Weekend for Welsh learners in Tresaith/Penwythnos Dysgwyr Tresaith

Friday 10th-Sunday 12th February 2017 - Weekend for Welsh learners (Canolradd/Uwch) in Tresaith.
£50
Canolfan Tresaith
Bydd y penwythnos yn gyfle i ddysgu am Gymdeithas yr Iaith a bydd digon o gyfle i gymdeithasu a chlywed am brofiadau pobl eraill o ymgyrchu a defnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth.

Bydd y penwythnos yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd neu uwch

Mae lle i bawb aros yn y ganolfan, a llety a gweithgareddau’r penwythnos wedi ei gynnwys ym mhris y penwythnos. Bydd brecwast bob bore, swper nos Wener a chinio dydd Sadwrn yn cael eu darparu.

Dyma amserlen y penwythnos:

Nos Wener
5.30- cyrraedd
6/6.30 – swper
7-8 Cyflwyniad i Ail Symudiad - Richard Jones
8 - Cymdeithasu a chyfle i fynd i gig Ail Symudiad yn Aberteifi (bydd ceir i fynd lawr â phawb)

Dydd Sadwrn
9 – Beth yw Cymdeithas yr Iaith?
9.30-10.30 - Fy mhrofiad i o ymgychu dan arweinad Siân Gwynfor
11-1 - Uwchgylchu dillad gyda Carys Hedd
1pm - cinio yn y ganolfan
2.30 - Dyfed Elis Gruffydd yn arwain taith o amgylch Aberteifi (bydd rhywfaint o amser rhydd yn Aberteifi wedyn)
4.30 - Mynd i wylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr neu aros yn Aberteifi i grwydro
7pm - Swper yng Nghaffi Emlyn
8pm - Twmpath dawns dan arweinad Emyr Phillips

Dydd Sul
9.30 - Ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith
10 - Richard Vale – ymgyrchu a’r Gymraeg
11 - Sesiwn ‘Penbleth’
12-1 - Sesiwn gloi + adborth

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru / 01970 624501

Pris: £50.00

2 Likes