An urgent request has come in for confident Welsh speakers to help give practice to people who are preparing to sit the Welsh for Adults exams. If you live on the Gwent area and feel you could do this, or you know someone who might be willing to help, please pass the information below on to them.
Annwyl gyfaill
Tybed a ellwch chi helpu? Plîs?!
Mae cwrs adolygu arholiadau CBAC dros benwythnos Mai 20-21 ym Mhontypŵl ac oherwydd niferoedd mawr dyn ni’n chwilio am ragor o bobl i wneud yr arholiadau llafar ffug – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch – gyda’r ymgeiswyr.
Os gellwch chi sbario bore neu bnawn naill ai ddydd Sadwrn 20 Mai neu ddydd Sul 21 Mai i sgwrsio ag ymgeiswyr arholiad byddwn i’n ddiolchgar iawn.
(Telir am eich amser wrth gwrs a does dim angen paratoi dim, bydd popeth yma i chi).
Os gellwch chi helpu – ellwch chi roi gwybod i Catrin - Catrin.Thomas@coleggwent.ac.uk
Diolch yn fawr iawn i chi.
Cofion
Geraint
Geraint Wilson-Price
Cyfarwyddwr/Director
Dysgu Cymraeg Gwent
Learn Welsh Gwent
Pontypŵl
01495 333710