Post-beginner - A book review written in Welsh, for learners that are enjoying reading in Welsh and would like to share a favourite book with others, up to a maximum of 500 words,
Diffodd y Sêr gan Seren y Bore
“….Anni, dwi am i ti edrych ar y sêr, ac mi wna inna ‘run fath. Fedar neb ddiffodd y ser. Neb”
Diffodd y Sêr, gan Haf Llewelyn, yw llyfr am hanes Hedd Wyn, Ellis Evans. Mae e, Hedd Wyn yn enwog am ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mirkenhead ym 1917. Ond dydi’r llyfr ddim o’i safbwynt, neu o’r safbwynt rhyw awdurdod, ond mae’r stori yn digwydd trwy’r llygaid un o’i chwiorydd ifancach, sef Anni.
Fel unrhyw arddegwr, mae Anni yn cael problemau ei hunan. Dy ni’n weld ei dychymyg pan mae hi’n casglu poblenni wen am lwc, neu i dawelu’r demoniaid yn ei phen. Mae’r llygaid llwynog yn stôl Gwen Jones, y tân ar ei chroen, yn ei gwylio hi. Ond mae hi’n derbyn y cyngor doeth o’r siop wraig Mrs Lloyd.
Rydyn ni’n cwrdd â’r ffrind gorau Anni, Lora. Mae ei thad wedi cyrraedd gartre o’r rhyfel ond dim fel arwr. Mae’n cuddio yn y tŷ ac yn osgoi bron pawb ond ei wraig. Beth yw ei gyfrinach, ei ddirgel? Yn ystod y stori rydyn i’n dysgu tipyn bach am yr uffern a oedd e’n dioddef yn y ffosydd yn Ffrainc.
Oherwydd sefydlwyd y stori yn y rhyfel mae pobol ddŵad yn dod i bentre’ Trawsfynydd. Hywel yw un ohonynt, wedi colli ei dad ond mae e’n llanc newydd yn yr ardal. Mae Anni a Lora yn ei hoffi fe, ond mae Lora yn ennill ei galon e. Yn ei hennill, mae hi’n colli, am dipyn, Anni.
Trwy’r stori i gyd rydyn ni’n clywed stori Ellis. Gwyn ei byd yn ei hapusrwydd. Mae pawb yn ei garu fe, hyd yn oed mae’n hwyr i godi. Mae’n sgriblo trwy’r amser penillion. Pan ddod ei orfodaeth mae’n llawenu ei deulu, ei gariad ac ei chwaer. Pan fydd e dramor bydd y ddau ohonynt yn gweld y sêr, a bydd yr un yn meddwl am y llall. Fydd neb yn gallu diffodd y sêr.
Fel stori anelwyd i arddegau mae’n addas iawn i ddysgwyr. Mae’n eitha byr ac mae’n siarad am gariad a cholled, ofn a gobaith, arwriaeth ac anobaith, abledd ac anabledd. Brawd Anni yw un o’r cymeriad yn y stori, nid ydy e’r unig gymeriad. Felly os rydyn ni’n gwybod hanes Hedd Wyn mae llawer mwy i wybod. Beth ddigwyddodd yn yr ardaloedd gwladaidd pan ddiflannodd y bobl ifanc? Sut oedd pobl yn cael newyddion drwg, ne dda, yn ystod y rhyfel. Pa fath o anrheg i brynu pan does dim arian yn y teulu. Rydyn ni’n cael siawns i ddarllen llythyr gan dad Lora a ddisgrifio beth ddigwyddodd iddo fe a hefyd pennill gan Ellis.
Mae’r stori yn gorffen ar ôl y diwedd y rhyfel. Mae bywyd yn parhau, er bod y cyfnod erchyll. I bawb sy wedi dioddef colled, mae’n cysur.
Pam? gan Cwningen Ddu
Y llyfr gan Dana Edwards
Mae ‘Pam?’ yn adrodd hanes tri ffrind wrth iddyn nhw adael y brifysgol a dechrau gwneud eu ffordd yn y byd.
Y cymeriad canolog yw merch o enw Pam, ac mae’r nofel yn dilyn ei datblygiad o fod yn ferch ansicr, dew, heb gefnogaeth teulu, i fod yn fenyw llwyddiannus yng nghanol ei chymuned.
