2014 oedd dyddiad f’ymddangosiad diwethaf ar y fforwm hwn- bachgen byrbwyll ydwyf, heb afael gref ar dafod y ddraig a chyda geirfa gywilyddus o fychan. Mae llawer o bethau wedi newid ers yr adeg honno- oedolyn ydwyf nawr, ar fin mynychu’r brifysgol.
Ail-iaith ydwyf- er nad ydy fy Nghymraeg yn gaboledig o gain o hyd; yr wyf yn ddyledus i ddiwydrwydd tîm SSIW a’r gymuned, gan mai chwychwi a oedd yn gyfrifol am fy ngoleuedigaeth parthed defnydd y Gymraeg. Heboch chwi, mi fyddwn i dal i ymhyfrydu mewn dallineb- heb wybodaeth am huodledd yr iaith a’i swyn atseiniol. Mae hi wedi agor drysiau yn ogystal â hogi’r ymennydd, dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl newydd a datblygu fy sgiliau. Y wreichionen oedd SSIW- y wreichionen a enynnodd y marwor llugoer i fflam anferthol.
Nid graenus ydy fy Nghymraeg -mae’n debygol y byddaf yn rhodio’r bont i ruglder yn anfeidrol- ond hoffwn i ddiolch i chwi am y pethau yr ydych wedi eu gwneud. Heb eich cefnogaeth ddigynsail, byddai fy sefyllfa’n llwm, heb hoen tuag at y dyfodol.
Diolch o galon,
Daniel
2014 was the date of my last appearance on this forum- I was an impetuous boy then, without a strong grip on the tongue of the dragon and with a shamefully small vocabulary. A lot of things have changed since that period,- I’m now an adult, about to attend university.
I’m second-language, although my Welsh is polished to the point of being fine, I am indebted to the diligence of the SSIW team and the community, for it was you that was responsible for my enlightenment regarding the use of Welsh. Without you, I would still be wallowing in blindness- without knowledge of the eloquence and sweetness of the language and its echoing charm. It has opened doors for me as well as sharpened the brain, throughout the years I have had the chance to meet new people and develop my skills. SSIW was the spark- the spark which kindled a flame from the lukewarm embers.
My Welsh is not lustrous- it is likely that I will be wandering the bridge to fluency infinitely- but I would like to thank you for the things you have done. Without your unprecedented support, my situation would be bleak, without zest towards the future.