2017 EISTEDDFOD ENTRIES - Book Review - Post Beginner

Post-beginner - A short book review, up to a maximum of 500 words, written in Welsh, for learners that are enjoying reading in Welsh and would like to share a favourite book with others.

"Sgŵp" gan Lois Arnold
gan Darllenwr Hapus

O’n i’n joio darllen Sgŵp. Mae e’n llyfr ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen Dau/Canolradd. Mae’r stori am Lowri Glyn, gohebydd ifanc sy’n gweithio i bapur lleol mewn tre fach o’r enw Pen-y-Bae. Mae hi’n breuddwydio am ysgrifennu storïau pwysig mawr ar gyfer papur enwog, gyda ei henw hi ar y tudalen blaen. Ond pan mae’r stori yn dechrau, mae hi’n ateb y ffôn yn yr ystafell newyddion, teipio llythyrau hir (ac yn arferol diflas!) gan pobl lleol, ac ysgrifennu dim ond storïau bach. Wil a Nia yw’r gohebyddion go iawn yn y swyddfa.

Mae teulu diddorol gyda Lowri. Hipis yw ei rhieni hi. Pan oedd Lowri yn blentyn, o’n nhw’n teithio o gwmpas mewn camper fan. Nawr, mae’n nhw’n byw ym Mhen-y-Bae mewn tŷ gyda enfys mawr ar y wal ffrynt. Mae Lowri yn caru ei rhieni hi, ond byddai hi’n hoffi prynu ei fflat ei hun rhyw ddiwrnod.

Un diwrnod, mae rhywun yn hala neges at y papur am fandaliaeth ym mharc Happy Haven. Oedd Lowri yn arfer byw yna pan oedd hi’n blentyn. Felly, mae Gwenda, y golygydd, yn rhoi’r stori iddi hi. Mae Lowri yn hapus. Mae hi’n moyn dechrau ymchwilio’r stori yn syth. Pan mae hi’n cyrraedd at Happy Haven, mae hi’n cwrdd â dyn cas ac ei gi mawr. A felly mae ei hanturiaeth hi yn dechrau.

Mae Lowri yn garedig ac yn ddoniol. Dw i’n hoffi’n enwedig sut mae hi’n delio gyda nai perchennog y papur newyddion. Mae Anthony yn ddyn ifanc lletchwith sy’n hoffi gwisgo “fel Dracula”, ond mae Lowri wastad yn garedig wrtho fe. Mae synnwyr digrifwch yn y llyfr. Er enghraifft, mae cyfweliad Lowri gyda’r deintydd newydd yn y dre yn ddoniol iawn. Mae llawer o ddigwyddiadau yn y stori, ac yn y diwedd, mae’r trywyddau yn dod gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd at ddiwedd cyffrous. Dw i ddim yn moyn dweud y manylion i gyd wrthot ti, achos dw i’n meddwl dylet ti ddarllen y llyfr ‘ma!

Mae’r llyfr ‘ma yn dda i ddysgwyr am sawl rheswm. Mae’n ddefnyddiol i gael geirfa ar y gwaelod o bob tudalen. Dim ond unwaith neu ddwywaith oedd rhaid i fi chwilio am gair yn y geiriadur. O’n i’n gallu darllen ac joio’r stori heb llawer o odoriadau. Mae dim ond pedwar neu bum tudalen yn bob pennod, felly o’n i’n gallu darllen dim ond un pennod os doedd dim llawer o amser gyda fi. Mae llawer o ffurfiau byr yn y llyfr, achos mae’n ysgrifennu yn yr amser gorffennol. O’n i’n meddwl ei fod e’n brofiad da i ddysgu mwy amdanyn nhw.

Oedd e’n braf iawn i ddarllen llyfr sy’n teimlo fel nofel “go iawn”, yn lle stori byr. Mae dau gant saith o dudalen ac hanner cant o bennodau gyda’r llyfr. Mae llawer o cymeriadau a digwyddiadau, ac mae’n cymryd amser i dod i nabod y pobl ac yn gwylio’r plot yn datblygu. O’n i’n joio darllen Sgŵp yn fawr iawn, a dw i’n gobeithio byddi di’n ei ddarllen e ac ei joio fe hefyd.

