Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Paid poeni, rhy hwyr! 'Sdim ôts, on i’n edrych ar y map am y traeth gorau am tywod ger Caernarfon i fynd am dro â’r ci.

1 Like

Dw i newydd ddechrau dysgu Siapaneg ar-lein, gyda MT (ssshhhhhh) a Memrise. Bydda
i ymweld â Siapan am rhai mis yn y hydref. Mae fy mhen yn troi!

4 Likes

Mae Duolingo wrthi yn datblygu cwrs Siapaneg ar hyn o bryd, ond sa i’n gwybod pa mor fuan bydd e ar gael. Dw i’n disgwyl ymlaen!

2 Likes

Dw i’n meddwl ei fod yn ddechrau ar 18ed mis hon, yr wythnos nesa.
Ydy Duolingo yn app, achos nid oes digon o le ar fy ffôn? Neu alla i ddefnyddio yr wefan?

1 Like

Fe ges i fy ngwers canu heno. Mae fy athrowes wedi cysylltu â Bachgen Bro Taf ac maen nhw wedi gyrru cwpwl o ganeoun drosti hi. Felly, dw i’n trio dysgu hon nawr: https://www.youtube.com/watch?v=ds550n0BHPs

1 Like

Yn eistedd mewn lori yn Swindon, ond wythnos nesaf, bydda i’n gweithio’n ystod y dydd. Edrych 'mlaen, achos dwi isio ail-ymuno tîm :dart: lleol.
A chael y siawns mynd i’r cyfarfod SSiW yn Winchester! Mewn pyb. Sy’n gwerthu cwrw, gyda llaw. :grinning: Dim ond un peint i mi - bydda i’n dreifio. :unamused: Dwi’n blasu’r cwrw rwan…mmmmm! Un peint. 'Di anghofio’r blas cwrw… neis, siwr o fod… Leffe!! Breuddwyd…

2 Likes

Wyt ti’n gallu defnyddio’r wefan. Dw i’n meddwl bod y wefan yn well na’r ap, a dweud a gwir! :slight_smile:

Cân neis iawn! Dw i’n ei hoffi hi!

1 Like

Pan ddes i yn ôl heddiw o daith bach i’r waith, wnaeth y DVD Popeth yn Gymraeg yn fy nisgwyl i.

Wnes i wylio’r rhaglen gynta heno (efo isdeitlau Saesneg :smiling_imp:).

3 Likes

Dwi wedi gorffen darllen “Ebargofiant” acłi dwin siarad sgwenyđiaith nowanal wan. Mae nwełoweł na 1hiwbethma dwi wedi iđarłen ri oed, nd nohyvađ vyd. Dydiođim n hawđ gałvedru dałt styr geiria nd arlawrał maen mnd vel dexra darłen trocinta miwn iaith owanal ti mnd baxn nabyđus evohi. Łyfr reidneis.

Wanta, bedi nesa?


Mae’n ddrwg gen i, roedd rhaid i mi drio :smiley:

3 Likes

Dw i’n trwsio byg yn yr SSiW app sy’n achosi’r botwm saib methu â gweithio weithia.

Wel… dw i’n gobeithio trwsio…

4 Likes

Mae rhaid i fi fynd i’r archfarchnad nawr, ond pan fydda i’n dod gytre, bydda i’n trio dy helpu di :slight_smile:

3 Likes

Fe ges i ddiwrnod hyfryd heddiw. Es I am dro lan Moel Famau. Dyffryn Colwyn yn ardal hyfryd!! A wedyn i Landudno ac i’r top o’r Gogarth.

Nawr, Dwi’n gwylio’r rownd terfynol cwpan FA merched gyda Taid fy nghariad.

Dw i’n mynd i fynd loncian wrth ddysgu am sut i archebu bwyd yn Spaeneg! (SSiS, wrth gwrs)

2 Likes

Dw i wedi bod yn trio trawsblannu pabïau o’r ardd cefn i’r ardd ffrynt. Fe wnaethon nhw faru’r tro cyntaf, felly dw i wedi trio eto gydag ychydig mwy o bridd gyda pob un. Croesi bysedd!

3 Likes

pob lwc!

2 Likes

Diolch @lewie! Dw i’n dwlu ar babïau ac anrheg ffrind da o’r Almaen yw’r rhain. Byddwn i’n hapus iawn i’w gweld nhw yn tyfu o flaen fy nhŷ fi.

Es i i Aberystwyth dros yr penwythnos. O’n i’n arfer byw yn y dre. Roedd o’n rhyfedd iawn to treulio amser yn y Cymraeg yna ar ol blwyddyn o byw yna yn y Saesneg. Wnaeth o’n teimlo fel lle gwahanol i fi.
Es i i’r Cwps am peint. Wnes i eistedd i gwylio’r rugbi ar y teledu a syweddoli bod pawb yn trafod y gem yn y Cymraeg. Roedd mor hyfryd i eistedd mewn tafarn a clywed cymraeg yn bob man a deall! Beth modd arall yn gwella i ymarfer cymraeg tydy?
Es i i Siop y Pethe. O’n i’n arfer teimlo yn nerfus pan es i yna, achos wnes i teimlo yn euog achos do’n i ddim yn medru siarad cymraeg, ond y tro hwn, dechrais i sgwrs efo’r staff ac yn sydyn roedden nhw’n gwenu a siarad efo fi. Wrth y fford, Ganddo Siop y Pethe mwy llyfrau Cymraeg na Palas Print yn Caernarfon. Rwan roedden nhw wedi agor ystafell lan grisiau newydd efo anrhegion hyfryd. Felly, Aberystwyth yn dal i dre gorau y byd!
Mae Aberystwyth yn teimlo mwy arbennig i fi rwan. Medra i’n bod yn Aber yn Cymraeg ac yn Saesneg, dw i’n caru hwn cymaint!
Mae Tesco’s newydd yn siomedig, Mae o’n debyg Tesco’s eraill yn bob man.
Dw i’n wedi blino iawn iawn eto ar ol y penwythnos arall yn y Cymraeg ond dw i’n hapus!

4 Likes

Dwi’n cofio’r teimlad yna yn glir iawn…:slight_smile:

Gyda llaw - yn lle ‘wrth y fford’, defnyddia ‘gyda llaw’…:wink:

1 Like

Cwrddais ddyn o Siapan echdoe ar bwys y pwll nofio. Mae Ken wedi dysgu Saesneg ond mae’n moyn gwella ei ynganiad. Dw i newydd ddechrau dysgu Siapaneg ac mae eisiau i fi ymarfer gyda rhywun. Cyfleus?

5 Likes