Transcribing Dan yr Wyneb Project

I have changed this first post to be the current state of the transacription for this episode of Dan yr Wyneb (Under the Surface).

(Intro music)
Croeso aton ni unwaith eto i “Dan yr Wyneb”, a sgwrs rownd y bwrdd sy’ gynnon ni i godi nifer o gwestiynau am un maes. ‘Wan mewn rhyw bythefnos adeg y Steddfod Genedlaethol mi gawn ni wybod pwy sy wedi ennill un o’r gwobrau pwysica’. Nid y goron na’r gadair, ond teitl Dysgwr y Flwyddyn. Felly, dan ni wedi dod â phedwar o enillwyr y teitl hwnnw yn y gorffennol, dan ni ‘di dod â nhw at eu gilydd. Y syniad ydy trafod eu profiadau nhw eu hunan, a lle mae maes Cymraeg i Oedolion yn mynd, yn wyneb y toriadau ‘ma sydd wedi cyhoeddi o bymtheg y cant neu filiwn a hanner o bunnoedd erbyn y flwyddyn nesa’. Ond be’ wna’ i i ddechrau ydy gofyn i’r pedwar i cyflwyno eu hunan, deud pwy ydyn nhw, pa flwyddyn enillon nhw deitl Dysgwr y Flwyddyn, lle maen nhw’n byw rŵan, ac o ble maen nhw’n dod yn wreiddiol. Ac mi awn ni yn ôl trefn amser ‘ma - mi awn ni nôl at ddechrau efo’r cynta’ i ennill - sef Jo Knell.

JK - “Mi ennillais i y cystadeuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 1991 yn Yr Wyddgrug. Dw i’n byw yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol, dw i’n dod o Fryste ac yna Cernyw.”

LA - “Helô, Lois Arnold ydw i. Ennillais i yn 2004 yng Nghasnewydd. Dw i’n byw yn Y Fenni yn Sir Fynwy ond yn wreiddiol dw i’n dod o Loegr, o’n i’n dod o Surrey - sy’n swnio yn bosh iawn! - a dw i’n byw yng Nghymru ers 1997.”

SH - “Helô, Sue Huws dw i. Dw i’n byw yng Nghymru Mawr rŵan, ond o Ellesmere Port yn wreiddiol. Wnes i ennill Dysgwr y Flwyddyn yn 2005.”

MC - “Martin Croydon dw i. Wnes i ennill Dysgwr y Flwyddyn y llynedd yn Dinbych. Dw i’n byw ger Pwllheli rŵan, ond dw i’n dwad o Kidderminster yn wreiddiol.”

Reit, wel, Martin Croydon, gan mae chi sy’ siwr fod yn cofio orau gan mae dim ond llynedd oedd hi, pa wahanaeth mae ennill y teitl ma wedi gwneud i chi?

Mae jyst… mae wedi agor gymaint o ddrysau, a dw’i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel, sy ni byth 'di meddwl faswn i’n medru cael i ddweud y gwir, a dw i 'di cyfarfod cymaint o bobl, a dw i wedi siarad - wel gobeithio hefyd dw i’n gobeithio mod i wedi rhoi hwb i bobl eraill yn yr ardal sydd yn dysgu a gweithio am y pobl sy’n teimlo bod hi’n anodd a byddan nhw byth yn rhygl. Ond mae’r teitl wedi newid llawer o bethau mewn fyrdd gwahanol ond…

Rowch… dach chi’n dweud bod chi wedi cael profiadau yn amser chi ddim wedi cael fel arall, rowch engraifft y hynna.

Dw i 'di bod yn siarad ar Radio Cymru dipyn. Dw i 'di bod yn siarad gyda grwpiau yn yr ardal, Merched a Wawr, a grwpiau eraill ac dw i wedi teithio o gwmpas Cymru dipyn yn ystod y flwyddyn diweddaf, dw i’n teimlo fel mod i’n nabod Cymru yn well erbyn hyn.

Reit wel… nawn ni yn ôl… nawn ni i brofi cof y lleill nawr wrth weithio yn ôl trwy’r amser, felly Sue Huws nesa’ 2005 oeddoch chi. Oedd… Gafoch newid tebyg yn eich bywyd chi?

Ie, ges i lot o brofiadau wahanol ar ôl ennill y teitl, teithio o gwmpas i lawr i Gaerdydd a, efallai, siarad efo pobl. Jyst y ffaith mod i 'di ennill, mae pobl eraill wedi, chimod, yn meddwl “O iawn, wel os ydy hi 'di ennill, dw i’n gallu hefyd”.

Ac wedyn Lois, dach chi… dan ni’n mynd yn ôl i 2004, ond dach chi’n byw yn Y Fenni, lle mae 'na, hynny ydi, lle does 'nam llawer iawn iawn o siaradwyr Cymraeg iaith cynta. Ydy y profiad wedi bod yn wahanol i chi?

Wel, dwi wedi darganfod mwy o bobl na disgwyl yn Y Fenni, felly mae pobl wedi symud i mewn… Cymry Cymraeg wedi symud i mewn i’r ardal a hefyd llawer o bobl wedi dysgu. Wedi dweud hynny, mae yn ardal Saesneg iaith iawn, so dwi’n trio hybu’r Gymraeg pob cyfle dw i’n cael. Dw i’n dysgu pobl geiriau maen nhw eu mwynhau - pobl di-Gymraeg - a trio ennill diddordeb, denu pobl at ddysgu Cymraeg.

