlad hon.

Cawsom ein geni o’r gerddoriaeth y tonnau ar lannau yn ystod y gwanwyn.

Wnaethom dyfu i gerddoriaeth gwyntoedd y gaeaf yn ysgubo ar draws y mynyddoedd uchaf.

Ac rydym yn gorffwys i sŵn heddychlon nosweithiau haf.

Rydym yn clywed cerddoriaeth ein cyndeidiau,

Ac mae’r gerddoriaeth yn ein heneidiau yn ein harwain ymlaen.

Rydym yn un gyda’r wlad hon.

Gwrandewch ar ei lais.

Maethwch hi.

Defnyddiwch hi yn ddoeth.

Rydym yn un.

C89 O dywod Casablanca i draeth Newgale gan Estrys

Pan fydd y gwaith yn ormod

Ac mae bywyd yn dod ar fy mhen i

Dw i’n hoffi mynd i Gerdded Nordig ar draeth Newgale.

Wrth i mi weld y traeth yn ymestyn allan o fy mlaen

Ac dw i’n edrych allan ar helaethrwydd y môr,

Neu edrych yn ôl tuag at y Preselis,

Dw i’n teimlo mor fach, mor ddibwys

Ac dw i’n gwybod, fel Rick yn Casablanca,

Nad yw fy nhrafferthion yn gyfystyr â bryn o ffa

Ac dw i wedi gwneud môr a mynydd yn unig.

To vote for the People’s Choice award in the Short Poem category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Short Poem and scroll down to see the voting poll.

Winners announced!

1 Like