Mae’n dechrau yn 1991 gyda pharti pen-blwydd 22 oed Pam a Gwennan, sy’n rhannu ffat yn Aberystwyth ac yn rhannu penblwyddi hefyd. Dyna’r tro cyntaf i Pam gwrdd a Rhodri, efaill Gwennan sy’n astudio meddygaeth yn Llundain. Mae Gwennan yn hapus bod Rhodri’n ymateb yn ffafriol tuag at ei ffrind gorau, ac mae Pam wrth ei bodd gyda fe. Mae’r tri yn penderfynu trio treilio eu penblwyddi gyda ei gilydd pob blwyddyn o hyn ymlaen. Ond y noson honno, maen nhw hefyd yn rhannu cyfrinach trasig y bydd yn fygythiad cyson yn ei bywydau dros y degawd nesaf.
Mae strwythur y nofel yn anghyffredin ac yn eithaf clyfar: rydyn ni ond yn cael cip ar y tri unwaith pob blwyddyn ar eu penblwyddi. Mae’r un diwrnod yn cael ei ddisgrifio yn fanwl bob tro.
Mae Pam yn benderfynol o aros yn Aberystwyth, ac mae hi’n dechrau gweithio mewn kiosk hufen ia ar y prom. Ond yn araf bach mae hi’n llwyddo i ffeindio ei lle yn y gymuned, yn cyflwyno ar Radio Ceredigion ac yn cael ei hethol i gyngor y dre. Mae ail hanner y nofel yn troi’n fwy gwleidyddol, wrth i’r cynulliad newydd gael ei sefydlu yng Nghaerdydd. Mae Pam yn cael ei hethol fel un o’r aelodau cyntaf.
Mae Gwennan yn cael swydd yng Nghaerdydd, ac ar y dechrau mae hi’n hapus iawn yn dysgu Cymraeg mewn ysgol uwchradd. Flwyddyn yn ddiweddarach mae hi’n priodi ‘y dyn perffaith’ o’r ysgol ac yn cael babi y flwyddyn ganlynol. Ond wedyn mae pethau yn dechrau mynd o’i le iddi hi ac mae’n ymddangos bod clefyd dirywiol ar y dyn perffaith.
Mae Rhodri’n mwynhau’r bywyd cyflym yn gweithio yn A&E yn Llundain. Mae gyda fe gyfres o gariadon ‘tal, blonde’, sydd byth yn para am rhy hir. Yn y diwedd, mae e’n symud i Gaerdydd i gefnogi Gwennan, sydd yn ffeindio’r bywyd yn fwyfwy heriol erbyn hyn.
Thema’r nofel yw effaith cyfrinach y noson cyntaf ar fywydau’r tri. Ond mae hi hefyd yn ymwneud â chenedlaetholdeb Gymreig naturiol Pam yn erbyn agwedd Rhodri, sy’n tueddi i edrych tuag at Llundain a thu hwnt. A fydd e byth yn dechrau deall pwysigrwydd cymuned leol a’r iaith Gymraeg? A fydd y tri’n llwyddo dianc rhag cysgod digwyddiad y noson honno? Ac a fydd Rhodri’n sylweddoli o’r diwedd pa ferch fydd yr un iawn iddo fe?!
Roedd ‘Pam’ yn ddiddorol i fi achos y bues i yn y ‘ddinas fawr ddrwg’ ar yr un pryd a Rhodri. A phryd hynny, d’on i ddim yn ymwybodol iawn o Gymru a’r iaith Gymraeg o gwbl – fel y bobl yn y theatr sy’n gofyn iddyn nhw ‘What language are you speaking?’ (sy’n cythruddo Pam cymaint!).
Mae ‘Pam?’ yn drafodaeth pryfoclyd ynglyn a lle Cymru yn y byd – ond yn fwy na hynny, mae’n stori dda!
Arolygiad gan Yr Alla
Mwy na bardd - bywyd a gwaith Dylan Thomas. Kate Crockett. Cyhoeddiadau Barddas, 2014. 163 tudalen.
Bywgraffiad cyntaf llawn yn y Gymraeg ynghylch Dylan Thomas ydy “mwy na bardd”. Mae Kate Crockett yn newyddiadurwraig a chyflwynwraig ym maes y celfyddydau.