Oedd pobl… Oedd eich cymdogion, er enghraifft, ymwybodol bo’ chdi wedi ennill y teitl?

Wel, roedd hi yn y papur lleol, so roedd pobl, pobl di-Gymraeg wedi darllen am y peth. Mae’r cymdogion, fel mae’n digwydd, yn Gymry Cymraeg, ond… llawer o bobl… dyw llawer o bobl ddim yn deall, efallai, pobl di-Gymraeg ddim yn deall pwysigrwydd y peth. Ond hyd yn oed ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg yn 1997, dw i wedi gweld newid agwedd - i ddechrau, oedd pobl yn dweud, “Wel pam wyt ti’n dysgu Cymraeg, beth yw pwynt yn yr ardal yma?”. Ond nawr mae llawer… mae pobl yn deall ac yn gwerthfawrogi, llawer mwy dw i’n credu, ac maen nhw’n edmygu y ffaith bo’ chi wedi meistroli’r iaith, er bod nhw’n dal i ddweud “O, allwn ni byth wneud hynny”.

Ond jyst troi at Jo Knell yn sydyn, achos dan ni’n mynd yn ôl i 1991 felly blynyddoedd gweddol gynnar o ran y gystadleuaeth yma. Oedd 'na gymaint o sylw yr adeg hynny?

Oedd… wel, sylw oedd yn annisgwyl, dw i’n credu, bod unrhywun sy’n ennill yn barod, am y sylw sy’n cael i roi dach chi’n cael rhyw pymtheg munud o enwogrwydd. Ond, ie, fel dach chi’n dweud, ennillais i yn y mileniwm diwetha. Mae’n perthyn i’r oes blaenorol a fu a dweud a gwir, ond swn i’n anghytuno gyda’r lleill - y peth mwy, efallai, yw bo’ chi’n cael cyfle cyfarfod â llawer o bobl. A hynna, o’n i wastad yn mwynhau ac yn dal i fwynhau. Ond effallai, o ran ystyr y gystadleuaeth ac effaith y gystadeuaeth, dw i’n credu bod hynna yn digwydd i bobl eraill mwy nac yw ei bobl sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, achos fel rhywun yn y gystadleuaeth dach chi ddim yn teimlo unrhyw fath o ymdeimlad o gystadlu o gwbl. Mae’n rhywfath o ŵyl, a dweud a gwir, ŵyl dysgu Cymraeg. A efallai dyna’r peth gorau amdano fe. Ond hyd yn oed nawr - mae’n tair blynedd a hugain yn ôl - mae 'na dal pobl sy’n dweud “O, Jo? Jo? - nawr, gosh, sut dw i’n gwybod yr enw yna? Ydych chi y Dysgwr y Flwyddyn?” Wel… Wel, ie…yn y mileniwm diwetha, chi’n iawn, o’n i. Ond, ie, mae 'na pethau eraill amdana i hefyd.

Mi ddawn ni nôl at y cwestiwn y rownd hynna mewn munud, ond jyst hyd yn ôl ati pethau dach chi, Lois, ydach chi’n dweud bod pobl yn arfer gofyn i chi, “Wel, pam dach chi’n dysgu Cymraeg?” Ond mae yn gwestiwn tydy, pam wnaethoch chi, achos mae llawer iawn o bobl sy’n symud i Gymru a dydyn nhw ddim yn dysgu Cymraeg, felly pam wnaethoch chi?

O, wel, y munud i mi gyrraedd Cymru, o’n i isio… o ran parch at y Gymraeg o leol, ond hefyd o ran diddordeb, o’n i’n meddwl bod yn gyffrous iawn, o’n i isio. Ac o’n i isio gallu cyfrannu at y bywyd wlad a mwynhau popeth, mwynhau pob agwedd. Efallai i ddechrau, do’n i ddim yn disgwyl dod yn rhygl, o’n i’n gobeithio, efallai, agor y drws tipyn bach, a cael gweld mwy o Gymru, ond wedyn ces i’r byg, so…

So os fi’n iawn, oeddech chi wedi dod i Gymru heb hyd yn oed fod yn wybodol bod 'na yr iaith Gymraeg?

O, ie, ie, ond o’n i’n byw tua dim ond pum milltir tu allan i Gymru pan o’n i’n blentyn, pan wnes i ddod i mewn i Gymru fel myfyriwr i’r brifysgol yma ym Mangor, do’n i ddim wedi sylweddoli bod 'na iaith Gymraeg oedd yn cael i ddefnyddio fel, fel Saesneg, fel iaith, chimod, cael i siarad bob dydd.

Ydy’n synnu’r gweddill arnoch chi, y gallwch chi fyw o fewn pum milltir i’r ffin Cymru a ffaelu gwybod bod 'na iaith fyw yma?

na, na, yn bendant…

Yn Kidderminster yr un peth. Doedd neb yn Kidderminster yn gwybod bod 'na iaith yng Nghymru er bod ni dim ond eitha dauddeg pum milltir o’r ffin, a pan dw i’n mynd yn ôl rŵan, dw i’n dweud wrth pobl mod i’n siarad Cymraeg, a maen nhw’n edrych arnat ti, “O, oes 'na… oes 'na iaith…?” Wel, oes!

