2019 Eisteddfod Entries - Short poem in Welsh

Max 20 lines, written in free verse, on the topic " Taith hunllefus! "

Taith hunllefus gan Pantyfedwen

  1. Ffarwel i fryniau Maldwyn
    A phentre tawel fach
    Ffarwel i’r Afon Efyrnwy
    Cyfeillion a bwthyn bach.

  2. Mae’r dydd yn dod o’r diwedd
    I boddi yr hen cwm.
    Does dim byd yma i ni nawr
    Ein calonau yn teimlo’n drwm.

  3. Mae daith hunllef yn galw
    Ble i fyw? a cheisio gwaith?
    Rhai teuluoedd yn mynd i Amerig
    Colli wlad a cholli iaith.

  4. Aeth rhai i lawr y pyllau glo
    I’r pentrefi yn y dde.
    Gyda rhes a rhes o dai llwyd
    A llwch o amgylch y lle.

  5. Drwy fy nghagrau gallu weld
    Fy mhentre bach, rwyn siwr
    Ond gorwedd hen Lanwddyn
    Dwfn o dan y dwr.

3 Likes

Taith hunllefus gan Pam lai

Heddiw awn ni ar ein gwiliau
Mynd i chwilio am yr haul
Amser byr inni ymlacio
Lot o bethau braf ar gael.

Ar ôl oriau hir yn aros
'Dyn ni'n yn yr awyr 'nawr
Mae ein blant i gyd yn gyffrous
Am teithio mewn awyren fawr.

Torheuliwn ni wrth y pwll nofio
Heb unrhiw ofal yn y byd
Os t'eisiau hyfen iâ neu diod
Bydd gweinydd yn dod â nhw i gyd.

Aros fynud, beth sy'n digwydd?
Dim bwyd na diod sydd ar gael
Dim mynediad mewn i'r gwesty
Mae'r gwyliau'n mynd o ddrwg i wael !

Dyma ni eto mewn awyren
Wedi rhedeg allan o lwc
'Dyn ni'n heddfan 'nol i Stansted
Melltithio'r enw Thomas Cook.

Taith hunllefus gan Castellan

Dyma’r awyren yn codi o’r ddaear –
Dyma fi’n eistedd yn sibrwd ‘O diar!’
Drwy law sy’n arllwys fel rhaeadr drwchus,
Drwy wynt sy’n chwythu â seiniau brawychus.
Un awr a hanner i fynd i Gaeredin –
Nid yn beth mawr i bobl gyffredin;
Dim ond fi sy’n crynu yn f’esgidie,
Mae’r awr a hanner yn teimlo fel tridie!
Awr a hanner o gynnwrf erchyll,
Lan a lawr yn gostwng fel pistyll!
Symud a siglo, rocian a chwifio –
Profiad mor gas sa’i’n gallu’i ddisgrifio!
Ond o’r diwedd dyma ni’n cyrraedd,
Wrth deimlo’n wan heb ychydig o aidd –
Heblaw am sgrechian mewn llais ffalseto,
Dyma fy marn i am hedfan: “BYTH ETO!”

Taith hunllefus gan Llygad y Dydd

Mynd i’r Gwaith

Dw i dringo ar y trên,
Fel arfer, mae’r trên yn llawn
Mae pobl yn gwneud llawer o sŵn.
Plant ar y ffordd i’r ysgol,
Sgwrs am bethau diddorol.
Ddim yn dawel o gwbl

Wrth edrych trwy’r ffenestri,
Wedi blino ac angen coffi.
Y daith yn ormod i mi

Sydyn, wnes i sylwi rhywbeth,
Nid yw pethau yr un peth.
A fy mod i mewn trafferth
Achos dw i’n mynd i fod yn hwyr.
Ac yn anffodus mae’n wir
Dw i ar y trên anghywir.

