2020 Eisteddfod entries - Short Poem

This category is for short poems of max. 20 lines, written in free verse, on the topic "Mewn Byd Rhyfedd"

After the entries, there is a survey where you can choose your favourite.

B7 “Byd Newidiol” gan Arianwen

Roedd y stryd yn tawel , gwag,
Ddim pobl, ddim traffig.
On i’n cerdedd yn araf, wedyn yn arafach
Ac edrych o gwmpas, chwilio am fywyd,
Unrhyw fywyd.
Lle roedd dyn, y creadur cymdeithasol,
Sy’n hoffi siarad, rhedeg, a cael parti?
Diflannu!
Roedd mor annaearol
Anfonodd ias i lawr fy asgwrn cefn,
Ond yna clywais i sisial, siffrwd, switian,
Fel roedd y natur yn codi, yn symud ei cheg, adain, cyhyr,
Am unwaith yn rhydd o sŵn a phrysurdeb dynol.
A blodau, llwyni, a choed yn teimlo eu rhyddid,
A’r aderyn yn hedfan eto yn y wybrennau gwag.
Pam?
Feirws newydd di feindio tŷ mewn pobl
Yn gwbl anymwybodol
Sut mae eu bywyd yn mynd i newid
I mewn i fyd eitha rhyfedd.

2 Likes

B18 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Llwyncelyn

  1. Dyn ni’n byw mewn byd rhyfedd
    Beth sy’n digwydd yn y byd?
    Mae coronofeirws ymhobman
    Yn achosi ofn i gyd.

  2. Bu farw miloedd o bobl
    Cyfnod clo amgylchu ni
    Ysgolion, siopau,capeli ar gau
    A phopeth yn edrych mor ddu.

  3. Cadwch pellter, golchi dwylo
    A gwisgo mwgwd tu fas
    Dyna’r rheolau i ddilyn nawr
    A phobl yn teimlo ddiflas.

  4. A beth am Gymru? Gwlad y Gan
    Dim corau i ganu nawr
    Dim llais i ganu mawl i Dduw
    Dim byd ond llwch y llawr.

  5. Ond dyddiau gwell sy’n dod rwyn siwr
    A thrwy’r cymylau du
    Gawn ni edrych am yr enfys bach
    Yn rhoi gobaith i chi a fi.

5 Likes

B28 “Ni” gan Dee Olch

Ti’n anadlu. Dw i’n anadlu.
Ti’n teimlo. Dw i’n teimlo.
Ti’n canu. Dw i’n gwrando.
Ti’n dychmygu. Dw i’n gobeithio.
Ti’n cerdded. Dw i’n nofio.
Ti’n ymestyn. Dw i’n dynn.
Ti’n dawncio. Dw i’n siglo yn dy esgyrn.
Dw i’n nabod ti, tywyllwch a dŵr.
Ond wedyn…
Dw i’n gwasgu. Ti’n gwthio.
Dw i’n tro. Ti’n tynnu.
Aer y tu allan. Aer y tu mewn.
Ti’n crio, “Fy mabi!”
Dw i’n crio, “Fy mam!”
Ti’n dal fi, ffres o fy nghasgen o fyd.
Ni’n gweld. Ni’n caru. Ni’n dechrau eto.

2 Likes

B31 “Mae’n fyd rhyfedd” gan Y Ddafad Ddu

Mae’n fyd rhyfedd dyn ni’n byw yndddo.
Pan nad yr ydym yn gofalu am yr amgylchedd
Mae’r moroedd ac y tir sy’n ein bwydo ni
Ac yr awyr bod ni’n anadlu yn cael eu bwgwll gan llygredd

Mae’n fyd rhyfedd dyn ni’n byw ynndddo
Pan nad yr ydym amdiffyn ein plant rhag niwed
Ac yn methu â pharchu ein henoed
Ac yn sicarhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed?

Mae’n fyd rhyfedd dyn ni’n byw yndddo
Os na allwn ddaparu lloches a chefnogaeth
Am y di-gartref a chynnig man diogel
I bobl sy’n ffoi erledigaeth a marwolaeth

Mae’n fyd rhyfedd dyn ni’n byw yndddo
Os gallwn anfon dynion i’r gofod
Ond ni allwn wella’r annwyd cyffredin
Neu’n dod â thlodi allan o’r cysgod

Mae’n fyd rhyfedd dyn ni’n byw ynddo
Gallem ei wneud yn un well pe byddem eisiau
Felly oherwydd ei fod yn un creulon am filiynau
Fasa’n byd rhyfeddach taswn ni ddim yn ceisio.

