Prose entries of up to 750 words, open to everyone, on the following topic:
"Fy hoff daith”
Prose entries of up to 750 words, open to everyone, on the following topic:
"Fy hoff daith”
Fy hoff daith gan drygioni
Dw i’n gyrru tu allan o Gonwy i’r A55 tuag Bangor sydd rhedeg ar hyd yr arfordir Gogledd Cymru, i Gaergybi, yn y pen draw. Felly, mae’r Bae Lerpwl yn eistedd yna ar y dde ac ar y chwith, mae’na bryniau godre Carneddau. Yn fuan, mae’r ffordd aroleddu a rhedeg trwy clogwyni ar hyd Twnel Pen Maen Bach, ymlaen. Tu allan o’r twnel mae’r ffordd yn disgyn a rhedeg ar hyd tir isel efo’r rheilfford ar y dde a, caeau tuag at pentre bach, Dwygyfylgi, ar y chwith. Ar ôl milltir neu ddau, mae’r ffordd yn codi eto ac, ar yr un pryd, mae’r Afon Menai dod i olwg. Mae’r pentir Penmaenmawr ymddangos ymlaen llwyd a twyll o’r chwarelyddiaeth a wedyn mae’r ffordd yn mynd trwy’r ail twnel, Pen Y Clip. Tu allan o’r twnel mae’r ffordd yn ddisgyn ac, yn y pellter agos, medra i weld y pafilion Clwb Croci Llanfairfechan, gorweddol isel, wrth y traeth, gyda, tu hwnt, yr ehangder Afon Menai. Ar y chwith, mae’na hen dai, neu gwestai Penmaenmawr, ac, ar y llethrau uwch, hen chwarelau a dwr cloc efo wyneb gwyn a fawr.
Weithiau yma, mae’r môr yn las, weithiau gwinau- mae’n dibynu ar uchder llanw. Os bydd y llanw isel, mae’r tywod yn ymrithio trwy’r dŵr neu cymysg efo’r dŵr os bydd y môr yn arw. Weithiau hefyd, pan y môr yn orlanw is, mae’r traeth gwinau ymestyn ymhell – y Traeth Lafan. Ar draws yr Afon Menai mae’r Ynys Seiriol efo’r goleudy yn nodi’r pwynt gogledd-dwyrain Sir Fôn. Weithiau, yn yr Haf, mae’r machlud haul tu hwnt Ynys Seiriol yn syfrdanol gyda lliwiau melyn, oren a goch yn switsio yr un, ar ôl y llall. Yn tymorau arall, cafodd y machlud haul tuag Caergybi a liwio Sir Fôn gyda gwawr rhosynnog . Serch dw i’n ymwybodol bod na ochr arall i’r A55, efo pentrefi, hanes, chwarelydd a phethau diddorol cysylltiol atyn nhw, dw i’n tueddi canolbwyntio ar dŵr byddnewid Afon Menai.
Wedyn, mae’r ffordd myned heibio yr hen gwestai ar ffin Afon Menai ar y dde a mae’r llethrau ar y chwith dyfod mwy wyrdd, gyda porfa a planhigfeydd yn le o’r chwarelau ; yn fuan, dyna pentre bach, Abergwyngregyn efo’r gweddill llys Llewelyn Fawr.
Rwan, ar draws y ddŵr mae’r gorwedd Biwmares, efo tâi tlwsau a liwgar erbyn y cefndir twyll. Ychydig mwy o filltir ac mae’na mynegbost yn dynodi Tal Y Bont ac, ar y dde yn ymrithio tyrrau Castell Penrhyn, twyll ac yn bendroni. Pellter byr wedyn ydy’ r cyffordd i Fangor. Dyna’r ddiwedd fy naith, y ddyddiau hyn, bo’ fy isio disgrifio. Ag eithrio bod drwyr tymorau, mae popeth yn newid – coed, glaswellt, planhigyn lleusieuol. Mae gan popeth ei tymor, tyfiant, blodeuog ac henaiddedd a, gyda newidiadau y rhain, mae’na newidiadai ymddangosiad a liw. Er engraifft, yn y Gwanwyn mae’na Cennin Pedr ar hyd y min y ffordd ac yn y gadw canolog. Yn yr haf, mae gan cychod yn hwylio yn cael eu weld symud yn arafu yn ôl ac ymlaen, ar y môr. Felly, mae bob daith ar hyd yr Afon Menai yn swynol.
Y ddyddiau hyn dw i’n gyrru y rhan hwn A55 pob noswaith Fercher ar fy ffordd i ymarfer seindorf , ym Miwmares. Blyddynoedd yn ôl ( 60+) ron i’n teithio ar cefn beic modur neu, yn fy ngar cyntaf ( dwy -sedd 1934 Morris Minor coch, efo cwcwll) ar A547, amser hir cyn cafodd y A55 ei adeilad o. Ron i’n myfyrwr yn edrych ymlaen at dychwelyd i Goleg Brifysgol Gogledd Cymru am ddechreuad tymor newydd ar ôl wythnosau gwyliau yn yr ardal diwydiannol a fyglyd, Stockport. Ar ôl wedi pasio trwy’r twnelau, ron i’n dechrau canu achos ron i’n mor hapus. Mor hapus i weld y prydferddwch Afon Menai unwaith eto a rhagweld cyfarfod fy ffrindiau unwaith eto. Y ddyddiau y rhain, roedd fy naith gorffen ym Mangor.
Felly, fy hoff daith, y ddyddiau hyn, dod yn ôl y cofion amserau gynharach a nodyn atgoffa am harddwch gogledd Cymru. Hiraeth Sais yn Gymru.
Teithiau efo’r Tylwyth Teg gan Hen Bost
Oedd pawb wedi clywed y straeon am y Tylwyth Teg. Ond fyddai Eiluned pengoch efo’i ymddygiad penstiff ddim yn gwrando ar y rhybuddion.
Gadawodd gwragedd eraill panad o lefrith erbyn yr aelwyd dros nos, rhag ofn bydd y tylwyth teg isio yfed. Ond gosodon nhw hoel haearn erbyn drws y lloft er mwyn eu rwystro nhw croesi trothwy. Oedd pawb isio cadw ar delerau da efo’r Tylwyth Teg, ond doedd neb isio nhw yn rhy agos.
Er hynny, oedd Eiluned awydd gweld drosti ei hun. Oedd isio feindio allan os ganddon nhw gwallt fel llin ac wynebau mor welw â golau lleuad. Os gwisgon nhw dillad mor wyrdd â’r dail yn y coed, a ganddon nhw llygaid a godywynnodd fel aur mewn sach cylchwerthwr.
Gadawodd Eiluned panad o lefrith ar silff ffenestr y lloft. Cafod hi gwared ar bob dim a wneud o haearn.
Clymodd un pen rhuban wrth dolen y cwpan ac y llall wrth’i bis. Felly, pe bai’r cwpan yn cael ei symud, fyddai hi’n deffro.
Un noson, pan oedd y lleuad dim ond edau arian a dal mewn rhwyd o gymylau, clywodd hi gwichian y ffenestr yn cael ei chodi. Pan agorodd ei llygaid, yno ar y silff oedd bonheddig a bonheddiges dim yn fwy na’r addurniadau llestri ar ei silff ben tân.