Ces i profiad, os dach chi isio clywed, pan es i i Balas Buckingham. Dw i ddim yn gwybod os y dysgwyr… (O, mae frolio, ie?) O, wel, ie, ges i wahoddiad i’r parti nadolig i Frenhines ar ôl ennill Dysgwyr y Flwyddyn, ac o’n i’n siarad â rhywun o’r Teulu Brenhinol ac doedd e ddim yn gwybod bod llyfrau wedi sgwennu yn y Gymraeg. Ges i wedi codi’r ymwybyddiaeth y Teulu Brenhinol.

Dw i’n gobeitho bod chi’m sŵn am y Tywysog Charles, achos oedd hynna yn darllen Dafydd ap Gwilym, yn oedd!

Na, dim Tywysog Charles! Oedd… Oedd e’n iau.

Ond ydy… ydy hynna’n wendid, rhywbeth sy o leia ar y system addysg 'ta yn Lloegr ddudwn ni, dach chi ddim yn cael gwybod am yr iaith Gymraeg?

Na, swn i’n dweud bod e mwy i wneud â Chymru, er mwyn mae lan i Gymru, dw i’n credu, i wneud mwy o frolio, a rhoi mwy o gychwyn i ystyriaeth i gryfderau ac unigrywiaeth yr iaith Gymraeg. Swn i ddim yn disgwyl i, i Lloegr, frolio a rhoi cyhoeddus, roedd am Ffrangeg…

Ie, ond dydy e ddim o Brydain Fawr. Dydy Ffrainc ddim yn rhan o Brydain Fawr. Dyma Gymru, rhan o Brydain Fawr… (ydy, yn anffodus)… efallai dylai fod mwy o sylw…

Ie, ond dw i’n credu mae’n lan i Gymru ac yn enwedig y Llywodraeth Cymru i wneud mwy o sŵn am y ffaith bod iaith fyw gyda ni.

Ond swn i’n licio mynd rownd y bwrdd unwaith eto hefyd, jyst i ofyn, sut dach chi erbyn hyn yn defnyddio’r Gymraeg yn eich bywyd. Efallai o’n i’n dechrau unwaith eto o’r cyfeiriad arall tro mor dechrau’n 2013. Felly, Martin Crydon, sut dach chi’n defnyddio’r iaith erbyn hyn? Faint o ran o’ch bywyd chi ydy hi?

O, mae’n digwydd yn aml iawn dw i ddim yn siarad Saesneg trwy’r dydd, wel bob nos fel arfer dw i’n siarad efo mam ar y ffôn, a hi ydy’r unig person trwy’r dydd dw i’n siarad Saesneg efo, so mae pob dim wedi newid dros i’r Gymraeg, gwaith, ffrindiau, mae gen i gariad a dan ni’n siarad Cymraeg, so efallai mae pob dim mae Cymraeg. Jyst rhan hollol naturiol o ym mywyd rŵan a dw i’m medru dychmygu byw… wel, dw i’m dychmygu fy mywyd heb y Gymraeg rŵan.

2005, Sue Huws, faint o ran ydy’r Gymraeg yn eich bywyd chi erbyn hyn?

Wel,rŵan mae gen i dri o blant ac yn y ty dan ni’n siarad dwy iaith - Cymraeg a Saesneg. Dw i’n mynd i gapel bob wythnos - capel Cymreig, dw i’n gweithio efo’r Ensemble Cymru ym Mangor, a dan ni’n defnyddio’r Gymraeg yn y swyddfa, efo cwsmeriaid a perfformwyr a phopeth. Pan dw i yn y car, dw i’n gwrando ar Radio Cymru, a gwilio ar S4C yn aml iawn, so mae’n jyst fel oedd Martin yn dweud, mae jyst rhan o fywyd rŵan.

Lois Arnold, dw i’n gwybod bo’ chi yn sgrifennu dipyn yn y Gymraeg erbyn hyn, ddudwch chi bach o awgrym am hynny, felly?

Ydw, dw i wedi sgrifennu tri llyfr i ddysgwyr, dwy nofel ac un gyfres o straeon byrion i ddysgwyr, ac hefyd dw i’n ysgrifennu i CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru) straeon a cerddi i ddysgwyr. Mae fy nofel newydd Sgŵp yn cael ei gyhoeddi wythnos nesa. O’n i wedi, cyn dysgu Cymraeg, o’n i wedi ysgrifennu llyfrau ffeithiol yn y maes iechyd meddwl, yn Saesneg, ond o’n i erioed o’r blaen wedi sgwennu ffuglen. Mae’r Gymraeg wedi agor rhywbeth am fy hun, am fy ymennydd neu fy nghreadigrwydd.

Be’ dach chi’n dweud yna, felly, na dach chi ddim yn gallu gwneud yn y Saesneg?

Wel, dw i ddim wedi trio, pob tro dw i’n meddwl am stori, efallai, rhywbeth dw i isio… rhywbeth dw i isio mynegi yn y ffordd yna, dw i’n meddwl amdano fe yn y Gymraeg. Do’n i 'di drio rhywbryd, efallai, sgwennu yn Saesneg, ond dw i’n mwynhau yn fawr iawn. Mae bywyd y pawb yn cael i rannu adranau gwahanol a fel arfer mae un iaith y dominyddu pob adran. Dw i wedi ymwneud ag addysg ers bron ugain mlynedd nawr, i fi mohoni i gyd ymwneud â Gymraeg. Ond wedyn, mae 'na adranau o fy mywyd sy’n dod yn fwy naturiol yn Saesneg o hyd. Dw i ddim isio trafod fy morgais yn Gymraeg, er engraifft.