2 Likes

B32 “Cerdded efo fy nghi mewn byd rhyfedd” gan Merch O Traeth Goch

Dw i ddim yn gwybod pia tŷ ’ma,
Mae nhw’n gwarchod yn agos rwan
Dydy nhw ddim yn fy ngweld yn sefyll yma
Tra pobl arall yn crwydro heibio
Rhaid i fy nghi yn rhyfeddu
bo’ ni’n croesi’r lôn mor aml
i osgoi ffrindiau a dieithriad hefyd
a pheidio byth yn ddweud helo

Llonydd ydy’r llwybr heddi
heb sŵn o ceir neu awyrennau
Ond rhaid i fi beidio mynd am bell,
ond aros adre
cadw yn saf
Amddiffyn i ni gyd

2 Likes

B44 “Salvador” gan S.D. yr ail

Morfil yw fy mhen
a balwn yw morfil
mae’n bwrw glaw jeli
ac brenin yw oren
tebotau yw fy nhraed
a llong yw fy nghi
dydd yn fel nos
a nadroedd yn gallu hedfan
selsigau yw fy lawau
a cadeiriau yw cymylau
menyn yw’r mor
a tomato yw brenhines
Credaf bod y byd
yn lle rhyfedd iawn
ond meddai Mr. Dali
“Mae popeth yn da iawn”

2 Likes

B55 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Mrs Ddimyndda Iawn-Eto

Daeth mis Mawrth, gan ddod â strydoedd tawel,
Unigedd ac unigrwydd
On ni i gyd yn meddwl ein bod yn ddiogel yn ein rhyddid,
Ond roedd ofn a marwolaeth yn aros amdanon ni.

Daeth y gwanwyn â blodau a gobaith; ac yna
Canodd gwenoliaid eu cân haf o lawenydd.
Roedd yr haul yn tywynnu ar y tonnau unwaith eto
Ac am ychydig oedd ein byd yn well.

Ond, dyma ni eto, ar ein taith
Ni allwn gwrdd fel y gwnaethom unwaith.
Gwr wedi’i gloi i ffwrdd oddi wrth ei wraig.
Taid yn crio. Dim cwtsh nawr.

Daeth yr hydref, ei gwallt yn tywynnu,
Gyda fflamau tanbaid o goch ac aur,
Ond y pobl dal yn ofnus ac yn marw
Arhoswn i glywed gobaith yn ein galw.

Yn eira’r gaeaf byddwn yn defnyddio un iaith.
Byddwn yn gwenu ac yn gofalu am ein gilydd
Mae gobaith yn galw nawr ac rydyn ni’n ei chlywed.
Yn fuan byddwn yn cwtch eto yn y byd rhyfedd hwn.

2 Likes

B68 “Byd Niwlog” gan Gwennol Fuan

Weithiau mae’r byd yn anffurfio
Annisgwyl, dirybudd, mae’r haul yn gwelwi
Yn swta y niwl yn rholio i lawr
Chi’n canfod eich hun mewn byd rhyfedd
Byd bach; dan glo mewn cell â waliau tarth
Mae bysedd amwys yn eich bodio
Yn distewi’ch llais
Yn pylu’ch golwg
Yn cuddio eich bywyd, eich ffrindiau, eich teulu
Yn eich gadael yn ofnus, yn unig, ar goll.
Er moyn yr hen fyd ‘di diflannu
Nid yw cariad yn cael ei ddileu mor hawdd
Mae’r awyr yn gloywi; mae’r wawr yn agosáu
Gyda goriadau euraidd i droi’r clo.
Bydd yr adar yn canu, yr awel yn chwythu
Yn ysgafn yn gyntaf, ond yn casglu nerth.
Bydd y gofid yn lleddfu
Wrth y niwl yn anweddu
Ei fysedd main, cyrliog yn llosgi a threngi
Yn yr aer clir llachar byd newydd sbon.

3 Likes
  • B7 “Byd Newidiol” gan Arianwen
  • B18 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Llwyncelyn
  • B28 “Ni” gan Dee Olch
  • B31 “Mae’n fyd rhyfedd” gan Y Ddafad Ddu
  • B32 “Cerdded efo fy nghi mewn byd rhyfedd” gan Merch O Traeth Goch
  • B44 “Salvador” gan S.D. yr ail
  • B55 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Mrs Ddimyndda Iawn-Eto
  • B68 “Byd Niwlog” gan Gwennol Fuan

0 voters