Y33 “Blasu (Manon Steffan Ros)” gan Merch O Traeth Goch
Mae Blasu yn dechrau efo Pegi, y prif cymeriad, yn rhannu ennyd o llonydd efo ei mab, ar ôl y parti ar gyfer ei phenblwydd yn wyth deg. Mae o’n rhoi iddi llyfr nodiadau, yn gobeithio y bydd hi’n cofnodi rhan o ei atgofio hi.
Wedyn, mae hi’n mynd am tro, drwy’r pentre bach lle oedd hi’n byw ei holl bywyd a lle mae cysgodion o’r gorffennol yn aros yn bob cornel.
Oddi yno, mae stori yn mynd â ni yn syth i mewn stori ei bywyd, yn dechrau pan oedd hi’n wyth oed. Yn brwnt a llwgu, mae hi’n ffoi’r tŷ lle mae ei mam yn eistedd yn siglo ei hun, er mewn pledio am help o cymydog.
Mae bob pennod yn dechrau efo rysáit, ac mae bob un yn cael ei adrodd gan person arall – rhywun y cyffyrddodd Pegi â’i fywyd trwy fwyd. Dan ni’n cyfarfod ei nain a ei thaid, ei gwr, ei meibion, ei ffrind gorau – ond hefyd pobl bod hi’n cyfarfod dim ond o ddamwain.
Mae rhan mwyaf o pobl yn cael ei hudo gan Pegi a’i charedigrwydd go’ iawn a’i haelioni. Ond mae ychydig ohono nhw yn synhwyro rhywbeth tywyll tu mewn iddi. Yn bendant, mae’r ffaith bod hi bron â llwgu fel plentyn yn rhoi iddi perthynas afiach gyda bwyd. Ac mae Pegi ei hun yn aflonyddu gan y ofn y medrai dilyn llwybr ofnadwy ei mam. Ond mae dim ond yn tudalennau olaf y llyfr bod ni’n ffeindio allan y gwir torcalonnus yng ganol ei thywyllwch.
Mewn cyfres o cip tirion a chlir, mae Ross yn archwilio cariad, cyfeillgarwch, mamedd, meithrinodd ac esgeulustra, afiechyd meddwl a chorfforol, a henaint. Mae ei iaith ardderchog yn consurio y aroglau a blasau o’r bwyd bod hi’n disgrifio, yn ogystal â’r tir garw a thymorau cyfnewidiol Gogledd Cymru.
Profiad wahanol iawn ydy darllen y llyfr hwn yn y Gymraeg. Pan dw i’n darllen yn Saesneg, dw i’n llawcio pennod ar ôl pennod. Ond fel dysgwyr Cymraeg, rhaid i mi mynd yn araf, yn datglymu fesul brawddeg. Efallai dyna pam delweddau Ross yn aros yn fy meddwl mor glir.
Dw i’n wrth fy modd efo’r llyfrau Manon Steffan Ross, ond dyna fy hoff un. Dw i’n ei argymell o yn gryf.