Does 'na neb isio ei wneud hynny yn unrhyw iaith…

Ond mae’n ddiddorol iawn, dw i’n mwynhau wneud croeseiriau, a dw i’n wneud croesair yn Saesneg, rhywbeth o’n i’n mwynhau gwneud cyn dysgu Cymraeg, ond weithiau mae’r Gymraeg yn dod yn gynta fel ateb - sy’n niwsans weithiau!

Jo, dach chi wedi ateb isio efallai be’ dach chi’n…, sut dach chi’n defnyddio’r Gymraeg rŵan, yn amlwg yn grym yn eich gwaith, ond be’ am y bywyd teulu? Y Gymraeg ydy’r brif-iaith adre?

Ie mae’n, wel, mae’n gymysgedd - Cymraeg y iaith gynta â’r plant, ac iaith gynta rhwng eu gilydd, ac i fi, dyna’r, dyna’r prif-nod i fi ddysgu Cymraeg, a felly dw i wedi wneud fy ngwaith i sicrhau hynny, ond dw i’n credu bydde fe’n annaturiol i ddweud bod fy iaith i wedi newid. Bydda i’n wastad yn fwy cyfforddus y Saesneg.

Dyna ydy’r cwestiwn ynde, oes angen… oes rhaid i rywun i chi, er engraifft, roi bywyd i deulu yn Gymraeg, neu ydy’n bosib i saiarad Cymraeg ond dal mae’r Saesneg ydy’r brif-iaith cartref? Oes gynnoch chi deimladau hynna?

Oes, dw i’n credu, os gyda chi deulu dyna’r brif beth gallwch chi gadael i’r byd reli. Achos unrhywun yn cofio fi am unrhywbeth, o’n i’n siwr fod nhw ddim, ond gobeithio, bod nhw’n cofio mod i wedi siarad Cymraeg gyda fy mhlant, achos, oherwydd hynny, Cymraeg i eu iaith gynta nhw ac wedyn mae lan iddyn nhw beth maen nhw’n wneud, a mae gyda nhw y dewis sy’ ddim yn gan pob un. Dan ni i gyd yn gallu wneud cyfraniad trwy eu gwaith, ond mae’r iaith yn mynd i fyw neu farw oherwydd teuluoedd, nid oherwydd cyfreithiau yn y llywodraeth, ac yn y blaen.

Oes 'na rhywun 'na chi wedyn yn meddwl bod angen mynd i deimlo fel Cymraes neu Gymro?

Dw i’n teimlo fel Cymraes.

Ie, fi hefyd.

Dw i ddim. Dw i’n teimlo’n fwy cartrefol yng Nghymru nag erioed pan o’n i’n byw yn Lloegr, dw i’n teimlo mod i wedi dod adre, ond dw i ddim yn credu faswn i wedi teimlo fel hynna, efallai, heb… heb siarad yr iaith.

Achos mod i’n gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, dw i wedi cael pobl yn dwad ata i’n dweud “O wel, mae’n siwr i fod yn haws os wyt ti wedi bod yn Sais”. A dw i’n meddwl, o dw i wedi bod! Dw i ‘di ??. Ond mae hynny’n fel rhywbeth ond… mae’n wneud, mewn ffordd, pan wyt ti yn siarad Cymraeg trwy’r amser, weithiau ti… mae pobl yn anghofio bo’ chi’n dwad o Loegr neu rywle arall ac… felly mewn ffordd, dw i’n teimlo fel bod na lot o bwys ar y peth, ond weithiau ti yn anghofio o le ti’n dwad ac mae’n jyst… mae’n jyst naturiol i ddefnyddio’r Gymraeg a byw yng Nghymru ac dyna fo, ynde.

Fedrwch chi esbonio hynna, achos dw i’n gallu ychydig bach o Saesneg, ond… a dw i ‘di byw yn Lloegr, ond wnes i… wnes i erioed i chi ?? na faswn i isio meddwl, bo’ fi yn Sais, felly, felly fedrwch chi esbonio teimlad hynna?

Mae’n teimlo’n braf, mae Cymru yn lle braf, tydy? Mae ei bobl yn glen, ac mae’n siwr bod ‘na y reswm gan bob ein ohonon ni, dyna pam bod ni yng Nghymru, dan ni isio bod yma. Ac, mewn ffordd, mae’n peth hyfryd iawn os ydy pobl y dweud bo’ ti yn swnio fel Cymro. Maen nhw’n meddwl bo’ ti yn Cymro, felly dw i’n meddwl bod hynny yn peth positif. Iawn, dw i ddim yn dweud mod i wedi anghofio o le dw i’n dwad, dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig hefyd, ond na, mae’n, mae’n teimlo’n braf iawn.

Dw i’n credu mae lot yn cwestiwn gwleidyddol, achos os chi’n dod o Gymru, dach chi’n galw eich hunan yn Gymro, yn Gymraes. Os chi’n dod o Loegr, fel arfer, pobl o Loegr yn galw eu hunan Prydeinwyr. Does dim yr un teimlad o genedlaetholdeb yn Lloegr. Fel rhywun oedd wedi tyfu lan yn Lloegr, do’n i ddim yn ymwybodol o fod yn Saesnes. Ond wedyn dod i Gymru mae pawb yn nghwmpas i yn disgrifio eu hunan fel Cymry, a dw i’n cofio pobl, ar ôl i fi ddysgu Cymraeg, pobl yn dweud “O wel, dach chi’n Gymraes nawr.” A dw i’n dweud "Na, dw i ddim. Dw i ddim isio gwadu fy ngorffennol, ond fel ‘wedodd Martin, dw i ddim yn cwestiwn sydd o bois mawr, i fi, ond eto dwi ddim yn esgus bod o rywun o Gymru achos dydw i ddim, timod, jyst dyna stori o fy mywyd a sy’ ddim yn hynod o gyffrous i bobl eraill, ond dyna fy mywyd i.

