2016 Welsh Language Prose - Post-beginners

Post-beginner - prose entries of up to 500 words, open to everyone, on the topic “Sut i hybu defnydd yr iaith”

Sut i hybu defnydd yr iaith gan Seren y Bore

Y cam cyntaf i bawb yng Nghymru yw dysgu a siarad yr Iaith Cymraeg. Ond, heb hudlath, na fydd pawb yn dysgu a defnyddio’r iaith!

Amser maith yn ôl yr oedd y mwyafrif yng Nghymru, a thu hwnt ei finnau presennol, yn siarad a defnyddio’r iaith feunyddiol, i wneud popeth. Ond daeth mewnfudwyr gyda’u hieithoedd gwahanol, i fyw yma. Gyda’u cryfion i ddiffodd yr iaith, cyfreithlon, a diwylliadol a thrwy e anwybyddu, mae niferoedd o siaradwyr wedi lleihâi dros y blynyddoedd.

Felly, mae mwy i wneud na dim ond dysgu’r iaith. Mae’n angenrheidiol ond dydy ddim yn ddigon. Mae rhaid adennill y statws yr iaith, i’w symud hi o un o’r ieithoedd i’r iaith yng Nghymru. I’w symud hi o iaith “gyfartal” i’r brif iaith.

I ddechrau, bydd pob plentyn yn cael eu haddysg trwy gyfrwng Cymraeg. Cyflwyno ieithoedd eraill o’r oedran un ar ddeg, ond dechrau gyda’r famiaith, yr iaith bwysicaf. I fynd i’r brifysgol, bydd rhaid i bawb yn cael TGAU dda yng Nghymraeg.

Bydd rhaid i bob gwasanaeth yn gweithio trwy’r cyfrwng Cymraeg. Bydd hawl i bawb i ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg. O’r hysbysebion ar y teledu i’r negeseuon ar eu ffonau. O’u gweithwyr ar y strydoedd i’w ffurflenni treth. Bydd rhaid iddynt yn rhoi gwybodaeth yng Nghymraeg ac yn ieithoedd eraill dim ond ar ôl wedi cael ei ofyn.

Felly, i gael swydd yng Nghymru, bydd rhaid cytuno dysgu’r iaith os na fydd y person yn gallu yn barod. I gael dyrchafiad bydd rhaid i ddangos gwelliant yn safon yr iaith. Bydd rhaid y gweithiwr yn dysgu, bydd rhaid y cyflogwr rhoi cynnig cymorth i ddysgu.

Ond maen nhw’n ffyrdd drwm a swyddogol i hybu’r iaith. Beth am ffyrdd deniadol, diwylliadol?

Llyfrau diddorol heb gyfieithu i ieithoedd eraill ond mae rhaid i fi gyfaddef nid llawer yn darllen llyfrau yn aml. Doctor Who (a wneud yng Nghaerdydd) dim ond yn Gymraeg. Beth am Y Gwyll, darlledwyd yn gyntaf yn Gymraeg ar S4C, ac yn ail gyda isdeitlau Saesneg ar y BBC?

Ro’n i’n siarad â pherthynas hen yn ddiweddar a oedd yn byw, am sbel, yng Nghaerdydd, pan oedd hi’n blentyn yn ystod yr ail ryfel. Mae hi’n cofio dim ond sut i gyfri rhwng un i ddeg a mynnodd hi fod hi ddim yn gallu dysgu ieithoedd, ar ôl ei phrofiad dysgu Ffrangeg yn yr ysgol. Ond deudais iddi hi, os oedd cariad Ffrancwr ac un haf yn Ffrainc pan oedd hi’n un ar bymtheg, na fydd problem o gwbl yn dysgu iaith ddieithr.

Felly, ar ôl syniad Max Boyce a’i chwaraewyr rygbi, dw i’n awgrymu adeiladu ffatri i wneud Cymry deniadol iawn, gyda chariad at eu hiaith i dynnu pobl ddi-gymraeg, o Gymru, neu bellach, ond i gyfathrebu iddyn nhw dim ond yn y Gymraeg. Bydd y di-Gymraeg yn dysgu’r iaith fel pris cariad. Os mae Sarah Reynolds yn gallu, mae pawb yn gallu.

