Prose entries of up to 750 words, open to everyone, on the topic " Fy ngobaith cyfrinachol "
Fy ngobaith cyfrinachol
gan Gwion Morgannwg
Ydy cyfrinachol yr ansoddair cywir? Dw i’n eithaf agor am fy ngobaithion i a dw i’n sicr nad ydw i ar fy mhen fy hun. Mae eisiau arnaf i glywed Gymraeg ym mhobman a chael ei defnyddio hi gan bawb yng Nghymru.
Pam ydy hon mor bwysig i mi? Pan o’n i’n ifanc i fod yn ddwyiethiog oedd fy ngobaith cyfrinachol. Mae gen i diddordeb enfawr yn ngwledydd eiriall, yn eu diwylliannau nhw, ac, wrth gwrs, yn eu hieithoedd nhw. Ond, do’n i ddim yn medru unrhyw iaith arall. O’n i’n gweld yr ieithoedd fel ffenestri i mewn y bywydau, y hanesion a’r hunaniaethau y cymunedau dros y byd. Ond o’n i’n teimlo fel y cafodd y lleni eu tynnu.
Ers, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ‘mod i wedi ffeindio allan pa mor wir oedd hynna. Dw i’n teimlo fel llydan agored ydy’r ffenestri nawr, a dw i wedi dringo tu mewn yr ystafell. Trysor cudd ydy’r ystafell gyda phethau newydd, hudol a chyfareddol, rownd pob corneli. Byd newydd ydw i wedi darganfod. Byd lawn o gerddoriaeth, barddoniaeth, cystadlaethau a niwylliant ydy hi. Wnaeth hi roi llais newydd i mi. Dw i’n gweld y wlad drwy berspectif newydd. Mae gen i ddealltwriaeth wahanol.
Ond mae hi’n fwy na hynna. Drwy’r waith dw i wedi cyfarfod â phobl sy’n dod o ddros y byd. Maen nhw’n i gyd yn medru siarad mwy nag un iaith. Felly, maen nhw’n rhannu’r ddealltwriaeth hon. Dw i’n cofio eistedd mewn tafarn yn Fienna gyda fy nghariad, dyn o Ffrainc a dynes o Awstria. Oeddan ni’n trafod dysgu ieithoedd, oeddan nhw’n medru siarad saith iaith erbyn nhw. Oedd hi’n gyffredin i fod yn gallu siarad mwy nag un iaith iddyn nhw. Ond, oedd y peth mwyaf diddorol bod nhw’n ein gweld ni fel rhan o’r grwp oherwydd yr oeddan ni’n medru siarad dwyiaith. Oedd y tro cyntaf erioed yn fy mywyd ‘mod i’n teimlo’n Ewropiaidd go iawn.
Tasai plant Cymru yn dysgu drwy’r Gymraeg yn ysgol byddan nhw’n cael y sgil dwyieithiog a byddan nhw’n cael y cyfle i fod yn rhan y byd mawr crwn. Dyma pam bod eisiau arnaf i weld y plant Cymru i gael y cyfle i gael eu magu yn ddwyieithog. Maen nhw’n haeddu’r anrheg o ddwyieithogrwydd. A hefyd, mewn cymhariaeth â fy mhrofiad ysgol, gaeth fy ffrindiau Cymraeg y profiad i ganu heb chwithigrwydd, mae ganu yn rhan mawr o’w ddiwylliant nhw, mae hi’n sylfaenol bod pobl yn canu. Tra na wnaethon ni yn Lloegr. Doedd bechgyn ddim yn canu yn Lloegr, heblaw y rheina’n hyderus iawn.
Yn awr, bydd hi’n llawer o waith i newid pob ysgolion Saesneg yn ysgolion Cymraeg. Felly, mae gen i gynllun. Dyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosib i ddysgu Cymraeg mewn amser byr gyda’r patrwm priodol. Tasan ni’n dechrau dysgu Cymraeg i bob athrawon, er enghraifft. Fe allen ni roi sabbatical ar gyflog i bob un. Felly, fe allwn nhw dreulio’r flwyddyn yn dysgu’r iaith a wedyn gweithio mewn ardal Cymraeg. Ar yr un pryd, gallai’r arthrawon o dan hyfforddi’n dechrau dysgu Cymraeg. Fel anogaeth i’r myfywyr i fynd yn athrawon, dylai’r Lywodraeth Gymraeg talu eu ffïoedd dysgu. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, bydd y disgyblion Cymru yn dechrau gadael ysgol gyda’u sgil newydd. Felly, byddwn nhw’n mynd yn athrawon a byddwn nhw’n yr athrawon y dyfodol, a hefyd, oherwydd byddai’r prifysgolion Cymru yn mor dda â dysgu’r iaith a byddai eu graddedigion yn graddio gyda’r sgil o ddwyieithgrwydd, byddai llawer o bobl eisiau i ddod i Gymru i addysgu addysg.
