Short poem - max 20 lines, written free verse, on the topic “Gwlad”
GWLAD gan Berllandeg
Hiraethu yw fy nghalon I
I weld fy annwyl wlad Cymru
Gwlad y gan, y delyn a'r ddraig
Pobl yn siarad eu hiaith Gymraeg.
O dw i'n cofio dyddiau gynt
A gwelaf y bwthyn cysgodi'r gwynt
A chlywaf y defaid ar y bryn
A murmur yr afon yn llifo i'r llyn.
Yr awel yn y dderwen fawr
A dail o bob lliw ar y llawr.
A Bopa Jane o siop y fro
Yn gwerthu popeth o laeth i glo.
Can yr adar ar y brig
A llygod yn cuddio yn y grug
Tybed os eira ar Yr Wyddfa nawr?
Neu haul yn disglair a machlud y wawr?
I Botany Bay ar y llong dw i
Bell i fwrdd o fy ngwlad Cymru.
Cofion melysach sydd yn fy mron
A thorri, torri yw fy nghalon.
.
Cofio gan Tictictic
Golau wawr – Ein pwll glo – a reolir nawr gan
Bwrdd Glo Cenedlaethol ar ran - y bobl!.
Ein gwlad, ein glo, ein bobl!
Pasio amser - Dydd – Trin y sal – dim arian
ein Gwasaneth Iechyd Gwladol am y bobl!
Ein gwlad, ein iechyd, ein bobl!
Pasio amser – yn y gogledd, niwl,
dwr ychwanegol am Lerpwl – ein dwr?
Ond gall ein plant ddysgu yn prifysgol!
Hugain cyntaf Hydref – ble mae Capel Celyn?
O dan y dwr – boddi gan dinas Lerpwl.
Ein pentre, ein dwr, ein bobl.
Pen-blwydd cyntaf – plant ysgol yn canu – dwelwch
Rholio taranau – nos!
Ble mae’r plant? Ble mae’r ysgol?
Gladdwyd yn fyw gan Bwrdd Glo Cenedlaethol…
ar – ar ran - ar ran y – ar ran y bobl?
Cân y Wlad gan Gwenhwyfar
Cân y mynydd
Lle’r gwynt yn chwibanu,
Y grawc y cigfran, defaid sy’n brefu.
Cân y dyfroedd
Efo’r sisial y nantydd,
Y rhuo, y brysio, cerddoriaeth afonydd.
Cân y coedwig
Lle nythu’r adar,
Efo’r wawr symffoni, sŵn eu trydar.
Cân y lan môr
Efo’r trwst y tonnau,
Sgrechian gwylanod, rhythm y llanwau.
Cân y pobl
Sy’n cyfanheddu’r wlad,
Yn siarad iaith y nefoedd, iaith eu tad.
Dw i’n caru’r wlad
Ei chân mor hudol,
Cymru, gwlad beirdd a chantorion, i mi rhyfeddol.
Gwlad gan Seren y Bore
Mae fy ngwlad yn yr haf yn heulog,
Gyda’r steddfod a’r sioeau a phethau i’w weld
Ac ymwelwyr a’u ceir sy’n gyrru heibio
yn gadael fy mro, a fi, heb olwg.
Mae fy ngwlad yn yr hydref yn oeri
Gyda’r tywydd yn gwaethygu
a’r nosau yn tyfu
a’r goleuadau yn cael eu lladd.
Mae fy ngwlad yn y gaeaf yn rhewi
fy nghalon. Gyda chydweithwyr yn aros adre
a fy ngadael fi i weithio o dan y lludw
hebddyn nhw a’u calonnau yn fyw.
Fy ngwlad yn y gwanwyn yn dechrau gwyrddio
ond mae’n rhy hwyr i fi. Fy nghalon yn methu, ar ôl
blynyddoedd o wacter. Mae’r farwolaeth yn dod rhywbryd
neu’i gilydd. Na fydd hi’n cael ei dianc.
Vote here for your favourite entry:
- Gwlad gan Berllandeg
- Cofio gan Tictictic
- Cân y Wlad gan Gwenhwyfar
- Gwlad gan Seren y Bore
- No award
0 voters