Gofynir tri chwestiwn sylfaenol ar glawr cefn y llyfr:
Cymro balch neu fradwr gwrth-Gymreig?
Meddwyn di-chwaeth neu fardd sensitif?
Pwy oedd y Dylan Thomas go iawn?
Mae Kate Crockett yn ceisio eu hateb nhw gan adrodd stori Dylan a’i Gymreictod. Yn fy marn i mae’r llyfr yn ddifyrrus a llawn wybodaeth, yn enwedig gan ystyried cefndir teuluaidd Dylan a dylanwad y Gymraeg ar waith Dylan.
Un o brif feirdd yr iaith Saesneg ydy Dylan Thomas. Mae o’n adnabyddus tu allan ei Gymru frodorol, a thu hwnt ffiniau’r iaith Saesneg. Er enghraifft, cyfieithwyd “Under Milk Wood” i mewn i 30 iaith. Mae ei waith yn dal yn berthnasol hyd yn hyn.
Er gwaethaf ei enwogrwydd rhyngwladol, heb ddealtwriaeth ei gefndir Gymreig - ac oedd yr iaith Gymraeg yn ran bwysig ohono - ni fedrwn ddeall Dylan yn llawn, a’i waith ychwaith.
Mae’r llyfr yn dilyn cefndir a bywyd Dylan Thomas, o’i hen-ewythr enwog William Thomas tan ei farwolaeth yn Efrog Newydd yn 1953.
Adroddir stori ei fywyd o’i enedigaeth yn 1914, drwy ei flynyddoedd cynnar, dechreuad ei yrfa fel bardd, cyfnod y rhyfel, ac yn olaf, ei fywyd ar ol y rhyfel tan ei farwolaeth yn 1953. Mae’r tair pennod olaf yn ymdrin yn briodol a’i fardonniaeth a rhyddiaith, a pham mwy na bardd oedd o.
Mab Cymru Gymraeg oedd Dylan, er nad oedd o’n gwybod mwy nag ychydig o eiriau Cymraeg. Roedd ei rieni yn Gymry Cymraeg; oedd ei enw Dylan yn seiliedig ar gymeriad o bedwaredd gainc y Mabinogi; a’i ail enw Marlais ar Gwilym Marles, enw barddol ei hen-ewythr.
Magodd ei rieni Dylan yn ddi-Gymraeg. Er hynny roedd y Gymraeg o’i gwmpas ym mhob man: siaradwyd gan ei deulu, gan ei gyfeillion; clywai’r iaith mewn stryddoedd, mewn tafarnau, yn y capel, debyg iawn hyd yn oed yn ei gartef wrth i’w dad ddysgu Cymraeg.
Ar ol ei wraig Caitlin a’i gyfeilion, liciai Dylan fod wedi medru’r Gymraeg, ond nid oedd yn un am boeni ddysgu unrhywbeth. Y ffaith na siaradodd mwyafrif ei genhedlaeth yr iaith oedd yn ffactor hefyd.
Dangosir dwy enghraifft o gynefindra Dylan a’r Gymraeg: “time has ticked a heaven round the stars” lle mae “time” ac “round the stars”’ yn cyfeirio at “amser”; a “the parched worlds of Wales” lle mae “parched” yn cyfeirio at “parchedig”. A honnir roedd Dylan yn gyfarwyd a chynghanedd gan ddangos presenoldeb strwythur cynghanedd mewn ambell gerdd.
O ran ysbrydoliaeth farddol Dylan crybwyllir dau destun Cymreig yn enwedig: un yn grefyddol, sef ei hen-ewythr, ac un yn gymdeithasol, fel dangoswyd yn y llyfr My Friend Dylan Thomas.
Wnes i fwynhau darllen y llyfr yn fawr, gan fy mod i wedi synnu ers talwm am faint o wybodaeth oedd gan Dylan am y Gymraeg a’i llenydiaeth foethus, ond ar ddiwedd hefyd gan fod yr awdures yn ymdrin efo cydymdeimlad a chymeriad a bywyd cymhleth Dylan.
Adroddiad manwl am safle Dylan yng Nghymru Gymraeg ydy’r llyfr, ond yn bennaf llyfr treidgar am Dylan Thomas fel bod dynol - mwy na bardd.
