This is hot off the press - you’ll be the first to see it here! Learners’ tours around the BBC building in Central Square - they were a big success last year, and so we’re doing them again!

Grwpiau sgwrsio yn yr hybiau - cyfarfodydd mis Tachwedd.
Welsh chat groups in the hubs - November meetings.
Cofiwch fod llawer iawn o grwpiau sgwrsio annibynnol yng Nghaerdydd - ewch i’r wefan am fwy o fanylion. There are lots of independent Welsh conversation groups meeting in Cardiff - find one near you on our website.
https://mentercaerdydd.cymru/event-digwyddiadau/grwpiau-anffurfiol-cy
From Menter Caerdydd:
BORE SIARAD CYMRAEG
Dyma’r manylion ar gyfer dau gyfarfod nesaf y ‘Bore Siarad Cymraeg’:
Sadwrn, 22 Tachwedd 2025
Bore Siarad Cymraeg. Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar sgwrs gan yr Athro E. Wyn James am yr emynydd mawr Pedr Fardd, i gofio 250 mlwyddiant ei eni yn 1775. Yn Hyb Rhiwbina (CF14 6EH) am 10.30am.Sadwrn, 13 Rhagfyr 2025
Bore Siarad Cymraeg. Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar sgwrs gan y Parch. Emyr James am y Plygain. Yn Hyb Rhiwbina (CF14 6EH) am 10.30am.Mae’r ‘Bore Siarad Cymraeg’ yn cael ei gynnal unwaith y mis (ac eithrio dros yr haf) dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Cynhelir y cyfarfodydd yn yr Hyb ym Mhen-y-dre, Rhiwbina (CF14 6EH) rhwng 10.30am a hanner dydd.
Mae’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Maent wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg o lefel ganolradd ac uwch, ond mae croeso cynnes i bawb eu mynychu.
The meetups are free. There is no need to register beforehand. They are aimed at new Welsh speakers level Canolradd and above, but there’s a warm welcome for anyone who wants to attend.
AMSER PANED (yn ystod tymor yr ysgolion)
Cofiwch hefyd am yr ‘Amser Paned’ sy’n cael ei gynnal dan nawdd yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg bob bore dydd Gwener rhwng 10.00am a hanner dydd yn ystod tymor yr ysgolion, a hynny yn festri capel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD.
Dyma gyfle ardderchog ichi ymarfer eich Cymraeg trwy gymdeithasu a sgwrsio’n anffurfiol dros baned. Croeso cynnes i bawb!
Dathliad Nadolig i ddysgwyr yn Sain Ffagan - Bore Gwener, 5 Rhagfyr.
A Christmas celebration in St Fagans for Welsh learners on Friday, 5 December