Dw i’n teimlo… dw i ddim yn teimlo mod i’n esgus, ond dw i’n teimlo llawer mwy fel ran o gymuned yng Nghymru, a dw i’n teimlo, ers i mi ddysgu Cymraeg, mod i wedi cael fy nghroesawu i mewn y cymuned. Efallai bod mwy o deimlad o gymuned yng Nghymru.

Ie, mae ‘na gymuned. Doeddech chi ddim gwybod bod y cymuned cyn, cyn dysgu Cymraeg a dyna sut o’n i’n teimlo. Mae’n agor drysiau. Doeddech chi ddim gwybod bod nhw yno o’r blaen ac mae’n anodd esbonio i bobl sydd ddim y siarad Cymraeg bod y cymuned yno, a mae’n anodd disgrifio be’ dach chi ei i golli os dach chi ddim yn siarad Cymraeg. Ond dw i ddim yn gwybod sut dach chi’n esbonio hynna i bobl ddi-Gymraeg, ond, na - mae 'na gymuned.

Ie, mae’n anodd i unrhywun sy’ ond yn siarad un iaith i ddychmygu. Unrhywun sy’n siarad mwy nac un iaith y deall y cysyniad o ffenestri gwahanol ar fywyd, dw i’n credu, a 'na pam fel mae pawb yn dweud mae’n haws dysgu y drydydd, y bedwaredd iaith, ond ansicr dyna i gyd wedi elwa o gallu gweld trwy’r ffenestr ychwaneg ola ar fywyd, dw i’n credu.

Jo, gan mae chi y cynta’ maes, o petai, ga’ i ofyn i chi symud ymlaen at destyn arall, y ffordd oraf efallai i ddysgu Cymraeg, ond dw i’n cymryd, mae trwy’r Wplan neu gyrsiau traddodiadol ers o hyd i ddysgu, ie?

Es i i gwrs Wplan, do, yn ffodus iawn iawn. Oedd y gwrs delfrydol i mi, oedd y gwrs wedi anelu at rieni gyda phlant bach, felly oedd y holl strwythur yr iaith yn addysg iawn gyfer siarad gyfa phlant bach. Yn sicr, doedd gyda fi ddim yr amynedd i ddysgu unwaith yr wythnos a dw i’n edmygu pobl sy’n gallu stico rhywbeth am gymaint o amser. O’n i isio dysgu Cymraeg a siarad Cymraeg a chael y peth drosodd, reli.

Dyna’r peth, dyna’r peth pwysig aml Wplan, ie, bo’ chi, faint oedd o , faint oedd o - ychydig o wythnosau?

Wel, oedd yn para dau dymor, a wedyn ar ôl hynny o’n i’n wneud gwahanol cyrsiau bach, ie, ond o’n i’n mewn ras i ddysgu, oedd gyda fi y peth i wneud - o’n i isio gallu siarad yr iaith yma - yn bwysica, gallu deall be’ oedd pobl eraill yn dweud. Ond dw i’n credu mae’n bwysig i ddweud bod ‘na llawer iawn o wahanol ffyrdd o ddysgu, a mae’r unigolion, mae’n bwysig iddyn nhw ffeindio y ffordd sydd yn siwtio nhw. I fi, oedd yn rhywbeth, fel dw i’n dweud, o’n i isio dysgu’n glou, o’n i isio ymwneud â yr iaith yn syth. Ond mae lot o bobl sydd isio dysgu mewn ffordd efallai mwy academaidd neu mewn ffordd arafach, yn gofyn cwestiynau. Yn union fel mewn ysgolion, dan ni i gyd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, ond y peth pwysica’ unrhywun, dw i’n credu, yw i gael y cyfleoedd i siarad tu allan i unrhyw dosbarth neu unrhyw wers, timod, ond nawr mae llawer o gyfleoedd ar y we, rhywbeth fel Say Something in Welsh neu gwaith hynod fel 'na.

Lois, dw i’n gwybod chi eitha hefyd yn diwtor Cymraeg i oedolion…

Ydw.

… ydach chi’n gweithio efo dulliau newydd, neu dach chi’n cael lot o ddulliau mwy o draddodiadol?

Mae’n dibynnu achos dw i’n dysgu rhieni mewn ysgol, wel gyda nos, wedi dysgu mewn ysbyty a gwaith leoedd. Felly, mae’n dibynnu rather, wel, dosbarthiadau eitha traddodiadol ydyn nhw, ond weithiau dw i’n teimlo efallai yn well i fi, weithiau, taswn i’n dysgu i’r iaith yn fwy anffurfiol. Dw i’n credu i rai pobl, basai’n well dysgu yn y dafarn neu ddysgu yn y bwyty, y caffi, a achos mae hynny,mae pethau newid yn y ganolfan ar iaith, mae mwy o, beth maen nhw galw, “Cymraeg Lite” neu cyrsiau blasu, ar brofi gyda dulliau gwahanol.