Cwrteisodd y bonheddiges a gwyrodd y bonheddig. Ond rhythodd y ddau ar y rhuban ysgarlad a clymu rhwng y cwpan a’i bis.
“Ydych chi’n ceisio ein maglu ni, Eiluned y Pwyll Gwyn?” gofynodd y dyn iddi.
“Nac ydw,” meddai Eluned. “O’n i isio dim ond gweld chi drosta i fy hun. Ac yn siarad efo chi. Yn gofyn i chi sut profiad ydy mewn gwlad y tylwyth teg.”
“Yn fyw hardd na medrwch chi dychmygu o gwbl,” meddai’r bonheddiges. “Fyddech chi’n hoffi ei weld o?”
Ac yn syth, tynnodd y dyn ffliwt ac yn dechrau ei chanu. Oedd hi’n ymddangos i Eiluned na chlywodd hi mo’r diwn yn union, ond ei deimlodd hi’n canu yn ei esgyrn. Cyn iddi ei sylwyddoli, oedd hi’n cael ei chodi hi uwch ben y silff ffenestr, ac oedd hi’n hedfan trwy’r nefoedd ochr yn ochr â’r cymylau esgutio, yr dyn wrth ei un ymyl ac yr ddynes wrth y llall.
Ac oedd hynny y tro olaf a welodd unrhyw un Eluned y Pwll Gwyn. Sef, tra oedd y bachgen fenga yn yr ardal y nos hun yn hen iawn yn wir. Ac wedyn, ymddangodd dynes ifanc efo gwallt goch yn erbyn y ffynnon, yn dylyfu gên ac yn ymestyn.
“Pa noson hir iawn”” meddai. “Ble mae pawb wedi mynd?”
Dechrodd y plant o’r pentre casglu o’i chwympus ac yn llygadu wrth a’i. Eisteddodd hi wrth y fynnon a lledaenodd ei sgertiau.
“Gad i mi ddweud wrthoch chi am fy hoff deith yn fy mhywyd” meddai. “Ni fyddwch chi dim ei chredu.”
Dychweliad i Gymru gan merchymynydd
Gan wawrio’r dydd codais i fy mhen yn araf, ymwybodol o’r cynnwrf yn yr awyr o fy ngwmpas. Sylweddolais i bod wnaeth yr amser wedi dod. Teimlais fy hun yn cynhyrfu, rhywbeth fel ‘Wanderlust’ yn ddwfn tu mewn. Roedd angen hefyd am adleoli; wnaeth bethau wedi dechrau poethi, uffern o grasboeth erbyn hyn, dweud y gwir.
Ar ôl ymestyn fy nghoesau, wnes i fachu ar gyfle i gymryd rhan mewn gwledd bwyd gwyllt. Edrychais i ymlaen at daith heriol ond wrth i ni baratoi i hedfan roedd yn amlwg bod pawb yn teimlo, fel fi, cymysgedd o densiwn a chyffro.
Sbel nes ymlaen a dyna ni i gyd, fry yn yr awyr las ar y cychwyn antur wefreiddiol er beryglus iawn. Yn sicr, tywydd perffaith i hedfan, gwynt teg, deheuol, yn helpu ni wrth fynd ac y bwyd ‘in flight’ yn flasus ac yn doreithiog.
O’n i’n lwcus, ges i gymdeithion di-ail i deithio efo fi, oedd yn codi calon bob tro. Dechrau da, tywydd ffafriol ond tirwedd undonog, wastad a sych grimp.
Ond nid chyffyrddus am hir; roedd y tir yn troi o dir isel yn rhywbeth mwy tonnog, wedyn yn mynyddoedd anferth. Roedd y tywydd yn gwaethygu, daeth wybrennau dywyll a chymylau duaidd aton ni a wnaeth y glaw ddechrau disgyn yn dew fel ffyn. Roedd aflonyddwch yn yr awyr, ac yn sydyn fflachiadau mellten, wedi eu dilyn bron yn sych gan daran ddychrynllyd. Lle oedd awyr las, rŵan rhywbeth fel caleidosgop o felyn wan a llwydwyrdd. Wedyn, wnaeth y storom ddiflannu cyn gynted ag y cyrhaeddodd, disodlwyd gan heulwen mor lachar.
O danaf ymddangosodd rhywbeth oren, môr dywod, wedi cael ei naddu mewn bob math o siapiau rhyfeddol, fel gerfluniau enfawr. Rŵan, roedd yr aer llonydd, chwilboeth ac yn sydyn roedd diffyg bwyd a hylif. Teimlais i fel o’n i wedi bod yn hedfan am byth, dim cynhaliaeth a dim byd i dorri ar yr undoneed.
Dan ni’n dechrau ffagio’n llwyr, pan newidiodd yr tirwedd unwaith eto. Ymlacio tipyn wnaethon ni, a daeth y bwyd, hefyd rhywbeth i yfed, yn ôl. Roedd yr hirdaith dros môr oren wedi bod yn arswydus dros ben ond rŵan o’n i’n teimlo, medron ni delio ag unrhyw ddigwyddiad. Brithodd y gweddill ein pererindod gan brofiadau, weithiau’n annymunol.
Un tro dan ni wedi hedfan yn rhy agos at felinau gwynt gawraidd niferus oedd yn sefyll ar hyd yr arfordir. FFortun dda ganddon ni; dihangon ni y llafnau mawr chwyrlio o drwch blewyn. Hefyd roedd rhaid i ni fod yn ofalus gan hedfan dros, neu wau ein ffordd ni trwy, adeiladau bron digon tal, ‘skyscrapers’ yn Saesneg, i gyrraedd y nefoedd.
Wedi goroesi môr tywod a pob math o beryglon daethon ni wyneb yn wyneb â môr go iawn, ehangder glas ysgleiniog. Roedd hedfan drosto’n lladdfa; dychmygwch fy mhleser pan ddaeth clogwyni gwyn i’r golwg. Teimlais fy mod i wedi cyrraedd y rhan olaf fy nhaith i.
Rŵan ges i fy nghroesawu gan dirwedd addfwyn, tyfiant gwyrdd ffres dros dwyndir tonnog. O’n i’n ymwybodol o rywbeth, greddf hwyrach, yn gwthio ni ymlaen. Newidiodd y tir ychydig, trodd yn mwy bryniog ac yn sydyn teimlais i ym mêr fy esgyrn, o’n i’n nesáu at fy nghartref.
Acw, yn y pellter safodd beudy ac, wrth hedfan ar hyd y llwybr ato fo, sylwais i rhywun yn cylchu o gwmpas yr adeilad, fy nghymar. Plymiais trwy’r ffenestr y beudy, hapus i landio ar drawst o dan y to. Wnaeth fy nghymar ymuno â fi; cleddais fy wyneb yn ei gôt bluen gynnes. Adref, o’r diwedd. Rŵan, amser nythu.
Tu allan, yn yr ardd, clywes i bloeddiadau llawn cyffro. ‘Mam, y gwenoliaid, mae nhw wedi dod nôl!’