Sut i hybu defnydd yr iaith gan Eidalwr

Dywedir i un o sylfaenyddion y weriniaeth Israel benderfynu yn ddigymell i siarad dim ond yr iaith Hebraeg gartref ac ymhobman, yn ymwrthod â defnyddio unryw iaith arall, i hybu defnydd yr iaith fel iaith swyddogol y weriniaeth newydd ei sylfaenu.
Er i ddull radicalaidd yr arloeswr iddeweg gael ei lwyddiant, ni chredaf i ddim i’w gael yr un ganlyniad ymhob achos. Y mae mesurau gallach yn angenrheidiol i hybu defnydd yr iaith Gymraeg.
Yng Nghymru y mae cyrff, lawer eu maint, y mae eu hamcan hybu defnydd yr iaith Gymraeg, er enghraifft Mentrau Iaith Gymraeg, corff gwirfoddol a ariennir gan Lywodraeth Cymry a sylfaenwyd 25 blynedd yn ol i gefnogi a datblygu defnydd y Gymraeg yng Nghymru. Y mae hyd yn oed cangen ym Mhatagonia yn yr Ariannin erbyn hyn ac anfonir athrawon o Gymru yna i ledaenu a chefnogi yr iaith. Dywedid ryw amser y cai y Gymraeg buraf ei siarad yn y Wladfa Gymreig. Diau ddechreuad yr ugeinfed ganrif y dysgid mwy o Gymraeg yn ysgolion Patagonia na yng Nghymru ei hun. Cynnig cwrsiau i oedolion yw amcan Cymraeg i Oedolion
Byddai hefyd yn werth weld sut mae gwledydd eraill yn hybu defnydd eu hieithoedd leiafrifol. Er enghraifft, yn ystod deugain o flynyddoedd y gwaharddid defyndd yr ieithoedd Basgeg a Chatalaneg yn yr Ysbaen. Rwân y cânt eu defnydd yn fwy na’r Sbaeneg yn eu rhanbarthau priodol.
Mae dosbarthiadau a grwpiau sgwrs yn dwy fath o hybu defnydd y Gymraeg. Yna gall pobl, eu ddiddordeb a brwydfrydedd yr un, cwrdd i gael siarad a chynorthwyo eu gilydd. Fodd bynnag, dylai disgwyr ddarllen, ysgrifennu ac ymarfer y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth cymaint a phosibl yn ogystal.
Y mae datblygiadau technolegol newyddaf wedi rhoi hyb mawr i’r defnydd y Gymraeg. Galluogwn hwy i ddysgwyr astudio yr iaith trwy gyrsiau fel SSiW a chysylltu gyda’i gilydd trwy gyfriadur i ymarfer yr iaith.
Y mae rhai sy’n credu mai iaith cyfyngedig ei defnyddiau yw y Gymraeg. Y mae rhaid newid y tyb hwn wrth ddangos bod yr iaith Gymraeg yn addasol i bob fath o sefyllfaoedd ac amgylchiadau. Ysgrifennir traethodau athrofaol yn yr iaith Biedmonteg, iaith leiafrifol gogledd Eidal, paham dim yn y Gymraeg? Y mae rhaid dysgu plant oddi wrth yr ysgol feithrin i barchu y Gymraeg ac i beidio a’i hystyr yn iaith gartrefol neu yn iaith y capel yn unig. Y mae o bwys mawr i oedolion Cymry Cymraeg gefnogi i’w plant siarad a pharchu y Gymraeg, yn arbennig mewn ardaloedd Cymru ble mae mwyafrif o siaradwyr Saesneg. Mae yn galonogol wybod bod llawer o oedolion yn pwysleisio i’w plant fynychu ysgolion ble mae’r addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynghori, cymorthu a chefnogi oedolion sydd am fagu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg yw amcan y cyrff Twf a Rhieni dros Addysg Gymraeg.
Iaith hynafol a chyfoethog yw y Gymraeg. Siaredid ledled Prydain pan orchfygodd y Rhufeiniaid ein hynysoedd. Galarus a throseddus iawn y byddai ei diflaniad. Yn ystod ei hanes y mae yr iaith wedi dioddef sawl cydnewid ac y mae rhaid cefnogi y Gymraeg a’r ieithoedd brodorol eraill Brydain gymaint a phosibl.

Vote for your favourite entry here:

  • Seren y Bore
  • Eidalwr
  • No award

0 voters