Cais i'n dysgwyr profiadol ni (a question for our advanced learners)

Mae’r cwrs 6 mis newydd yn mynd yn dda iawn, fel efallai byddwch chi wedi clywed.

Sydd yn newyddion da iawn - ond sydd hefyd yn creu rhai problemau newydd.

Ar y funud (a dan ni’n gobeithio gwneud hyn yn rhywbeth parhaol!) mae Dee yn gweithio llawn amser efo ni, yn cefnogi’r cwrs 6 mis, y cwrs 2 flynedd, delio efo ebyst admin ac yn helpu ar y fforwm (ia, dan ni’n eithaf di-drugaredd!).

Dyma’r problem dan ni’n wynebu ar y funud…

Dan ni isio dal ymlaen i gynnig cyrsiau dwys. Mae’n anodd i mi wneud, oherwydd y plant. Mae Dee wedi cysgodi fi ac wedi rhedeg cyrsiau dwys ei hun - ond os bydd hi’n rhedeg cwrs dwys, bydd angen rhywun i warchod y cwrs 6 mis.

Fel isafswm, byddai hynny’n meddwl awr yn ateb cwestiynau mewn fideo grwp nos Fawrth a nos Iau, ond byddai’n braf hefyd medru llenwi’r grwpiau prynhawn ar dydd Llun a dydd Gwener.

Yn y pendraw, dan ni’n gobeithio y byddai hyn yn gallu troi yn swydd llawn amser.

Ond am rwan, tra dan ni’n trio deall ein llif arian misol newydd, mae angen ei gweld hi fel gwaith rhan amser.

Fyddai unrhyw un efo diddordeb ymgymryd ag elfen o’r gwaith yma?

Byddai modd i ni gael 4 person gwahanol ar gyfer y 4 diwrnod gwahanol, pe bai angen - neu un person gwych mewn sefyllfa i fedru gwneud y 4 pan fo’r alw… :slight_smile:

Unrhyw gwestiynau? :slight_smile:

5 Likes

Diolch i’r ddau sydd wedi cysylltu hyd yma… dan ni’n dechrau llenwi’r bylchau… a ddaw mwy?!.. :slight_smile:

I’m answering in English to illustrate the only reason I’m not stepping forward as a volunteer - linguistic competence :smile: If, however, there is anything I can do in a backroom capacity, let me know.

To be honest, i assumed Dee was already working full time. :smile:

3 Likes

Diolch o galon i ti, Huw :star: :star2:

Yup, Dee’s seemed pretty much full-time for, oh, about nine years or so now… :wink:

1 Like

Dwi’n 'mond lico i dangos cefnogaeth moral. Datblygiad gwych amdan SSiW. Cyfle gwych am person cywir, sy’n profiadol ac ar gael.

Edit:
Incidentally, now you’ve got me thinking -
How advanced did you have in mind, Aran?
And out of interest, what time do you hold the video meetings?

Many thanks.
John.

1 Like

Confident enough to be able to answer questions about learning from the standpoint of someone who has learnt successfully, and to be able to lead group chats where other people will be learning from her/his model - a Welsh speaker, in other words… :slight_smile:

Monday and Friday 2 to 4 in the afternoon, Tuesdays and Thursdays 6 to 8 in the evening, and I think we’ve settled on a morning session on Wednesdays… :slight_smile:

Yes, I run a session from 10 to 12 on a Wednesday morning as well and it’s proving quite popular.

1 Like

Thanks Aran and Dee. That’s really interesting and encouraging.

That definitely sounds like a good level of confidence and proficiency for you to set. Also a nice personal goal to set for the coming months of (my) Welsh-learning journey.

1 Like

Dydy hwn ddim yn helpu lot nawr - a dwi ddim yn gwybod beth mae cwrsiau’n ‘entail’ - ond bydd diddordeb i fi wneud rhywbeth fel hwn yn yr hydref (1-2 awr) neu yn y blwyddyn nesaf (pan bydd mwy o amser 'da fi). Felly byddwn i’n hapus i siarad am y peth, 'sech chi’n meddwl bod chi eisiau cymorth yn hwyrach.

1 Like

Gwych, diolch yn fawr, Sara - mae digon o bobl gynnon ni am rwan, ond bydda i’n cysylltu am sgwrs os bydd angen mwy erbyn yr hydref… :slight_smile: :star2: