A musical treat from Côr Caerdydd:
CYNGERDD DATHLU CÔR CAERDYDD YN 30 OED
Dewch i glywed y gerddoriaeth gorawl orau o’r tri degawd diwethaf yng nghwmni Côr Caerdydd sy’n nodi ei ben-blwydd yn 30 oed eleni.
Cewch glywed y perfformiad cyntaf yn y brifddinas o waith gan Paul Mealor a gomisiynwyd gan y côr i nodi’r pen-blwydd, cyfansoddiad newydd gan Euros Rhys, a threfniannau o ganeuon poblogaidd gan gyfansoddwyr eraill o Gymru.
Bydd Côr Ysgol y Wern ac artistiaid eraill hefyd yn perfformio.
Ble: Capel y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd CF10 1AJ
Pryd: 3pm, dydd Sul, 23 Hydref 2022
Pris: £10 i oedolion, am ddim i blant dan 16 oed
Bydd cyfraniad o elw’r gyngerdd yn mynd at DEC Cymru