Troednodyn :- Mae’r daith y gwennol yn anhygoel. Aderyn, maint y bocs matsis, sydd yn hedfan rhwng Dde Afrika a Chymru dwywaith y flwyddyn, trwy diroedd angar, tywydd ofnadwy, heb sôn am elynion. Gwyrth, yn bendant. Dw i’n codi fy het iddyn nhw. Fy hoff daith i ddarllen amdani, heb os nac oni bai!!
Fy hoff daith gan Gwrach Wrych Gwyllt
Dw i’n cyfrif fy hunan yn lwcus iawn yn y byd rhyfeddol a chythryblus hwn.
Allwn i siarad am fy bywyd bob dydd, ac un o fy hoff daithiau dw i’n gwneud yn aml iawn; ond yn lle, dw i’n mynd i siarad am y daith arbennig hoffen i drio, os oedd llawer o arian gyda fi, a llong ofod.
Dw i’n cofio pan on i’n ifanc, darllen llyfrau am gofod allanol, y byddai fy Ewythr Malcolm yn prynu i fi. Am y lleuad, am planedau anhygoel fel Saturn, a galaethau bell; mor bell am y byd ‘ma, a mor hen, allwn i ddim yn dychmygu sut bydda fe’n teimlo i deithio drwy gofod ac amser, i weld y llefydd yma.
Felly, byddwn I’n edrych ar a lluniau a breuddwyd amdanyn nhw.
Hoffwn i fynd ar taith o gwmpas y bydysawd, i weld am fy hunan, y rhyfeddodau syn byw yn bell o ein byd bach ni.
Dim yn posib ar hyn o bryd dw i’n gwybod, ond achos dw i’n caru Sci-fi, alla I breuddwyd am dringo tu fewn fy llong ofod arian, a dianc rhag y byd gyda fy ci ffyddlon, llawer o bwyd a dwr wrth gwrs, ar gyfer fi a fy nghi, a gwthio heibio y byd a deithio yn gyflym iawn, i mewn gofod.
Beth rhyfeddodau wnan ni’n weld, efallai, wnan ni’n cwrdd â bobl am y byd gwahanol. Ond, bydden nhw fod yn gyfeillgar neu anghyfeillgar? Mor cyffrous dw i’n meddwl a tipyn bach brawychus hefyd.
Allen nhw fod yn mwy peiriant na fi, mwy uwch! Allen nhw meddwl bo fi’n pryfed! rhywbeth bach ac ddibwys, jyst fel sut rhai bobl yn meddwl am anifeiliad ar ein byd ni. Rhywbeth dw i’n cael hi’n anodd i ddeall i ddweud y gwir. Mae i gyd bywyd yn pwysig!
Allen ni ddysgu pethau newydd, technoleg cyffrous newydd, pethau anhygoel i helpu ni atgyweirio ein byd ni yn ôl adre. Ond, ar y llaw arall, allen ni cwympo i lawr twll du, a mynd am goll am byth!!!
Wrth gwrs, bydd fy llong ofod yn solar, neu rhyw fath o ynni glân pan teithio drwy’r gofod. Llawer o teclynau clyfar, a pethau i gadw ni yn brysur, fel profion gwyddonol a biolegol. Rhaid i ni fod yn gallu stopio fynd yn gwallgof!
Dw i ddim yn siwr os allen ni dod adre. Efallai dim posib ar ôl teithio mor bell o ein adre ni!
Ond dw i’n meddwl, bod un diwrnod mae fe’n mynd i fod yn posib am pobl am y Ddaear i deithio yn bell o’r byd, yn bell o’r milky way i mewn gofod allanol fel y rhaglen Star Trek.
Dw i ddim ond dymuno, y gallai fod yn fi!
Taith Hunllefus gan Dimgobaithcaneri
Lluniwch yr olygfa. Fi ar y Maes. Yn y Gogledd. Yn Ynys Môn. Yn siarad Cymraeg efo pob math o bobl hyfryd (ddim yn rhugl – nid o bell ffordd, ond digon da i gynnal sgwrs. Fi? Yn siarad Cymraeg? Ie, yn wir. Yn hollol wir. Ac yn gyfarfod Dewi Pws, Lisa Angharad, Ffion Davis ag Elin Fflur. Elin Fflur!! O Mam bach!
Gad i mi esbonio…
Dwi wedi bod yn wastad eisiau dysgu siarad Cymraeg ers talwm ond dwi ‘di methu yn hollol. Ond mewn yn y Gwanwyn 2015 gyfarfu’r fab fy mhartner i merch hyfryd iawn o Ynys Môn. Chwe mis yn hwyrach a mae nhw mewn cariad dros ei ben a’i glustiau a felly dyma fy mhartner a fi hun yn mynd i Langefni, Sir Fôn i gyfarfod efo rhieni hi.
Ar ôl penwythnos neis iawn iawn yn Sir Fôn ac yn bwrw ymlaen fel tŷ ar dân efo ein ffrindiau newydd nes i penderfynu bod bydd syniad da i fedru siarad efo nhw (a Nicci bach) yn eu iaith cyntaf / naturiol yn y dyfodol. Roedd amser i trio ddysgu yr iaith nefoedd unwaith eto. Roedd hynny’r cic yn y pen ôl nes i angen. Hefyd, fy mhartner a fi wedi cwympo mewn cariad efo Ynys Môn a’r Gogledd.
Ar ôl sawl o ddechrau ffug efo lyfrau ‘Dysgu fy hunan’ a chwilio arlein, ffeindiais i SSiW. Dilch byth! Cwrs siarad ac cwrs le dwi medru gweithio at gyflym fy hun, o amgylch fy sifftiau gwaith, ac ati.
Ond … pan nes i clicio’r botwm er mwyn yn ddechrau ddysgu … o’n i’n gyflwyno efo “Pa iaith wyt ti’n eisiau / moyn dysgu? Iaith yr De neu yr iaith Gogledd?
Beth? Beth y f…? Dwy iaith? O Mam bach! Mewn yn yr llyfrau ‘Teach Yourself’ bod dwi ‘di trio (ac yn methu yn llawer) dyna oedd dim sôn am dwy iaith Cymraeg!
Felly dyna pam (achos o’r gysylltiad i’r gogledd ac Ynys Môn) boi o Gasnewydd yn wreiddiol syn dechrau ddysgu Cymraeg Gogledd. Rwan dwi wedi cwpla chwe cwrsau gogledd a dau lefelau Cymraeg y dde.
Felly, fe allech chi’n ddweud bod gan dysgu Cymraeg dwi ‘di dod dim jyst ddwyaithog ond tairiaithog! Hefyd, dwi medru mwynhau y ddau o Pobl y Cwm ac Rownd a Rownd! Mwynhau llyfrau bod sy’n ‘sgwennu mewn de Cymraeg ac gog Cymraeg. A, gyda law, ymddiheuriadau os dwi ‘di gymysg y ddwy iaith yn y stori ‘ma!
A bant a fi, dyn hwntw (dwi’n dod o Gasnewydd yn wreiddiol ac yn byw mewn Weston-super-Mare, yn Loegr (un stori arall!) yn ddysgu Cymraeg Gog.
