C60 Adolygiad gan Cam Ceiliog
‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’ - Gareth King
Ar Goll Am Eiriau
Mae’r llyfr dw i wedi’i ddewis yn agos fy nghalon ond do’n i ddim yn meddwl amdano fe ar y dechrau. Dw i ddim yn gwybod pam, achos fod e’n llyfr anhygoel. Mae’n cynnwys themâu fel arian, celf a chrefft, chwaraeon, hanes, rhyfel, a throsedd. Yn yr ail hanner, mae pethau yn dod yn beryglus gydag anturiaeth ac arswyd. Mae’n llyfr da iawn ar gyfer dysgwyr. Yn gyntaf, mae’n dechrau gyda geiriau byr, hawdd – ar ôl y rhagarweiniad, ar dudalen 1, mae’r llyfr yn dechrau ‘a a a a’. Dylwn i roi teitl y llyfr, yn wir. Dw i wedi dewis ‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’, golygwyd gan Gareth King. Nawr, dw i’n gwybod fod e ddim yn llyfr darllen ond gadewch i fi esbonio pam taw’r llyfr hwn yw’r gorau dw i wedi’i godi.
Pan ddechreuais i ddefnyddio’r geiriadur hwn, ro’n i’n ei ddefnyddio fel geiriadur. Do’n i ddim yn gwybod gair a chwiliais i amdano fe yn y geiriadur. Dros amser, fesul tipyn, ro’n i’n dechrau datgloi trysorau’r geiriadur. Yn gyntaf, pethau bach, fel bonau’r berfau neu luosogion yr enwau, i’r dde o’r gair. Symbolau’r treigladau. Sut i ddefnyddio geiriau, y cyd-destun. Benywaidd neu wrywaidd. Cysylltair neu adferf.
Wedyn, un dydd, yn ymlafnio gyda blwyddyn, blynyddoedd, a blynedd, troais i at y geiriadur a ffeindiais i un o’r esboniadau mwy. Mae tua thudalen am y pwnc, yn esbonio ac yn rhoi llawer o enghreifftiau. Aeth fy nryswch. Yn fy marn i, y bocs gorau yw’r bocs ‘bod’, dros ddwy dudalen. Yn y bocs, mae’n esbonio pob rhan o ‘bod’, sut mae ‘bod’ yn rhedeg, beth yw ystyr pob amser, popeth yn yr un lle, yn hawdd ei weld.
Yn ogystal â’r gramadeg gyda’r geiriau, mae adran o flaen y geiriau sy’n cwmpasu popeth, o’r wyddor i dreigladau i drefn geiriau, a llawer am ramadeg cyffredinol. Yng nghefn y geiriadur, mae termau gwleidyddol a rhestri daearyddiaeth, er yn anghyflawn.
Dyna’r un broblem gyda’r geiriadur hwn – mae’n rhy fyr a does dim digon o eiriau ynddo fe. Mae geiriau o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg neu ar-lein ar goll weithiau, mae termau gramadeg ar goll yn aml, ac mae rhyw eiriau yn un adran yn unig, fel anturiaeth ac arswyd yn y Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae’n broblem fach. Gorau prinder, prinder geiriau. Mae ‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’ yn llyfr gramadeg cymaint â geiriadur, yn ffrind i ddysgwyr, a baswn i’n ei argymell yn frwd.