"Dysgu Byw" gan Sarah Reynolds
Gwasg Gomer 2016
gan Crwbran

Nofel doniol yw ‘Dysgu Byw’ am tiwtor Cymraeg a ei dosbarth hi. Tiwtor Cymraeg yw Siwan a mae hi actores rhan amser hefyd yn ‘Pobl y Cwm’. Daeth ei chyfle mawr hi i hysbysebu eli triniaeth peils. Gallet ti weld pen ol Siwan ar posteri anferth yn ei thref hi a dros Gymru gyfan. Mae Siwan nawr ar ‘Celebrity Big Brother’ achos mae pen ol mwya yng Ghymru gyda hi.

Mae hanes y cymeriadau yn y dosbath Siwan yn ddidorol hefyd. Wnaeth Peter gadael ei swydd e yn Llundain i brynu fferm gyda alpacoad yn Llanarthne a briodi ei ffrind e, Jake. Mae pawb yn y ddosbarth yn mynd i briodas Peter ar y fferm alpacoad. Wnaeth Caryl canu dros Deyrnas Unedig yn y Gystadleuaeth Canu Eurovision a chanodd hi ar briodas Peter.

Glesni yw ‘swot’ y ddosbarth. Roedd hi athrawes yn goleg Boneddigesau Cheltenham (posh iawn) a wedi dysgu aelodau o’r teulu brenhinol. Enillodd hi Dysgwr y Fflwddyn ar ol y dosbarth wedi gorffen. Mae ‘girl crush’ gyda Glesni ar Shan Cothi. Roedd Shan Cothi yn y ty bach nesaf i Glesni yn y priodas Peter. Dringodd Glesni ar ben y ty bach i siarad gyda Shan a cwympodd hi. Llithrodd troed Glesni lawr y ty bach. Mae Gwynfor yn caru Enfys. Wnaeth Gwynfor coginio risotto madarch gwyllt am Enfys. Roedd rhaid Enfys mynd i’r ysbyty achos oedd y madarch yn ‘dewiniaeth’. Roedd Enfys yn ceisio dawnsio gyda stondin pamffledi yn yr ysbyty. Mae Sangita yn gweithio yn yr ysbyty a wnaeth hi gwarchod Enfys . Wnaeth Gwnfor anfon blodau i Sangita am diolch ond mae Glesni yn meddwl bod Gwynfor yn cael helynt gyda Sangita.

Clive yw garddwr yn Llys Bryn Mawr and mae e’n caru Siwan. Mae Clive yn rhoi llysiau i Siwan yn y dosbarth o’r gardd y plasty ond dydy Siwan ddim yn moyn y lleusiau a eu gadel nhw yn yr ystafell ddosbarth. Me hi’n meddwl bod Clive yn dwp achos mae acen Cymraeg Clive yn ofnadwy. Mae Clive yn siarad Cymraeg yn rhugl ond mae hi’n actio yn dwp i gael gwersi dros ben o Siwan. Hipi yw Jemma a mae hi’n byw mewn tipi yn y ardd Llys Bryn Mawr (ond ei thad hi a ei mam hi yn byw yn y plasty). Mae Jemma yn rhedeg caffi llysieuol yn y dre. Mae Jemma yn dwyn blodfresychen Clive o’r ystafell ddosbarth am ei chaffi hi (ond o’r plasty yn wreiddiol - felly blodfresychen Jemma). Nawr Jemma a Clive yw ‘eitem’ a mae Clive yn rhoi llysiau i Jemma am y caffi.

Llawer o hwyl yn y llyfr’ma. Dw i’n argymell y llyfr ‘ma heb cwestiwn. Rwyt ti’n gallu ymlacio a darllen y llyfr yma gyda gwydraid o win neu cwrw. Ro’n i’n darllen y llyfr ‘ma a gwenu a chwerthin drwy’r amser. Mae’r iaith tipyn bach o her am dechreuwr on mae e’n gwerth y ymdrech. Rwyt ti’n gallu dysgu geirfa Cymraeg a mwynhau y llyfr ar y un pryd. Da iawn Sarah.