Dau blynyddoedd yn diweddar dyma fi at Eisteddfod Ynys Môn, Bodedern ac yn siarad efo Elin Fflur. Elin blydi Fflur! A roedd hi’n hyfryd iawn iawn hefyd. Roedd hi’n cweit hapus i beri am lun efo fi. Mae ganddi’r llun hon yn balchder o le ar fy sielff lyfrau i rwan. Roedd hi siarad efo fi yn y Cymraeg ac efo fy mhartner i yn Sais am rhyw deg munud. Profiad bendigedig.
Roedd pawb yn neis iawn ac yn hapus iawn ac yn amynydd iawn i siarad Cymraeg efo fi. Dim jyst yr ‘selebs’ Cymraeg ond yr gwerin tatws ‘fyd. Roedd y pobl mor neis. Ges i sgwrs hyfryd efo ffermwr o Llanwrst a’i deulu, efo hen dyn o Gaernarfon, tri ddynes canol-oed o Bethesda , merch ifanc ar stondin ‘Sgod a Sglods’ ac hefyd Dewi Pws ddweudof ‘S’mae’ i mi!
Diolch yn fawr i SSiW i gyd.
Ac felly fy hoff daith erioed oedd y daith cyntaf i’r Gogledd, daith o ddarganfod, i Sir Fôn; yr Wyddfa; Llanberis, Pen Llyn; Benllech; Caernarfon; Llandudno; Porthaethwy; Biwmares; Betws-y-Coed; ac ati, ac ati, ac yn syrthio mewn cariad efo’r le. Y daith cyntaf erioed yn siarad Cymraeg – yn Gymru; at ‘Steddfod hefyd!
Ag hefyd, achos mae’r daith ‘ma i arwain at taith hiraf – sef y daith mwyaf bendigedig ac mwyaf balchaf yn fy bywyd i gyd erioed – i ddysgu, yn siarad, yn ddarllen ac yn Gwerthfawrogi fath iaith bendigedig – yr iaith nefoedd.
Caerdydd i Ynys Môn gan Pam Lai arall
Dw i’n caru teithio … llawer. A dwi’n caru teithiau o bob math, wel, bron pob math; awyrennau, trenau, ceir, cerdded, a weithiau y bws hyd yn oed, ond byth mewn llong ar y môr. Dwi’n wastad teimlo’n sâl. Hefyd, mae llawer o leoedd i fynd yn y byd. Dwi’n hoffi mynd tramor a dwi’n hoffi teithiau ym Mhrydain, yn arbennig yng Nghymru wrth gwrs. Lle nesa’ te? Does dim syniad gyda fi ar hyn o bryd. Mae pob taith yn gyffrous, a pob tro dw i’n hapus i ddod adref i Gymru ond tybed, beth yw fy hoff daith? Wel mae hynny’n hawdd, gad i fi ddweud pam wrthoch chi.
Roedd tua saith blynyddoedd yn ôl pan rhaid i fi teithio i Fangor ar gyfer cyfarfydd yn ystod dau ddiwrnod. Fel arfer dw i’n eitha hapus gyrru i Ogledd Cymru o’r De achos mae’n daith hyfryd iawn, ond mae’n daith hir hefyd a baswn wedi angen aros mewn gwesty am ddau noson. Doedd dim digon o amser i wneud hynny a ddychwelyd ‘nôl i waith mewn pryd, felly, penderfynais i fynd yn syth o Gaerdydd i Ynys Môn mewn awyren; cyffrous neu beth?
Ddechreuoedd y diwnrnod dim yn dda achos on i’n hwyr cyrraedd y maes awyr ac oedd rhaid i fi rhedeg. Cyrrhaeddais i i’r awyren yn chwysu a chywilydd, ond o leiaf, nes i gyraedd. Roedd hi’n dal yn gynnar yn y bore gyda’r gwawr yn deffro. Edrychais i’r awyren; o diar, oedd hi’n fach iawn a dim ond lle am y peilot, ei croesawydd awyr a deg o deithiwr! Roedd y teithwyr eraill yn eistedd yn eu seddau yn barod, felly eisteddais i ar y sedd wrth ochr y drws a ffastnais y gwregys diogelwch. Edrychais i drwy’r fenest fach ar y drws; allais i ddim edrych ar y teithwyr eraill, on i’n meddwl bo’n nhw’n disgwyl yn eithe grac.
Ar ôl y gwybodaeth ddiogelwch, eisteddodd y croesawydd awyr wrth ochr y peilot (gyda ei ffôn pen) ac on ni’n lan yn yr awyr. Roedd yr awyren yn swnllyd iawn ond doedd dim ots achos gyda’r awyr glir gallais i weld golygfeydd rhyfeddol. Aeth yr awyren dros y Fannau Frycheiniog; does byth dymuno arna i wneud neid parasiwt, ond y bore ‘na on i’n meddwl efallai, jest efallai. Roedd y fannau mor hardd on i’n moyn hofran yn yr awyr fel aderyn, a byth stopio edrych. Wedyn, ar ôl amser byr ehedfon ni ar draws canol Cymru ac yno, welais i’r mynyddoedd gwych Eryri cyn ymddangodd yr arfordir. Edrychodd y môr mor lân gyda liwiau o las a gwyrdd a thonnau wyn. Trodd yr awyren ychydig a welais i Ynys Môn dan ni. Ynys hyfryd iawn yw hi a meddylais i, dyna pam eu bod yn dweud ‘Môn Mam Gymru’.
Mae’r taith awyren o Gaerdydd i Ynys Môn yn taith fer ac oedd y holl ffo llai nag un awr. On i’n gobeithio basai’r daith yn hirach fel gallwn i gael mwy o amser i weld y cefn gwlad hardd, yr afordir enwog ac y môr gloyw. Rhy fuan, tiriodd yr awyren, gorffennodd y taith ac aeth pawb ar eu teithiau gwahanol, tra es i i fy nghyfarfod ym Mangor.
Roedd rhan cyntaf y taith wedi gorffen ac oedd rhaid i fi fynd adref y diwrnod nesaf. Yn anffoddus roedd hi’n tywyll yn ystod y taith hon a doedd dim cyfle i weld y golygfeydd eto;
ond efallai, gobeithiaf, un diwrnod yn y dyfodol,
galla’i wneud e eto.
Adleisiau gan Dylan Colomen
Dan ni wedi bod yn cerdedd trwy’r dydd yn y mynyddoedd. Oedd y tywydd yn niwlog ac oer a dan ni’n wedi colli ein ffordd. Oedd popeth yn teimlo ar goll i mi.
Oedd yn mynd i fod fy hoff daith. Taith ar draws fy hoff wlad efo dau ffrind. Ond fy ffrindiau ddim yn siarad Cymraeg. Dw i’n meddwl oeddwn nhw teimlo gadael allan ac oeddwn nhw sbeitlyd oherwydd hyn. Oedd eu hagwedd nhw tuag at y wlad dw i’n caru difetha popeth.