Sicr ydw i bydd fy syniad yn cwrdd â ymatebion cymysg ond gobaith ydy o, gobaith enfawr!
Fy Ngobaith Cyfrinachol
gan Ceffyl Bach
Beth yw “fy ngobaith cyfrinachol”? Hoffwn i deithio i wledydd arall. Efallai ti’n gofyn pam mae hynny’n gyfrinach. Wel, mae sawl rheswm pam mae’n anodd i fi deithio. Dw i ddim yn sôn amdanyn nhw gyda’r rhan fwya o bobl. Maen nhw’n bersonol. Efallai rhyw ddiwrnod bydda i’n gallu mynd tramor. Gobeithio!
Taswn i’n allu mynd tramor, baswn i’n fynd i Gymru, wrth gwrs. A dweud y gwir, dim llawer o bobl yn gwybod mod i’n dysgu Cymraeg, felly mae hyn bach yn gyfrinachol hefyd. Does neb yma yn siarad Cymraeg. Basen nhw’n meddwl mod i’n od tasen nhw’n gwybod, dw i’n meddwl. Fasen nhw ddim yn deall pam baswn i’n moyn ei ddysgu hi, neu pam baswn i’n moyn dysgu iaith newydd ar ben fy hun.
Byddai fe’n wych i gwrdd â phobl sydd wedi dysgu Cymraeg gyda SSiW. Hoffwn i gwrdd â Aran, Catrin, Iestyn a Cat! Hoffwn i siarad Cymraeg gyda llawer o bobl. Baswn i’n fynd i’r Eisteddfod, yn bendant. Hoffwn i weld llawer o lleoedd yng Ngymru. Hoffwn i weld y Penrhyn Gŵyr, yn enwedig Bae Rhosili. Dw i’n dwlu ar gerdded ar y traeth. Hoffwn i fynd i’r Wyddfa. Hoffwn i gerdded lan y mynydd, ond byddai rhaid i fi fynd ar y ffordd hawdda, dw i’n meddwl! Hoffen i ymweld â lawer o gestyll. Hoffwn i weld Portmeirion. (Mae fy ngŵr i a fi yn hoffi’r rhaglen deledu o’r enw “Y Carcharor”.) Hoffwn i ymweld â Chaerdydd – mae cymaint o lleoedd i weld, gan gynnwys y Canolfan Mileniwm Cymru ac, wrth gwrs, “Doctor Who Experience”! Hoffwn i weld Porthaethwy, ac ymweld â set “Rownd a Rownd”. Dw i’n siŵr mod i’n swnio fel twrist nodweddiadol, ond baswn i’n gofyn i fy “ffrindiau” i ar y fforwm ble arall dylwn i fynd.
Hoffwn i ymweld â Chernyw, hefyd. Dw i wedi darllen sawl llyfr sydd wedi’i lleoli yng Nghernyw, a hoffwn i weld yr ardal. Hoffwn i fynd i’r Alban. Hoffwn i weld Yr Ynysoedd Shetland yn enwedig. Maen nhw’n edrych yn brydferth iawn. Dw i’n hoffi gwau, a hoffwn i ymweld â amgueddfeydd hanesyddol (a prynu edau wlân Shetland!). Hoffwn i weld y ceffylau Shetland, hefyd. Hoffwn i fynd i Wlad yr Iâ, hefyd. Mae fwy o gwau a mwy o geffylau yna. Byddet ti’n meddwl mod i’n hoffi’r tywydd oer – dw i ddim! Ond byddai’n well gyda fi fynd i’r lleoedd ‘na na Ynysoedd Caribî! Byddai’n well gyda fi fynd i lleoedd hanesyddol, er bod hi’n bwrw glaw ac eira.