Adolygiad Llyfr gan Sion y Brag
“Oswald” gan Lleucu Roberts
Llyfr y gyfres “Stori Sydyn” (sy’n cael ei chyhoeddi gan “Y Lolfa”) ydy “Oswald” gan yr awdures Lleucu Roberts. Dydy y gyfres hon ddim yn ddeunydd enwedig i ddysgwyr, ond os dych chi’n chwilio am rywbeth i ddarllen sy’n lai heriol na nofel hyd llawn (ac heb wario llawer o arian!) bydd y llyfrau byrion yma yn addas iawn. Mae’r gyfres yn gynnwys sawl teitl ffeithiol hefyd, os dych chi ddim yn hoffi ffuglen. Oherwydd nad y gyfres ddim yn benodol i ddysgwyr, yn anffodus does dim geirfa ar bob tudalen, felly dych chi angen defnyddio geiriadur da er mwyn deall pob gair – ond dull ardderchog ydy hwn i ddatblygu eich geirfa eich hun.
Ac mae llawer o eirfa “Oswald” yn cysylltu â marwolaeth, angladdau a mynwentydd: ond os dych chi’n meddwl y bydd y llyfr hwn yn ddigalon, peidiwch â phoeni – mae o’n ddoniol iawn mewn gwirionedd!
Cymeriad rhyfedd ac anarferol iawn ydy Oswald ei hun, oedd yn arfer ysgrifennu teyrngedau ar gyfer papur newydd cyn iddo golli ei swydd. Er fod o wedi ymddeol, mae o’n parhau i fynychu cymaint o angladdau â phosib (yn arferol angladdau dieithriaid), lle mae o’n ysgrifennu manylion pob un mewn llyfr bach coch. Y cwestiwn ydy – pam yn y byd, pan oedd o’n medru wedi dewis ffordd o fywyd fwy siriol, a phan fod cymeriadau eraill yn awgrymu iddo y dylai newid sut mae o’n byw.
Yr ateb i’r cwestiwn hwn ydy testun yr holl stori, ond dydy’r llyfr ddim yn rhoi’r ateb mewn ffordd amlwg neu syml – y prif reswm pam y llyfr mor ddiddorol.
Dych chi’n dod i ddarganfod cymeriad Oswald drwy’r manylion bychain o beth mae o’n gwneud - a drwy beth mae o’n meddwl am bethau, yn enwedig pan ei fod yn gartref yn ei gegin o (yr un gegin lle bu farw ei fam sawl blwyddyn yn ôl). Yn fuan mae hi’n dod yn eithaf amlwg bod y perthynas rhwng Oswald ac ei fam (ac ei pherthynas hi gyda ei chariad, Y Major – oedd ei chyflogydd hi hefyd) yn ganolog i sut rhaid i chi ddeall ymarweddiad rhyfedd Oswald.
Mae Lleucu Roberts yn disgrifio popeth Oswald yn gwneud yn ofalus iawn – er enghraifft sut mae o’n paratoi ei frecwast a lapio fflapjac ar gyfer ei ginio mewn ffoil, ac mae pob manwl yn datblygu eich gwybodaeth ohono, gan adeiladu yn araf llun o ddyn dwys, heb ffrindiau go iawn neu bwrpas yn ei fywyd. Dydy o byth wedi gwneud unrhywbeth cyffrous – o leia, dim ers treulio ambell ddyddiau gwyllt ar ôl marwolaeth ei fam, a gwneud y peth drwg (allwedd arall i’w gymeriad) a oedd y rheswm collodd ei swydd.
Ond o’r diwedd mae Oswald yn mynychu un angladd sy’n dod iddo fel syndod a sioc mawr. Yr unig alarwr ydy o, ond enw yr ymadawedig ydy ei enw hun. Cyd-ddigwyddiad ydy hyn? Efallai. Beth bynnag, mae’r angladd hwn yn achosi iddo feddwl am wisgo tei mwy lliwgar!
Vote here for your favourite entry:
- “Diffodd y Sêr” gan Seren y Bore
- “Pam?” gan Cwningen Ddu
- “Mwy na bardd” gan Yr Alla
- “Oswald” gan Sion y Brag
- No award
0 voters