Pan wnaethon ni ffeindio y bwthyn adfeiliedig, wnes i’n meddwl bydd tân codi ein calonnau. Wnes i edrych am rhywbeth i llosgi. Dyna pan wnes i ffeindio y hen papur melyn. On i’n ar fin i rhoi’r papur a’r tân pan weles i ysgrifennu.
Wrth i ni cyrcydu o gwmpas y tân bach, dyma beth wnes i darllen:
"Mae gen i ofn iawn. Rhaid i mi sgwennu hwn yn gyflym. Mae’r gannwyll bron â gorffen. Wedyn tywyllwch a dw i ddim yn gwybod beth dw i’n mynd i wneud. Mae gen i ofn ond dw i angen sgwennu hyn, rhywbeth i ddweud beth ddigwyddiodd yma. Does neb siarad Saesneg yma felly rhaid i mi sgwennu yn Gymraeg. Mae esgrifenni yn yr iaith hyfryd yn fy nhawelu. Dw i’n gobeithio bydd rhywun deallt. Dw ddim yn si?r os medra i.
"Oedd yn mynd i fod fy hoff daith. Taith ar draws fy hoff wlad efo dau ffrind. On i’n ei fwynhau yn fawr iawn. Oedd popeth yn hyfryd - yr iaith, yr diwylliant, y gerddoriaeth, y bobl! - cyn yr hunllef ddechrau. Mae Cymru’n wlad wyllt, a mae rhywbeth rhyfedd yma hefyd.
"Oedden ni mynd i aros i mewn bwthyn unig allan i’r pentref. Oedd yn bell i fynd i’r bwthyn, ond wnaeth fy ffrindiau isio aros yn y dafarn i yfed mwy o cwrw. Oedden nhw speitlyd i’r bobl yn y dafarn achos does neb siarad Saesneg yma. Wnes i ddim yn licio’r agwedd fy ffrindiau. O’n i’n teimlo cywilydd. Wnes i trio siarad efo hen ddynas yn y dafarn. Oedd hi isio iddyn ni fynd ond pan wnes i trio siarad Cymraeg efo hi oedd hi’n fwy cyfeillgar i mi. Wnes i ddim deallt popeth be’ ddudodd hi achos oedd ei hacen yn gryf ac oedd hi’n siarad Cymraeg yn gyflym iawn. Wnes i meddwl bo’fi wedi clywed y geriau “paid ag edrych”, “llygaid”, “coch” a rhywbeth fel “bydda i’n dod” ond wnes i meddwl bo’fi wedi camddeall.
"Pan wnaethon ni gadael y dafarn, oedd hi’n tywyll. Oedd y ffordd yn wag. Yn sydyn, wnaeth oernad ofdadwy adleisio trwy’r coed. Wnaethon ni trio brysio ond oedd rhywbeth yn ein dilyn. Wedyn, oedd rhywbeth a’r croesffordd. Rhywbeth ddu, rhywbeth mawr. Yn sydyn, wnes i deallt yr hen ddynas. Wrth i’r gwyllgi troi rownd i edrych, wnes i troi i ffwrdd. Wnes i galw fy ffrindiau ond oedden nhw wedi gweld y llygaid coch y gwyllgi. Wnaethon nhw ddim yn medri symud. Wrth i’r gwyllgi neidio, wnes i ddechrau rhedeg i ffwrdd.
"Dw i’n yn y bwthyn rwan. Dw i’n cadw’r gannwyll yn llosgi. Dyma’r yn olaf. Ond mae’r gannwyll bron â gorffen. Wedyn tywyllwch a dw i ddim yn gwybod beth dw i’n mynd i wneud. Mae gen i ofn. Bydd yr hen ddynas yn dod? ”
Pan wnaethon ni gadael y bwthyn adfeiliedig, oedd hi’n bron tywyll. Wnaethon ni trio brysio. Yn sydyn, oedden ni a’r croesffordd.
Wnaeth oernad ofdadwy adleisio trwy’r coed. Wrth i fy ffrindiau troi rownd i edrych, wnes i ddechrau rheged i ffwrdd. Oedd gen i ofn a do’n i ddim yn gwybod pa ffordd i fynd. Dyna pan weles i’r hen ddynas yn galw fi.
Fy hoff daith gan Does Dim Syniad
Fy Hoff Daith
Roedd tŷ drws nesa tan y pumdegau ond nawr, rhai adfeilion, gyda mafon duon a chwlwm y cythraul yn dringo drostynt. Mae fy ngŵr yn casglu dail coeden llawryfi’w sychu. Tu hwnt ydy’r cae, a mam Margaret oedd eu piau, tŷ a thir. Pan gyrhaeddon ni’r bentre roedd rhai metrau sgwâr y tu cefn ein cegin ni ond doedd mam Margaret am werthu nhw i ni. Roedd mam yn disgwyl ei mab dychwelyd i’r bentre (hyd yn oed oedd e yn ei 70au) ac adeiladu tŷ ar y tir teuluol. Ar ôl sawl marwolaeth, daeth y tir i’r farchnad agored a phrynwyd e gan John 10% o Ddillad Dynion Dyfed (Dw i’n hoffi dy wyneb, Gostyngiad 10%). Prynon ni ein ychydig fetrau sgwâr oddi wrtho fe (heb ostyngiad 10%!) a nawr does dim cyfle cael maes parcio drws nesa i’n cegin ni.
Ar ôl y cae yn sefyll ail dŷ. Roedd Jean athrawes Saesneg, gyda llawysgrifen berffaith ond bu farw hi tua deng mlynedd yn ôl. Roedd Dai löwr hen ymddeol cyn cyrhaeddon ni Gymru ac oedd e’n arfer cadw adar mewn adardy, mewn gardd berffaith. Does dim glaswellt yn dalach nag ei gymydog ac oedd llysiau yn tyfu yn ffrwythlon bob blwyddyn. Byddem ni’n cyfnewid rhai ohonynt am wyau, a phan ro’n ni’n ar ein gwyliau byddai fe gofalu ein hieir.
Tu hwnt Dai mae’r ffrindiau Denise a Christine yn byw, gyda’i gilydd, yn eitha anhapus. Cyrhaeddodd Denise pymtheg mlynedd yn ôl gyda’i thad yn heneiddio. Yn fuan daeth Christine ar ôl gwahaniad chwerw a helpodd Denise gyda Dad, gyda’i chalon dal yn Wlad Roeg. Ar farwolaeth Dad aeth y tŷ i Denise a’i brawd Paul, gyda’r posibilrwydd achosi digartrefrwydd i’r ddau ffrind. Prynodd Christine hanner tŷ, heb lot o ddewis. Mae hi’n gweithio mewn swydd y mae hi’n ei chasáu ac yn yfed gormod, ac rydyn ni’n clywed gormod amdani wrth Denise. Mae Denise yn moyn byw yn Iwerddon, a Christine ar ynys Roeg, a dyna nhw yma yng Nghymru.