Hoffwn i fynd i’r Eidal, hefyd. Ie, lle cynnesach yw’r Eidal, o’r diwedd! Mae teulu gyda fi yn Yr Eidal. Dw i wedi bod yna unwaith, pan o’n i’n blentyn. Hoffwn i ymweld â fy nheulu i. (Dw i wedi gweld nhw sawl gwaith dros y blynyddoedd, achos maen nhw’n hoffi dod yma.) Maen nhw’n byw yng ngogledd Yr Eidal. Byddai fe’n ddiddorol i weld lleoedd arall, hefyd, fel Rhufain. Hoffwn i weld yr eglwysi cadeiriol ac yr amgueddfeydd. A hoffwn i fwyta yna – pizza go iawn yn Napoli, a gelato. Blasus iawn!
O’r diwedd, hoffwn i fynd i Seland Newydd. Dw i ddim yn gwybod llawer am y gwlad ‘ma, ond mae’n edrych yn brydferth iawn. Bydda i’n lwcus os dw i’n gallu mynd i’r lleoedd arall ar fy rhestr i – dw i’n meddwl bydda i’n byth mynd i Seland Newydd, mewn gwirionedd. Ond dw i’n gallu breuddwydio, on’d ydw i?
Felly, hynny yw fy rhestr i. Dyw hi ddim yn gyfrinachol nawr. Ond paid â dweud wrth unrhywun, iawn?
Fy ngobaith cyfrinachol
gan Troedfynyddwr
Darllenaf i y dechreuwyd ymgyrch newydd ac un yr ydwyf i yn cytuno yn hollol ganddo hi. Cyrraedd miliwn o siaradwyr y Gymraeg yw ei hamcan. Dyna brosiect uchelgeisiol a chanmoladwy iawn. Mae poblogaeth Cymru yn tri filiwn o bersonau ac y mae yr 20% ohonynt yn medru Cymraeg i raddau gwahanol - rhyw 60,000 o eneidiau - a mae y 10% o bersonau hwnnw yn medru yr iaith un rhugl. Heblaw y 60,000 o siaradwyr yng Nghymru mae hefyd y cwmunedau Cymraeg dramor â Chymry Cymraeg yn eu plyth. Darllenais i lyfr gan ddyn a deithiodd o gympas y byd a syn yw lleoeodd ble mae y Gymraeg yn cael ei siarad. Yn ôl yr ystadegau y bydd rhaid i ddarbod 140,000 siaradwyr eraill. Dyna dasg cryf ond dim yn un na cheir ei cwblhau.
Mae poblogaeth Gwerin Iwerddon yn bump miliwn. Mae yr iaith Wyddeleg yn bwnc gorfodol yn ysgolion yr wlad, gan hynny rhaid bod mwy na miliwn o bersonau sy’n medru yr iaith i raddau gwahanol, er nad ydywf i erioed wedi adnabod Gwyddel a oedd yn frwdfrydig am iaith swyddog ei wlad. Heb wybod yr iaith mae hi’n amhosib dod yn was sifil neu yn swyddog yn lluoedd arfog. Mae yr weision sifil yn cael mwy o wyliau os treuliant eu gwyliau mewn Gaeltacht, yr ardal ble siaredir yr Wyddeleg yn famiaith.
A sut gwireddu yr amcan? Y mae eisoes ysgolion a ddysg yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg a gan hynny maent hwy yn linellau gydosod parhaus o siaradwyr y Gymraeg. Yn ychwanegol, y mae ysgolion a ddysg trwy gyfrwng y Saesneg yn cynnig hefyd y Gymraeg yn bwnc efrydiaeth. Mae miloedd o bobl sydd yn astudio y Gymraeg yn annybyniol ac yn wirfoddol mewn dosbarthiadau nos a thrwy’r wefannau fel Say Something in Welsh.
Yr ystyrwyd y Gymraeg o flaen yn iaith a oedd yn gyfyngedig i’r gartref ac i’r capel neu i gael ei defnyddio yn iaith gyfrinachol ym mhresenoldeb Saeson. Fodd bynnag, gan y blynnyddoed y mae hon wedi newid yn ffoddus a mae y Gymraeg yn cael ei defnyddio ymhob agwedd y bywyd – yn y fasnach, mewn achosion cyfreithiol, yn gyfrwng addysg uchel. Mae hi’n anhawdd credu bod am dro y gwahoddir ei defnyddio yn yr ysgolion a chai eu cosbi ddysgiblion a feiddiai siarad yr iaith. Am ddechreuad yr ugeinfed ganrif yr oedd mwy o addysg yn y Gymraeg yn Ariannin nag yng Nghymru.
Bydd sawl amser yn angenrheidiol fel y caffo yr amcan ei wireddu a mae fy ngobaith cyfrinachol y bydd ef yn llwyddo.
.