"Ebargofiant" gan Jerry Hunter
gan Carw Llychlyn

Dyn sy’n byw mewn twll - fel pawb arall - ydy Ed. Mae’r byd wedi troi ym mwd yn dilyn chwalfa ecolegol ac mae bywyd yn anodd.

Mae ffuglen sy’n sôn am y dyfodol yn beth cymharol brin mewn llenyddiaeth Gymraeg. Wedi ei seilio yn “Rardalma”, mae’r stori gan Jerry Hunter yn cyflwyno cymeriadau byd cyntefig sydd ond yn trio goroesi yn y mwd.

Ond, sbïwch ar hwn:

“Dwin biw miwn twł. Nid vi dir 1ig1 sin biw miwn twł nd vi dir 1ig1 sin biwn y twł sin gartra i vi. Man dwł iawn, hynydi dydiođim n waeth nar hanvwia o dyła rił. Dydiođim nłai a dydiođim n vwi.”

Geiriau Cymraeg ydyn nhw - ond Cymraeg gwahanol. Cymraeg llafar â llythrennau a rheolau newydd sydd yn edrych fel bod rhywun efo acen gryf Gogledd Cymru wedi ailddyfeisio’r Gymraeg ysgrifenedig. Mae rhai o’r gwahaniaethau’n amlwg - chi’n gallu sbotio’r llythrennau newydd yn syth, sef Ł, Đ, V a X, ac mae’r collnod ar goll. Gwahaniaethau eraill ydy’r geiriau a’r strwythurau newydd yn nes ymlaen yn y nofel. Enghreifftiau o rheini, ydy “ga∤vedru” (gallu/medru) a “parxacedovn” (parch ac Ed-ofn), ac wedyn “®hoi paid” a “ma da∤tdim arnati” (mae dalltdim arnat ti), er enghraifft, am “peidio” a “dwyt ti ddim yn dallt”.

Pam, felly, yr iaith wallgof? Wel, oedd yr awdur isio arbrofi, yn amlwg, ond mae yna reswm arall. Yn y stori, mae Ed wedi penderfynu dysgu ‘sgrifennu a dod â llenyddiaeth yn ôl i’r byd. Fo ydy un o’r bobl brin sy’n gallu ‘sgrifennu o gwbl rydym yn clywed amdanynt, ac iaith fo sy’n iaith y nofel. Iaith, y gallu i ysgrifennu, sydd bron iawn wedi mynd i ebargofiant. Efo’r hyn a ddysgodd ei dad iddo, mae Ed yn dechrau ysgrifennu am ei fywyd. Mae o’n sôn am y mwd, a’i dad, bywyd dynion Rardalma, a hefyd yr hyn mae o’n ei weld yn ei gwsg. Mae o’n ysgrifennu am etifeddiaeth gadawyd gan ei dad, sef y gallu i ysgrifennu, a phwysigrwydd hynny, a’i anturiaethau wedyn.

Jerry Hunter sy’n awdur y nofel unigryw yma - Americanwr sydd wedi symud i Gymru, dysgu Cymraeg, ac sydd rŵan yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae o’n byw yng Ngogledd Cymru efo’i wraig a’i blant. Cafodd ei eni yn Cincinnati, Ohio ym 1965 ac mae o wedi sgwennu sawl lyfr erbyn hyn, gan gynnwys Gwenddydd a enillodd Fedal Rhyddiaith yr Eisteddfod (llyfr da arall!). Mae Jerry hefyd wedi ymddangos ar y teledu, yn cyflwyno rhaglen S4C am fywyd a hanes y Cherokee yn America.

Mae’r nofel yma’n dda i bobl sy’n licio her. Wrth edrych ar y tudalen cyntaf, mae’n gallu ymddangos fel camp amhosib - ond, mae’r ymennydd yn arbennig o dda yn addasu i’r iaith ryfedd! Mi fydd Cymraeg normal yn edrych bach yn od erbyn diwedd pennod “6dros10a10to”, hyd yn oed. Dwi’n annog pawb sy’n gallu darllen Cymraeg i drio Ebargofiant. Mae wedi bod yn brofiad hollol unigryw i mi, a dwi wedi mwynhau pob eiliad.

Vote for your choice here:

  • Darllenwr Hapus
  • Crwbran
  • Carw Llychlyn
  • No Award

0 voters