Ochr arall , ar y cornel, ydy tŷ gwag. Roedd nyrs o’r ysbyty yn Llanelli, a’i theulu yn byw yno, a nawr mae nyrs o adran arall yn Llanelli yn adnewyddu’r tŷ. Mae Helen wedi bod yn gweithio ar y tŷ am fwy na ddwy flwyddyn ac na fydda hi, yn symud i mewn tan haf nesa pan fydd ei mab yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Ro’n i’n mynd i ddisgrifio fy milltir sgwâr, ond gyda’r geiriau ar gael dw i wedi cyrraedd dim ond y cornel cyntaf. Dw i’m wedi siarad am fy nghymdogion dros y ffordd. Denis o St Helena a Janet. Wyn sy’n trefnu camerâu teledu yn y Sioe Frenhinol, a Janet. Eu cymdogion gyda’r garafán enfawr a’r astroturf yn lle glaswellt go iawn. Tŷ John a Lynne. Prynon ni’n tŷ o fam-gu Lynne pan aeth hi mewn tŷ gofal. Roedd John yn ofalwr yn goleg amaethyddol lleol. Mae Lynne yn dweud fy mod i’n siarad Cymraeg rhy berffaith iddi hi. Drws nesa i John a Lynne yw’r siop Dillad Dynion Dyfed. Pan gyrhaeddon ni oedden nhw’n brysur iawn bob dydd Gwener gyda phobl yn casglu dillad ar gyfer priodasau dros y penwythnos a’u dychwelyd ar ddydd Llun nesa. Er gwaethaf y maes parcio o flaen y siop mae’r dyn siop yn parcio ei gar yn y ddreif Dai.
Dros lon fach ydy tŷ Byron ac Eira. Roedd Byron yn nabod pawb yn y pentre a byddai fe sefyll ar y palmant a chwifio i bawb. Bu farw fe sawl mis yn ôl a nawr mae’r twll mawr yng nghanol y gymuned hebddo fe. Roedd Eira’n gogydd yn yr ysgol uwchradd ac felly mae llawer yn ei nabod hi hefyd. A nawr, rydyn ni’n cyrraedd diwedd fy hoff daith, o gwmpas tai a ffrindiau ugain mlynedd, i dŷ Jenny a Ben. Roedd Jenny yn athrawes piano, yn ôl ei mab Ben, ond hefyd oedd hi wedi bod dynes lolipop. Mae hi a’i mab yn cael problemau iechyd meddwl. Weithiau mae Ben yn chwarae drymiau yng nghanol y nos. Problem i Denise a Christine. Roedd e’n arfer cael benthyg o arian ond nawr dim ond bagiau te neu bapur toiled.
Dim ond ar ysgrifennu am fy milltir sgwâr dw i’n dechrau deall cymaint o gariad sy gyda fi am yr ardal. Nid o’n i’n hapus ugain mlynedd yn ôl ar symud yma ond nawr, dyma fy mro. Gobeithio bydd rhywun, yn y dyfodol, yn ysgrifennu am eu bro nhw, a rhoi fi hanner brawddeg.
Fy hoff daith gan Madarch Hen
Dwyt ti’m yn cofio Macsen, does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd yn amser rhy hir i’r co’;
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A’n gadael yn genedl gyfan – a heddiw: wele ni!
Wrth gwrs, os ti’n nabod yr hanes gwirioneddol, ti’n gwybod – er gwaethaf beth mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd – nad oedd Macsen yn ymerawdwr pan daeth o i Gymru yr holl flynyddoedd yn ôl. A phan aeth o o Gymru, wnaeth o ddim dychwelyd i Rufain yn fuddugol: gafodd o ei orchfygiad yn brwydro yn erbyn lluoedd yr ymerawdwr Theodosius, a chollodd ei fywyd, er fod o wedi ildio.
Ac oedd y byd Rhufeinig ar fin newid am byth.
Ymerawdwr olaf yr holl ymerodraeth oedd Theodosius, gelyn Macsen: ei fab, Honorius, yr un gyntaf dim ond yn y gorllewin. I frwydro yn erbyn Honorius – yn union fel Macsen yn erbyn ei dad – wnaeth Custennin III mynd â’r llengoedd o Brydain, gan adael yr ynys hon i amddiffyn ei hun yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Mi symudodd Honorius brifddinas y gorllewin i Ravenna, yng ngogledd yr Eidal, ac yn Ravenna adaelwyd yn dipyn bach ar ôl farw Honorius yr eglwys a elwir yn Fawsolewm Galla Placidia ar ôl ei chwaer o.
Mae’r eglwys 'na dal yno – yno o hyd, os t’eisiau – ac os ei di i Ravenna, gei di gael cip o fyd a byddai’n adnabyddus i gyfoeswyr Macsen.
(Efallai mae rhaid i fi gyfaddef nad ydy fy hoff daith i i Gymru neu yng Nghymru: o leiaf dydy o ddim yn Lloegr, chwaith.)
Aethon ni i Ravenna tua deng mlynedd yn ôl, ar ein ffordd i’r Gwlad Groeg. Pryd hynny doedd gynnon ni ddim plant eto, felly mi gafon ni gymryd ein gwyliau ym mis Mai, yn ystod tymor ysgol, cyn i’r tywydd ddod yn rhy boeth a sych. Oedden ni wedi teithio trwy cyfandir yn llawn, llawn blodau gwylltion, yn mynd i lawr trwy Ffrainc ac ar draws yr Eidal rhwng moroedd pabiau cochion. Yn Ravenna mi welson ni ogoniant y brithweithiau yng Galla Placidia ac yn y basilica, ac ymweld â Mawsolewm Theodoric Fawr, fel twmpath cerrig, efo’i do o un maen dau gant o dunellau. (Wnaeth Theodoric deyrnasu’r ymerodraeth yn y gorllewin am fwy na thri deg blynedd ar cychwyn y chweched ganrif. Achos ei fod yn heresiad, ar ôl ei farw ddywedodd Catholigiaid yr Eidal mai wnaeth y diawl ei gario fo i lawr i’r uffern ar cefn ceffyl du, ond roedd y Llychlynwyr ac Almaenwyr yn adrodd chwedlau amdano am ganrifoedd. Daeth o hyd yn oed yn gymeriad bach yn y Ring gan Richard Wagner!)
O’r Eidal gafon ni gwch i hwylio trwy’r nos i lawr y Môr Adria i Groeg: gafon ni ddim mawr o gwsg, ond bore trannoeth welson ni’r wawr uwchben mynyddoedd Albania’n troi’r dŵr yn efydd.
Does gen i’m gofod i fanylu ar popeth wnaethon ni yng Ngroeg. Welson ni a wnaethon ni gymaint o bethau: mi wnaf i ddim ond sôn am letywraig yn agos at Delphi wnaeth bigo ffrwythau bach oren oedden ni heb eu gweld o’r blaen – loquats – o goeden yn ei gardd am frecwast ni; am sefyll ar pont tri mil o flynyddoedd oed; am aros yn ystafell wely Heinrich Schliemann (y dyn wnaeth ffeindio Mycenae a “syllu ar wyneb Agamemnon”); am ymweld ag eglwys fechan iawn tu mewn coeden gau; am traethau bach a bwyd blasus; am Mystras, prifddinas olaf yr ymerodraeth Rufeinig, ac ei heglwysau adfeiliedig efo eu ffresgos yn briwsioni; neu am berchennog y gwesty yn Sparta oedd yn teimlo’n gynefin, rhywsut – sylweddolais i yn y diwedd fod o, a fi, a fy mhartner i gyd yn defnyddio’r un persawr, a dyna pam!