Fy ngobaith cyfrinachol
gan Aeronwen
Ces i fy ngeni amser maith yn ôl rwan, (sut mae’r amser yn hedfan,yn tydy?) yn 1955 yn siop diodydd (off licence), wel yn y fflatt uwchben beth bynnag, yn Gillingham, de Lloegr. Roedd fy nhad yn rhedeg y siop yno ar ôl gollynwyd o yn wael o’r fyddin efo TB. Nes i dreulio y rhan mwyaf fy mhlentyndod yn Caent a Llundain. Dw i’n cofio plentyndod hapus ond yn hirbell o’r cefn gwlad a byd natur. O’n i wrth fy modd yn yr awyr agored, cerdded efo fy nhad yn y bryniau, dringo coeden neu adeiladu ffau. Felly, yr uchafbwynt y flwyddyn i mi, heb os nac oni bai, oedd ein gwyliau, yn dechrau efo’r daith trên hir i Dywyn i weld fy annwyl Nain. Atgofion melys; brechdanau yn ein
adran, rhedeg yn ôl a blaen y coridor, brathu fy mhen trwy’r ffenestr yn clywed oglau’r stêm.
Dw i’n cofio sut wnaeth yr tir drawsnewid o gaeau fflat ar y cychwyn i fryniau tonnog a wedyn i rywbeth yn mwy arw. Y darn olaf, y darn gorau, pwffian ar hyd yr arfordhir ar y ‘Cambrian Coast Express’, yr olygfa drawiadol, y disgwyliad awyddus.Cyrraedd o diwedd yn Nhywyn lle oedd fy ewythr John yn disgwyl amdanon ni.
Atgofion melys dros ben! Camu mewn byd hudol, cariadus; fy Mam a Nain yn parablu yn y Gymraeg. Roedd nefoedd ar y ddaear. Sut hedfanodd y hafau heibio!
Fel fy mhlentyndod treuliais i’r blynyddoed arddegau fel miliynau eraill. Es i ysgol lle nes i gymdeithasoli ac astudio a, phan daeth yr amser pasiais i’r ymholiadau, nid arbennig o dda ond jyst digon da i fynd i brifysgol; dweud y gwir nes i ddianc â’r chroen fy nannedd! O’n i wedi dewis astudio daeareg, pwnc perffaith i fi, llawer o amser yn yr awyr agored yn gwerthfawrogi y tirwedd. Ar ôl ennill gradd o’n i’n lwcus iawn i gael cyfle i deithio o gwmpas y byd efo fy ngwaith yn ymweld â llefydd ecsotig a diddorol. Ges i yrfa ryfeddol ond doedd dim modd i setlo i lawr.
Felly, ar ôl i mi gyraedd pumdeg oed nes i penderfynu i arafu tipyn ac i deithio llai.
O’n i’n dal i weithio ar gyfer y prifysgol yn Llundain a dechrais i sgwennu llyfr, cydymaith adnabyddiaeth i greigiau. Cymerodd y llyfr dwy flynedd i gyflawni a, syndod mawr i fi, digwyddodd hon i fod yn boblogaidd dros ben. Er mwyn dathlu y llwydd roedd rhaid i mi ymweld â siopau llyfr, llofnodi’r copiau a chwrdd a phobl.
Ges i lawer o hwyl enwedig pan ymwelais i â siopau yng Nghymru. O’n i wedi galifantio i’r bedwar ban y byd ond ddim i Gymru ers talwrn (wnaeth fy nheulu ochr Mam wedi marw erbyn hyn). Wel, am brofiad anhygoel, y tirwedd, y pobl, yr iaith, Byd mor wahanol i Lundain.
Bore braf ym mis Awst, heulwen yn treiddio drwodd y drws frynt agored y siop llyfr bach yn Y Bala. Roedd dydd olaf fy nhaith llofnodi a ges i lif cyson o bobl oedd eisiau cael bach o sgwrs a llofnod. Cyrhaeddodd hanner dydd ac o’n i ar fin codi pac pan sbiais i dyn yn brysio ata fi. Fel wnaeth ddigwydd oedd o’n bwriadu prynu’r llyfr er mwyn adnabod rhai brigiadau creigiog wedi bod yn y caeau ei fferm cyn cof.
Dyn golygus oedd o â gwên lyfn ac enigmatig ; o’n i dan ei swyn yn syth. Gafon ni sgwrs fywiog a chynnes. Doedd dim angen i mi ddychweled i Lundain ar y pryd (roedd y Myfyriwyr i ffordd dros y Haf), felly cynigais i i gael cip arnyn nhw. Ar ôl i ni yrru dim ond ychydig o filltir daeth y fermdy mewn golwg, hen adeilad yn swatio yn y godrefryniau y mynyddoedd Berwyn; anhygoel o hardd!