Un o’r beirniadaethau sy’ 'di bod ar y patrwm dros y blynyddoedd diwetha beth bynnag, ydy ?? ormod o bwysais ar ddysgu ffurfiol ac ar gael credyn pasio arholiadau ac yn y blaen. Dach chi’n cytuno efo hynny?

Ie, well mae rhan fwy o bobl yn casáu wneud credydau! Mae rhai’n ffeindio nhw yn ddefnyddiol o ran CVs ond… ac efallai, os dach chi erioed wedi llwyddo, erioed wedi cael unrhyw tystysgrifau o’r blaen, yn wych, bo’ chi yn llwyddo a gweld rhywbeth ar papur, ond faswn i’n dweud i ran fwy o oedolion, mae nhw isio gallu siarad ac un peth sydd yn anodd i yw pontio rhwng y dosbarth a’r byd go iawn tu allan, so mwy yn y byd chi’n gallu defnyddio’r Gymraeg neu ymarfer y Gymraeg, dysgu yn y… allan yn y byd go iawn, efallai, gorau o’ch, dach chi’n gwybod.

Wel os sôn am hynna, Sue, sôniwch chi am bwysigrwydd Band Pres Porthaethwy y yn maes dysgu Cymraeg.

Ie, ie. Ymunes i efo’r band pan wnes i symud i mewn i astudio ym Mangor, ac ar y pryd oedd 'na lot o blant yn ei arddegau yn y band oedd yn Cymry Cymraeg, ac oherwydd bod 'na lot ohonyn nhw a jyst fi doedd dim yn siarad Cymraeg, oedden nhw’n jyst cario ymlaen, cario siarad Cymraeg pan o’n i yno ac jyst efo sort of agwedd, wel chimod, dan ni yng Nghymru so dan ni’n mynd i siarad Cymraeg, so wnes i jyst dechrau ymuno efo nhw, a wnes i i ddechrau cwrs Wlpan a wedyn o’n i’n mynd i band yn gofyn y pethau o’n i ‘di dysgu yn y dosbarth, heb reli yn deall pob ateb o’n i’n cael ?? y bobl yn y band ond jyst i ymarfer be’ dw i wedi dysgu a, chimod, gwneud y materol a jyst i glywed lleisiau wahanol a pethau fel 'na a dim jyst yr athrawes bob tro, ac oedd o’n reli helpu lot. Dw i’n meddwl os ‘di pob dysgwyr yn gallu siarad yn aml efo pobl sydd yn rhugl, mae hon yn gwneud y proses o ddysgu yn lot gyflymach. Y broblem mae hynny ydy pobl sy’n rhugl weithiau yn ffeindio yn anodd i siarad efo pobl sydd ddim efo lot o Gymraeg ac sy ddim yn mynd i ddallt popeth, ac o’n i jyst isio dweud reli, os wyddoch chi rhywun sy’n siarad, sy’n trio dysgu Cymraeg, jyst gwneud eich gorau glas yw siarad Cymraeg efo nhw bob tro i chi gweld, hyd yn oed os weithiau mae’n cymryd tipyn bach yn hirach i ddweud be’ dach chi isio dweud ac iddyn nhw ateb chdi, mae’n bwysig, pwysig iawn bod chdi’n gwneud yr ymdrech i helpu’r dysgwyr.

Swn i’n cytuno efo hynna. Heb y gyfleoedd fel 'na ym Mhen Llŷn, doedd o ddim opsiwn o gael… wel, taswn i 'di teithio i Fangor, mi faswn i 'di wneud cwrs dwys, on ym Mhen Llŷn dim ond dosbarthiadau wythnosol. O’n i’n wneud dau, felly o’n i’n wneud pedwar awr yr wythnos mewn dosbarthiadau, ond heb y gyfle i siarad tu allan i’r dosbarth ag mae’r pobl mor ffeind efo fi, ac dyna pam mod i 'di llwyddo, dw i’n siwr am hynny. Ond na, mae’n aml iawn ti’n gweld pobl sydd ddim yn ddigon hyderus i siarad efo dysgwyr a dw i’n meddwl bod hynny yn biti mawr ac mae’n rhaid i bobl jyst, jyst cymryd yr amser i ddefnydio’r Gymraeg efo dysgwyr, a hefyd peidio cael defnyddio’r iaith sydd yn rhy… aml y rheswm mae pobl yn meddwl yr iaith yn gymhleth iawn, ?? beth yn dweud peth y felly efo fi, rŵan dan ni’n siarad yn naturiol, ond os dach chi’n troi at y dysgwyr, maen nhw’n trio dechrau defnyddio’r iaith traddodiadol iawn, ac mae’n drysu i bobl. Dan ni’n dysgu sut i siarad efo [cnoc, cnoc] “pobl normal”, felly, jyst mae hynny y pwynt bwysig iawn, dw i’n meddwl.

Yndy.

Wnawn ni adael y diffiniad o “bobl normal” tan… [chwarddiadau]. Ond, ond mae hynna’n awgrymu efallai fod pobl fel fi, y siaradwyr iaith gynta’, mae ?? y dylen ni hefyd cael gwersi ar sut i helpu dysgwyr.

The ongoing work to do the transcription is contained in the posts below this one - thanks for all the contributions and help with this effort.

If you just want a listen, then the BBC link below currently sends you to a page with the programme recording on it, but I have no idea how long it will continue to work!