Yn agos at yr eglwys mewn coeden, wnaethon ni aros mewn gyrchfan sgi annhymhorol mewn pinwydd, a chymryd rheilffordd rac a phiniwn i lawr y dyffryn ac yn ôl i fyny. Ar y ffordd yn ôl rhannon ni’r cerbyd efo offeiriad uniongred barfog tu hwnt a oedd yn jocan efo’r teithwyr eraill, ac yn gwisgo ei sbectol ac ei sbectol haul i gyd ar 'run pryd; efo hogyn bach oedd yn eistedd lle oedd gyrrwr y trên 'di eistedd ar y ffordd i lawr, i “yrru” 'r trên ei hun; ac efo grŵp o ddynesau Groeg canol oed oedd yn disgrifio’r nentydd, y coed, y blodau, a phopeth i’r un ohonyn nhw oedd yn ddall, ac yn rhannu dolmades o waith cartref blasus iawn efo ni i gyd.
Ym Mhenrhyn Mani, tir brigandiaid a môr-ladron, lle oedd ysgall yr unig blodau a cacti’r unig peth arall gwyrdd, arhoson ni mewn “tŷ tŵr” oedd yn perthyn i hen ddyn wnaeth brwydro efo’r gwrthwynebiad yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r tai tŵr fel cestyll bach, er mwyn i bob teulu medru amddiffyn ei hun mewn cynhennau efo ei gymdogion: yn yr un lle arhoson ni, oedd gwaelod y grisiau mor gul ag un troed, i wneud hi’n anodd i elynion gyrraedd y llawr cyntaf; tu allan y drws oedd na fangel bach o’r rhyfel. Dim bell i’r Dde oedd Tainaron, y pwynt mwyaf deheuol Gwlad Groeg, lle oedden nhw’n arfer dweud bod 'na borth uffern a ddefnyddiodd Orpheus a Heracles: wnes i dynnu llun o arwyddbost oedd yn cyfeirio i’r pentref Agriokampi i’r dde, ac i’r chwith i Borth Uffern. Oedd rhywun wedi saethu dryll arno.
Ac yno o’r Mani i’r gogledd, ac yn ôl ar y cwch, i gerdded ar strydoedd Rhufeinig Pompeii, a felly adref yn y diwedd.
Rhywbryd bydd rhaid i ni ailwneud y daith efo’r plant: mynd â’r ffernols i Borth Uffern!
Fy hoff daith gan Aderyn Enfys
Fy hoff daith blywddyn ma oedd pan es i Dinbych Y Pysgod gyda fy nghariad i ym mis Hydref. O’n i mynd gyda fy neulu pan o’n i’n ifanc a dw i’n dall yn hoffi fe yna. Mae Dinbych Y Pysgod yn tref hanesyddol yn y de dymru, mae gyda hi tri traeth, mae pawb yn hoffi i fynd yna. Mae llawer i neud a bwyd.
Cawson ni ddim gwyliau blyddwyn ma achos pryonon ni ty ond roedd i’n feddwl bod bydd syniad da i fynd i Dinbych Y Pysgod. Ond Roedd problem gyda ni: roedd y gwesty yn agor pan roedden ni moyn i fynd, ond roedd i’n iawn achos roedd gallu i ni fynd gwahanol dydd, felly roedden ni’n hapus bod roedd dall gyda ni gwyliau.
Roedden ni’n fynd Dinbych y pysgod ar Dydd Sul, roedd hi awr hanner i ffwrdd o’r lle rydyn ni’n byw. Archoson ni mewn gwesty ger yr mor o’r enw ‘The Esplande’ am dau noson. Roedd ystafell wely yn mawr gyda’r gwely pedwar poster a golygfa banoramig o’r mor. Roedd bath yn yr en-suite, doeddwn i ddim yn gwybod am hynny! Ond roedd jetiau bath wedi torru, doeddwn i ddim yn hoffi sut roedden nhw teimlo’n o gwbl. Roedd golygfa o’r y mor yn syfadana, roedden ni’n gweld Caldey Island hefyd, (aethon ni’n Caldey Island ychydig flynyddoed yn ol, a hoffwn i fynd eto un dydd.).
Roedden nhw’n meddwl bod roedd gwesty yn hyfryd ond roedd hi’n yn rhy boeth. Roeddwn i’n feddwl bod byddaf hi’n oer ym mis Hydref a ges i fy dillad gaef na ddim haf dillad. Eisteddais i wrth y ffenest agored ac roeddwn i’n dal yn boeth iawn! Gallu i ddim cwyno!
Y peth cyntaf wnaethon ni oedd cael cinio dydd sul mewn tafarn ond roedd yn brysur iawn, roedd rhaid i ni eistedd ar gathion bar. Roedd cinio yn braf ond doeddwn I ddim yn hoffi’r stwffin.
Joioais i y brecwast mewn gwesty yn bore Dydd Llun. Ges i bacwn, selsig, wy, tomatos a bara wedi’i ffrio, gwych! Ar ol brecwast roeddwn ni’n cerdded hir ar lan y traeth, roedd hi’n hyfryd. Es i ychydig o siopa Nadolig achos roedd siop yn hyfryd a rhybeth i pawb! Dw i’n hoffi y siop o’r enw ‘The Nook’ mae nhw’n gwethu pethau hyfyrd wedi’u gwneud â llaw.
Yn y Nos, ges i coctels yn y tafarn, (gallu i ddim gofio y’r enw) does dim gyda fi yfed yn amel iawn, felly roedd hi’n braf, ges i ‘long island iced tea’ a ‘pina colada’. Fy hoff bwyd oedd pastai pysgod o’r ‘The Buccaneer’ ar Nos Llun.
Roedd daith yn hyfryd achos roedd twydd yn benedegedig a roedden ni’n eisiau ymlacio ond roedd amser hefan heibio a dw i wedi anghofio llawer yn barod. Dw I’n cofio bod roedd gyda ni te hufen un prynhawn ond dw i ddim cofio pan. Roedd gyda ni paestio cig oen o Pembrokeshire Pie and Pasty Company, mae’n nhw blasus, y paesio gorau mewn gymru dw i’n meddwl.
Rydyn ni’n gobeithio mynd i gwyliau hir blywyddyn nesaf, wythnos mewn Dorset dw i’n meddwl. Weles i beth byddwn ni’n gwneud. Felly, mae taith yn bendegedig, cawson ni’n amser da mae’n bwysig.
Fy hoff daith gan AberJess
Fy hoff daith oedd dychwelyd i Aberystwyth saith mlynedd yn ôl. Ro’n i’n fyfyriwr yma yn y saithdegau, ond wastad yn bwriadu ymgartrefu yma ar ôl i fi ymddeol. Ces i yrfa da iawn yng Nghaergrawnt am dri deg mlynedd, chwarae teg. Ond dw i’n cofio pa mor gryf oedd yr hiraeth arnaf i, am fryniau Aber, am y môr yn disgleirio dan yr haul. Aeth fy ngŵr â’n car gyda’r olaf o’n stwff ond es i ar y trên, felly roedd y daith i fyw yn fy annwyl Aberystwyth unwaith eto yn un arbennig!