O’n i’n mynd i aros digon hir i gael panad ac i weld y creigiau ryfedd. Wel, methodd fy cynllun yn lân. Cerddon ni hamddenol o gwmpas y fferm efo ei gi defaid bach a ges i gyfle i archwilio y greigiau. Roedd sgwrs efo fo, Arwel gyda llaw, yn hawdd iawn. Cyn i mi wedi sylweddoli roedden ni’n y gegin yn bwyta swper a rhannu potel o win neu hwyrach dwy. Roedd y dechrau carennydd rhyfeddol. Dyn fel y tirwedd oedd o, yn hardd, ddiddorol, bach o wyllt a wnaeth o ddeffro’r hiraeth yno fi, rhywbeth o’n i wedi claddu’n ddwfn yn fy enaid, fy ngobaith cyfrinachol i fod Cymraes ac i fyw fy mywyd yng Nghymru.
Wnaeth ein carennydd ni flodeuo ac o fewn blwyddyn dan ni wedi priodi. Gwerthais i fy fflat yn Llundain, gadewais i’r prifysgol, ar wahân i fach o ymgynghoriaeth ymbell waith, a dechreuais i bywyd fel ffermwraig. Ar ôl amser byr o’n i’n teimlo fel rhan y cymuned; roedd pawb yn croesawu fi cymaint. Ar y cychwyn o’n i’n nerfus braidd am drio siarad Cymraeg (o’n i’n gwybod tipyn bach oherwydd wnaeth fy Mam a Nain wedi fy nysgu fi rhai ymadroddion) ond efo’r help Arwel nes i fagu hyder a rwan dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhugl yn y dyfodol. Dw i’n teimlo’n mor hapus a chyflawn.
Ond, rhaid i mi gyfadde, bob hyn a hyn bydda i’n codi fy morthwyl daeareg bach, anelu am y mynyddoedd lle bydda i’n gwerthfawrogi y tirwedd neu weithiau jyst breuddwydio fy mod i’n mynd am dro braich ym braich efo fy Nain.
Iaith Gymreig ar Goll
gan Beth Sgwennais
Dan ni i gyd yn gwybod bod y Gymraeg yr iaith hynaf yr ynys hon, ond efallai dydy pawb ddim yn gwybod bod 'na tan ddiweddar iaith arall yng Nghymru. Doedd hi ddim mor hen, ac oedd ganddi hi ddarddle pell iawn; ond oedd hi wedi gwreiddio yng Nghymru ers canrifoedd.
Mae’r hanes yn dechrau tua mil o flynyddoedd yn ôl a phum mil o filltiroedd i ffwrdd, pan naeth grŵp o bobl gadael Gogledd India ar daith a fyddai’n eu harwain drwy’r Ymerodraeth Fysantaidd i Ewrop, a rhai ohonyn nhw i Lloegr ac i Cymru. Daethon nhw ag iaith Indiaidd, ond yn ystod eu taith naeth hi pigo geiriau a strwythurau o iethioedd eraill, yn enwedigol o’r Roeg. (Er enghraifft, ora ‘awr’; oxto ‘wyth’, fel ‘octopws’; neu drom ‘ffordd’, fel ‘dromedari’.) Yn y ffordd hyn, daeth eu hiaith yn rywbeth unigryw (dw i’n gwybod, mae pob iaith yn unigryw): iaith Indiaidd nad oes neb yn ei siarad yn India; iaith Ewropeaidd nad ydy’n dod o Ewrop; ac iaith sy’n ymgorffori, efallai hyd yn oed yn fwy nag unrhyw un arall, ei hanes ei hun ac ei thaith ei hun.
Dw i’n siarad am y Sipsiwn, ac am eu hiaith, y Romani.