BBC - Dan yr Wyneb 21-07-2114

Hwyl,

Stu

(Acknowledging input from: Essenbee,Netmouse, Robbruce, Kinetic, Aran, Dinas, Martin Croydon, Owainlurch :smile: )

1 Like

Do you know the date it went out Stu? I have most or all of these recorded.

S’mae Mike?

The episode is dated 21-07-2014. If you don’t have it, PM me.

Hwyl,

Stu

1 Like

Oh dear, I shouldn’t be looking at this now so tell me off if I do it again, but I remembered something to do with “pwysig” from this morning. How about:

Mae na rhyw pythefnos at yr Eisteddfod Genedlaethol … wybod pwy sy wedi ennill un o’r gwobrau pwysicach…

There’s a couple of really swallowed joiny words that I can’t get at all. I’d really like to know what they are / were!

Diolch Netmouse, I updated the original post with your insight on this section. Like most Welsh I listen to, I get the gist but some of the fine detail like this washes over me at present :smile:

Hwyl,

Stu

The next chunk - the introductions!

JK - “Mi ennillais i y cystadeuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 1991 yn Yr Wyddgrug. Dw i’n byw yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol, dw i’n dod o Fryste ac yna Cernyw.”

LA - “Helô, Lois Arnold ydw i. Ennillais i yn 2004 yng Nghasnewydd. Dw i’n byw yn Y Fenni yn Sir Fynwy ac yn wreiddiol dw i’n dod o Loegr, o’n i’n dod o Surrey - sy’n swnio yn bosh iawn! Dw i’n byw yng Nghymru ers 1997.”

SH - “Helô, Sue Hughes dw i. Dw i’n byw yng Nghymru Mawr rŵan, ond o Ellesmere Port yn wreiddiol. Wnes i ennill Dysgwr y Flwyddyn yn 2005.”

MC - “Martin Croydon dw i. Wnes i ennill Dysgwr y Flwyddyn y llynedd yn Dinbych. Dw i’n byw ger Pwllheli rŵan, ond dw i’n dwad o Kidderminster yn wreiddiol.”

Hwyl,

Stu

(Corrections by Kinetic, Netmouse)

Gwych! The only thing is, I think it was “Surrey, sy’n swnio yn bosh iawn.”

You’re making great headway. I’ll try and get to do some tomorrow night or Thursday. I’ll probably just choose a bit starting about 30 seconds after the end of the last bit you’ve posted.

Absolutely! Exactly the same for me. It’s funny how different people pick up on different things though. Both the bits I corrected jumped out at me the first time I heard them - but others sounded pretty impossible. And I was very glad I wasn’t trying to answer his questions, as I don’t think I fully understood any of them!

1 Like

I sm so glad you got that Netmouse, as suddenly saying Sori! was so odd. The old hearing certainly did not pick out Surrey though! Please take over from where I left off as the presenter’s questions are quite hard to make out as well…

Hwyl

Stu

Some minor corrections, the only one that changes the meaning in any way close to significantly is the difference between pysicach (more important) and pwysica’ (most important) and even then in this context there’s little meaning lost. I’ve also corrected one or two typos/spellings. That middle of the last sentence is a bit of a blur for me, though.

2 Likes

Diolch yn fawr iawn Rob! :smile:

I am hoping Aran will be able to help with that last bit - as you say, its a mush of sounds to me…

Hwyl,

Stu

Bit more fine-tuning here - but that bit in the last sentence is just a typical example of when in your first language you just disregard a moment of very unclear, rushed speech - I had to play it several times, picked out in Audacity, to be able to catch it all - and I guarantee you that very few first language speakers would consciously have processed that and be able to produce a transcript for it the first time they heard it! :sunny:

2 Likes

I was going to make a similar point. Sometimes when you’re listening to the radio a few words just rush by and you fill in from the context yourself before regaining the flow. I’ve reached the stage now where I very, very rarely lose the thread entirely and start to misinterpret or misunderstand, so I’m happy to accept that I’m never going to get every single syllable of every single word and that it doesn’t matter anyway.

That last nól that you had to correct to yn ól was just me being lazy, btw. :smile:

1 Like

I figured…:wink:

He actually stumbled a bit at that point, and part of the rush was him getting his flow back - something that happens all the time, but you never notice it in your first language - it’s all about the confidence Rob describes to accept that there just are gaps sometimes, but it doesn’t derail our understanding :sunny:

1 Like

Diolch unwaith eto Aran.

I am just pleased about how much I got originally :smile:
Stu

2 Likes

Here’s a little bit more. I’ve been itching to have a go for the last couple of days! It starts off ok, but that long sentence at the end is getting the better of me now, so I’m stopping in the middle for now…

  • Reit, wel, Martin Croydon, gan mae chi sy’ siwr fod yn cofio orau gan mae dim ond llynedd oedd hi, pa wahanaeth mae ennill y teitl ma wedi gwneud i chi?
  • Mae jyst… mae wedi agor gymaint o ddrwsiau, a dw’i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel, sy ni be… meddwl … medru … i ddweud y gwir, a dw’i di cyfarfod cymaint o bobl, dw’i wedi siarad - wel gobeithio hefyd dw i’n gobeithio mod i wedi rhoi hoff i bobl…
1 Like

OK, here’s my slightly corrected version from yesterday with a bit more added. It’s certainly an interesting thing to try and do. There’s still the odd bit that I don’t quite understand even after listening to it this much. (For example, at one point I thought he might have been asking if there were any new cats in her life, but I think that’s relatively unlikely, all things considered). Any corrections gratefully received!
And thanks very much to Rob and Aran for proofreading our first attempts!