Taith hunllefus gan Seren y siriol o’r bryn uwchben yr eglwys

Taith i’r Ochr Dywyll

Roedd y cysgodion yn hir yn y lonydd
Pan es i allan yn gwisgo hosanau burgynnod
Gyda bwyd anifeiliaid i asynnod fy nhad
Wedi’i gario mewn dau basgychod

Dwi’n hwyr. Allwn i ddim stopio darllen
Am hogen a cipio gan bannod
Wrth iddi gerdded lle mae bleiddiaid yn udo
Yn y cyfnos mewn ffrog burgunnod

Rwan rhaid mynd i fwydo asynnod llwglyd
Dwi’n mynd yn gyflym heibio’r bythynnod
Ydy’r hen ddynes yn edrych yn ofnus arna i
Wrth iddi hi gario’r cecrennod?

Mae’r ofn fel pryfed cop ym mhobman
Y tu ôl i bob wal yn llechu bannod
Mae ffigwr cysgodol yn gwyro ger y giât
Mae’r gwynt yn udo fel bleiddianod

Teithiais mewn hosanau burgunnod
Ydw i nawr i fwydo’r mwydod?
Wrth i mi cower, cuddio rhag bwgan brain
y asynnod yn dod o hyd i’r basgychod!

Taith hunllefus gan Gwrach Wrych Gwyllt

Mae’r enfys yn edrych mor hardd yn yr awyr,
y lliwiau mor perffaith a lachar. Dwi’n moyn cyffwrdd iddi,
tynny hi o’r awyr barus, a lapio fy hunan tu fewn
y lliwiau hapus, nes y nos yn dod.
Felly dwi’n dechrau cerdded, cymryd fy gamau cyntaf
ar fy taith i gogoniant yr enfys.
Mae rhaid i fi gael iddi, sa i’n edrych o’n blaenau fi……
dw i’n rhedeg nawr, yn gyflymach ac yn gyflymach.
Yna….dim byd! Dim byd o dan fy nhraed o gwbl…
dwi’n cwympo, dros y glogwyn tywyll….lawr, lawr, lawr, lawr.
Dwi’n agor fy ngheg i sgrechian, ond dim byd yn dod;
Alla i ddim weld yr enfys nawr, mae hi wedi mynd,
ar goll i fi am byth; dw i dal yn cwympo lawr…
Galla i deimlo’r gwynt o’m cwmpas
dwi’n ofnus, mor ofnus, gyda un, anadl diwetha….
dwi’n sgrechian ar ben fy lais……….
Dwi’n taflu ar agor fy lygaid, allan o wynt, ysgwyd fel deilen,
yn fy ngwely bach; yn diogel.
Dwi’n chwech oed, a fy lyfr “Enfys” dal yn fy ddwylo chwyslyd…….
Dwi dal yn meddwl yn ôl gyda chariad, at Bungle, Zippy, George a Geoffrey

Taith hunllefus gan Twiga

“Mae’n ddrwg gen i, teithwyr
Bydd y trên cyrraedd yn hwyr.”
Dyna sut i wneud taith fer yn hir.
Dyna daith hunllefus!

“Mae’n ddrwg gen i” meddai’r fam
Wrth i’r plentyn grio am yr hedfa cyfan.
Ar awyren dim ffordd i fynd allan!
Dyna daith hunllefus!

“Mae’n ddrwg gen i, cariad,
Mae’r ffordd dan llifodydd.
Dw i’n aros am achubydd”
Dyna daith hunllefus!

“Mae’n ddrwg gen i, Mam, mae’na 'nadlu’n anodd.”
Daeth y neges o’r tu mewn yr lorri.
Roedd y merch yn tecstio “Sori”.
“Sori, Mwmi, dw i’n marw…”

A dyna daith hunllefus go iawn.

Vote here:

  • Pantyfedwen
  • Pam lai
  • Castellan
  • Llygad y Dydd
  • Seren y siriol o’r bryn uwchben yr eglwys
  • Gwrach Wrych Gwyllt
  • Twiga

0 voters