Naeth y Sipsiwn cyrraedd ym Mhrydain tua pum canrif yn ôl. Cafon nhw eu drwgdybio, cafon nhw eu gweld fel lladron, oedd eu hagrwch yn ddiarhebol (does dim ond y carwr yn medru gweld “Helen’s beauty in a brow of Egypt”, meddai Shakespeare). Annhebyg i lawer o’r Romani Ewropeaidd, naethon nhw ddim cartrefu yn nhrefoedd, namyn oedden nhw’n teithio drwy Loegr, yr Alban, a Chymru, yn gyntaf efo eu pebyll, a wedyn efo wagenni. Naethon nhw waith tymhorol, megis pigo ffrwythau a hopysen; naethon nhw, a naethon nhw drwsio, celfi a phedyll; naethon nhw brynu a bridio, rasio a gwerthu ceffylau; gweithion nhw ar ffeiriau a darllenon tesni. (Yng Nghymru oedden nhw gerddorion hefyd, er enghraifft John Roberts, y “Telynor Cymru”.) Oedden nhw’n ddarn – arwahanol, ond darn eto – o fywyd ynys Prydain. (Cafon nhw o hyd eu gweld fel lladron ac eu trawsgludo i alltudfannau.) Yn rhannol er mwyn cadw eu busnes yn ddirgol rhag estroniaid, ond hefyd achos bod nhw’n licio chwarae efo geiriau, oedden nhw’n llysenwi bobl a lleoedd: Sipsiwn Cymru, y Kåle (‘y bobl ddu’ – mae ‘Sipsiwn’, fel ‘Welsh’, yn exonym nad ydy pawb yn ei licio) oedden yn galw Sipsiwn Lloegr (Romanichals) ‘gwenwynwyr moch’ (nac ydw, dw i’m yn gwybod pam); oedd y tref Reading, yn Lloegr, Lalo-gav ‘tref coch’. Fy hoff i yw tref Gorllewin Cymru y oedden nhw’n galw Båle ar’o Thud – ‘Moch yn y Llaeth’.
Ac oedden nhw’n siarad eu hen iaith.
Hynny ydy, yn Lloegr oedden nhw’n ei siarad hi ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan naethon nhw ddechrau siarad iaith cymysg, efo gramadeg Saesneg ond digon o eiriau Romani i hybu ymlyniad wrth y cymuned ac i allgáu estroniaid – fel tasai’r Gymraeg wedi marw a chael ei hamnewid gan math o sŵper-Wenglish. Yng Nghymru oedd y Kåle yn dal i siarad eu hen dafodiaith ers yr ugainfed ganrif: naeth yr Athro John Sampson astudiaethau hi yn yr ugeiniau, ond marwodd diwethaf siaradwr rhugl yr hen dafodiaith yn 1968, pedair blynedd cyn i Ned Maddrell.
Heddiw, ar ôl y cyrraedd o bobl Romani Ewropeaidd yn y Teyrnas Unigol sy’n siarad eto eu tafodiaith eu hunain yr iaith, mae rhai Kåle eisiau ei hadfywio. Ond dydy hi ddim iaith sy’n dysgu yn yr ysgol: dieithr, mae rhai Romani yn gweld addysg Saesnig fel ffordd i ddileu traddodiadau Romani. Mae 'na un neu ddau lyfr am dafodieithoedd Ewropeaidd rŵan, ond na fyddai hen ramadeg ffurfiol y dafodiaith Gymreig gan Sampson yn ddigonol. Dw i wedi darllen bod gan lawer o wagenni gopïau o gwrs yng nghasét, ond wrth gwrs dydy o ddim yn SSi Romani.
Ac efallai byddai fo beth sydd angen: cwrs heb gramadeg, heb ffurfioldeb, wedi ei gwneud gan siaradwyr un iaith leiafrifol ar gyfer dysgwyr un arall. Byddai fo’n dibynnu ar nifer o ffeithiau: os oes digon o amser i wneud o; os oes gan ddigon o’r cymuned Romani ddiddordeb i wneud o; a dewis y dafodiaith. Byddai fo’n haws i wneud cwrs fodern, Ewropeaidd, a byddai fo’n hawddhau cysylltiad rhwng grwpiau Romani: ond, na fyddai hi’n dafodiaith yr ynys hon. Byddai fo’n anoddach gwneud cwrs tafodiaith farw; a byddai fo’n cymhlethu’r cysylltiad, dim ei hawddhau. Ond eto, byddai fo’n cadw dolen organig gan eu geiriau eu hunain, eu hacen, eu hanes; a byddai dewis y dafodiaith Brydeinig yn gadarnhad eu bod yn darn hanes a bywyd Prydain. Mae 'na lawer o rwystrau posib, ond fy ngobaith cyfrinachol ydy y medrai Dweud Rywbeth yn Gymraeg helpu i adfer iaith arall Gymreig i Gymru.
Vote for your choice here:
- Gwion Morgannwg
- Ceffyl Bach
- Troedfynyddwr
- Aeronwen
- Beth Sgwennais
- No Award
0 voters