Reit, wel, Martin Croydon, gan mae chi sy’ siwr fod yn cofio orau gan mae dim ond llynedd oedd hi, pa wahanaeth mae ennill y teitl ma wedi gwneud i chi?

Mae jyst… mae wedi agor gymaint o ddrwsiau, a dw’i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel, sy ni byth 'di meddwl beth on i’n medru cael i ddweud y gwir, a dw’i di cyfarfod cymaint o bobl, a dw’i wedi siarad - wel gobeithio hefyd dw i’n gobeithio mod i wedi rhoi hoff i bobl eraill yn yr adal sydd yn dysgu a gweithio am y pobl sy’n teimlo bod hi’n anodd a byddan nhw byth yn rhygl. Ond mae’r teitl wedi newid llawer o bethai mewn fyrdd gwahanol ond…

Rowch… ych chi’d dweud bod chi wedi cael profiadau yn amser chi ddim wedi cael fel arall …engraifft ?

Dw i 'di bod yn siarad ar Radio Cymru dypyn. Dw i di bod yn siarad gyda grwpiau yn yr adal, Merched a Wawr, a grwpiau eraill ac dw wedi teithio o gwmpas Cymru dipyn yn ystod y flywddyn diweddaf, dw i’n teimlo fel mod i’n nabod Cymru yn well erbyn hyn.

Reit na …nawn ni i brofi corf y lleill nawr wrth weithio yn ôl trwy’r amser, felly Sue Huws nessa 2005 oethoch chi. Oedd gathod (??) newid tebig yn ych bywed chi?

Ie, ges i lot o profiadau wahanol ar ôl enill y teitl, teithio o gwmpas i lawr i Gaerdydd a … i siarad efo pobl. Jyst y ffaith mod i di enill, mae pobl eraill wedi ?? yn meddwl ‘O iawn, wel os ydy hi di enill, dw i’n gallu hefyd’.

Ac wedyn Lois, dan ni’n mynd yn ôl i 2004, ond dych chi’n byw yn a Fenni, lle mae na…?? yn llawer iawn iawn o siaradwyr Cymraeg iaeth cynta. Ydy y profiad wedi bod yn wahanol i chi?

2 Likes

I have had a look at this and came up with these minor changes:

Mae jyst… mae wedi agor gymaint o ddrysau, a dw’i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel, sy ni byth 'di meddwl beth on i’n medru cael i ddweud y gwir, a dw i 'di cyfarfod cymaint o bobl, a dw i wedi siarad - wel gobeithio hefyd dw i’n gobeithio mod i wedi rhoi hwb i bobl eraill yn yr ardal sydd yn dysgu a gweithio am y pobl sy’n teimlo bod hi’n anodd a byddan nhw byth yn rhygl. Ond mae’r teitl wedi newid llawer o bethau mewn fyrdd gwahanol ond…

Rowch… dach chi’n dweud bod chi wedi cael profiadau yn amser chi ddim wedi cael fel arall …engraifft ?

Dw i 'di bod yn siarad ar Radio Cymru dipyn. Dw i 'di bod yn siarad gyda grwpiau yn yr ardal, Merched a Wawr, a grwpiau eraill ac dw I wedi teithio o gwmpas Cymru dipyn yn ystod y flwyddyn diweddaf, dw i’n teimlo fel mod i’n nabod Cymru yn well erbyn hyn.

Reit na …nawn ni i brofi cof y lleill nawr wrth weithio yn ôl trwy’r amser, felly Sue Huws nesa’ 2005 oethoch chi. Oedd… Gafoch newid tebyg yn eich bywyd chi?

Ie, ges i lot o brofiadau wahanol ar ôl ennill y teitl, teithio o gwmpas i lawr i Gaerdydd a … i siarad efo pobl. Jyst y ffaith mod i 'di enill, mae pobl eraill wedi, chimod, yn meddwl 'O iawn, wel os ydy hi ‘di ennill, dw i’n gallu hefyd’.

Ac wedyn Lois, dan ni’n mynd yn ôl i 2004, ond dach chi’n byw yn Y Fenni, lle mae 'na, hynny ydi, lle does 'nam llawer iawn iawn o siaradwyr Cymraeg iaith cynta. Ydy y profiad wedi bod yn wahanol i chi?

(edit: Thanks Aran!)

Stu

2 Likes

Thanks, Stu! That’s starting to take a bit more shape now. I’m glad we’ve got rid of the cats, they were bothering me. (I presume that is right now, meaning something like, “Did you get any changes in your life?”) And thank you for “cof”. That was puzzling me too.

I probably won’t get a chance to do any more before the end of next week. When I get time, I might produce the bit we’ve done so far as a 1.5x speeded up file. I’m not sure if I want to go up to 2x quite yet… I can’t promise to do anything until sometime next week though.

Have a nice w/e!

1 Like

Croeso, I had help from Aran with some of it! I’m not at all sure about “Oedd gafoch newid tebyg yn eich bywyd chi?” I have to admit because the construct looks odd, but it may be right…

Have a great weekend yourself!

Hwyl,

Stu

That’s not correct, but you might have heard it if they sort of half-paused after ‘oedd’ and then decided to start a different sentence…