Be' 'dach chi'n gwneud rwan? A phethau arall yn Gymraeg - A topic to practice Welsh, open to all!

Dwi newydd yn bod yn wylio rhaglen s4c sydd enw ‘Neb yn Gwybod Dim Byd’. Nes i recordio hyn ddoe. Mae’n rhaglen ‘satirical’, yn ‘spoof documentary’ am yr ymgyrch losgi tai haf o’r wythdegau. Mae’n doniol iawn, iawn. :grinning:

3 Likes

heddiw, dw i’n roi gofal i ci ffrind A roi bwyd i fy ngath teulu. Mae’n bwrw glaw wedyn heulog drwy’r anser felly dw i’n ymlacio heddiw. Dw i’n mon ffeindo DVD gan fy ffrind @gisella-albertini hefyd!

fy bost cyntaf yma, felly CORRECTIONS CROESO!

1 Like

Croeso, @ciara-2! :orange_heart:

Sori dw i newydd weld dy post ma nawr!
Wyt ti 'di ffeindio’r DVD eto?

Ymddengys Does neb wedi cyfrannu yma am sbel felly dwi’n mynd i drio i’w ail danio.

Dwi newydd ail ymuno yma er mwyn dysgu Sbaeneg. Ac hefyd cael mynediad i ddefnyddio yr adnoddau uwch i loywi fy Nghymraeg ar lafar - dwi’n siarad cartref gyda fy mab a gyda sawl ffrindiau ond weithiau dwi’n teimlo bach yn rwdlyd.
Efallai triaf i’r Cernyweg hefyd. Wn i ddim eto.

1 Like

Diolch am ail danio y llinyn. (Ydy llinyn y gair cywir am “thread”?)
Gobeithio bydd pobl eraill yn ei ddefnyddio fe yn fwy aml. Does dim digon o amser!
Dw i newydd ysgrifennu erthygl fach i gylchgrawn “Y Wennol” am y grŵp sy’n cwrdd yn Rhydychen. Bydd rhaid i fi ddarllen ac ysgrifennu mwy yn y Gymraeg.
Sue

1 Like

‘Edefyn’ (thread) yn well na ‘llinyn’ mewn cyd-destun yma (yn fy marn)

2 Likes