Gadawais i Gaergrawnt mewn trên ar ddiwrnod niwlog ac oer. Gwyliais i fy hen fywyd yn llithro heibio i fi, yn diflannu yn y niwl. Ro’n i’n teimlo’n od ag ein holl eiddo mewn lori yn gwau ei ffordd ledled Lloegr. Ro’n i ar goll rhwng tai, rhwng bywydau, rhwng emosiynau. Ro’n i’n fodlon ar fy myd – heblaw am bryderu a fydd tŷ i ni pan gyrhaeddwn ni yno! Roedd rhaid bod yn amyneddgar wrth aros am neges o swyddfa’r asiant tai i ddweud bod popeth wedi’u cwblhau, felly ro’n i ar bigau’r drain yr holl ffordd i Birmingham.
Dw i’n casáu’r orsaf ’na, ond oherwydd bod hi’n daith arbennig, es i i dafarn fach o’r enw ‘Shakespeare’s Inn’, ystafell gysurus â llyfrau, hysbysebion a lluniau theatraidd ar y muriau. Gwnes i fwynhau fy hunan wrth yfed ‘Bailey’s on Ice’ fel trît, cyn i fi ddisgyn i’r is-blatfform. Roedd y gwynt yn chwythu ac yn cwyno fel ysbryd coll, felly ro’n i’n teimlo hyd yn oed yn fwy ansefydlog!
Wedyn diolch byth – ro’n i’n ar y trên i Aberystwyth yn ddiogel. Roedd fy nghalon yn codi wrth i’r bryniau godi! Ro’n i wrth fy modd yn cyrraedd Yr Amwythig, gyda’i hadeiladau coch a’i heglwys enwog. Ar ôl i fy symud i Aber gwnes i lawer o deithiau siopa gyda ffrindiau, cyn daeth Marks & Spencer i Aber nes ymlaen!
Cyn i ni gyrraedd Cyffordd Dyfi, welais i nyth y Gweilch, ond do’n i ddim yn gwybod fawr ddim ar y pryd am deulu’r Gweilch, sef Monty, Glesni a’u plant a oedd yn eistedd ar y nyth! Ac o’r diwedd, roedd y gweilch yn dod â lwc i ni, oherwydd ces i’r galwad oddi wrth yr asiant tai yn dweud bod popeth wedi’u cwblhau heb broblemau – roedd nyth i ni hefyd! Nyth ar gopa’r bryn yn edrych dros y môr. Ro’n i eisiau rhedeg ar hyd y trên yn gweiddi “Mae tŷ newydd ’da ni! Dyn ni’n mynd i fyw yn Aberystwyth am byth!” – ond ’nes i ddim, wrth lwc!
A nawr dyma fi’n cyrraedd - “Allaf i’w weld e? – allaf i’w weld? – gallaf!” Dyma’r arwydd du a gwyn Aberystwyth, gyda Siôn yn aros i fy nghroesawu i gartre, i ein bywyd newydd – gyda fy annwyl gŵr yn fy lle hoffusaf yn y byd!
Fy hoff daith gan YGathOfnadwy
Tua bob dwy fis, dw i’n mynd i Gaerdydd i weld fy llysferch sy’n astudio yn
Prifysgol Caerdydd. Mae hi’n byw mewn tŷ gyda dau ddynion sy’n siarad Cymraeg
yn rhugl, ond dyw hi ddim yn siarad Cymraeg a dim yn dysgu! Am wastraff!! Pan
dechreuodd hi yn y Brifysgol a wnes i ddim siarad Cymraeg chwaith, dwedais i
“You could learn to speak Welsh!” ond atebodd hi “No”. Bob tro, gofynais i “Have
you started to learn Welsh yet?” a bob tro dwedodd hi “No!”. Wedyn, un dydd, ar
ôl i fi ofyn y cwestiwn eto, dwedodd hi “If you love Welsh so much why don’t you
learn it?!”… felly, dechrais i ddysgu Cymraeg, a dyma fi!
Pan dw i’n mynd i Gaerdydd, dw i’n mynd dros yr ail Bont Hafren o Wlad yr Haf yn
Lloegr i Sir Fynwy yng Nghymru. Enw y bont ydy “Pont Tywysog Cymru” yng
Nghymraeg, neu “The Prince of Wales Bridge” yn Saesneg, ond dw i ddim yn
hoffi’r enw ‘na. Dw i’n galw hi “Dau Bridge Two”. Mae’n jôc bach.
Gwna i egluro: Mae dyn yn y llyfr “Under Milk Wood”, Dai Bread, sydd dwy
wragedd gyda fe o’r enwau “Mrs Dai Bread One” a “Mrs Dai Bread Two”. Mae “Dai”
yn swnio fel “dau”, ac mae “dau” yn “two” yng Nghymraeg, felly… Dau Bridge Two.
Dim doniol iawn, dw i’n gwybod!
Dw i’n caru mynd dros y bont. Dw i’n caru’r goleadau arni hi. Dw i’n caru gweld yr
hen Bont Hafren ar bwys. Dw i’n caru’r arwydd sy’n dweud “Croeso i Gymru”
gyda’r ddraig goch. Dw i’n caru pan y arwyddion yn newid o Saesneg i Gymraeg a
Saesneg. Ac, wrth gwrs, dw i’n hoffi’r twnel Brynglas yng Nghasnewydd… wel,
heblaw y tagfeydd ceir! Dim Cymro dw i, ond mae rhywbeth yn arbennig am weld
Cymraeg ar yr arwyddion. Mae hi’n teimlo fel dw i’n dod adre.
Pan dw i’n gyrru, dw i’n hoffi gwrando ar y radio. Weithiau dw i’n gwrando ar
Classic FM a weithiau dw i’n gwrando ar BBC Radio Cymru i ymarfer fy
Nghymraeg, ond mae hi’n anodd. Fel arfer, dw i ddim yn deall llawer. Mae pawb
yn siarad mor gyflym alla i glywed dim ond un neu ddau air. Weithiau alla i ddeall
brawddeg cyfan a dw i’n hapus iawn! Ond, bob tro pan dw i’n gwrando dw i’n
deall tipyn bach mwy.
A dyma fi. Dw i’n gallu darllen tipyn bach Cymraeg, dw i’n gallu ysgrifennu tipyn
bach Cymraeg, a dw i’n siarad tipyn bach Cymraeg. Dwy flynedd yn ôl, gallwn i
ddim gwneud y pethau ‘na.
A nawr, pan dw i’n dweud “Are you going to learn Welsh?” mae fy llysferch yn
ateb “Well, maybe…”
Felly… dyna fy hoff daith. Nid dim ond y daith dros y bont i Gaerdydd, ond fy
nhaith i siarad ac yn deall ac yn caru iaith newydd.
Vote here:
0 voters