Mae’n ddrwg gen i, ond dwi’n mynd i sgwennu hwn yn y Gymraeg.
Dwi’n gweithio fel athro mathemateg ond dwi’n meddwl bo’ fi’n mynd i golli fy swydd.
Felly, o’n i’n meddwl, ‘dach chi’n meddwl bo’ fi’n medru dysgu digon o Gymraeg er mwyn symyd ger Caernarfon cyn bo hir? Dwi ddim yn siwr beth swydd ond dwi’n licio y syniad!
Mae Cyngor Gwynedd yn fodlon rhoi swyddi i bobl sydd yn ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg o fewn dwy flynedd - felly byddet ti yn sicr yn ddigon da yn barod. Ond ia, mae gen ti ddigon o Gymraeg i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg, felly dwi ddim yn gweld pam lai…
Doeddwn i ddim yn siwr yr roedd fy iaith yn ddigon dda pan dechreuais fy swydd presennol (ac i fod yn onest, weithiau dwi’n dal i teimlo fel 'na!) - ond dwi wedi bod yn y swydd yma ers deng mlynedd rwan.