Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Does gen i ddim lot i ddweud heddiw…felly os oes gan unrhywun syniadau, byswn i wrth fy modd i’w clywed nhw

Mae’n iawn. Paid a bod mor galed gyda dy hun, ti’n gwneud yn wych!

1 Like

Heddiw rwy wedi helpu trefnu yswiriant cair ini. Hefyd mae’n rhaid i mi wneud bara brith. Mae 'na domen o ddillad i’w olchi, hefyd, ac mae’r oergell angen ei lanhau.

Ar ôl imi ffeindio hi’n anodd i feddwl am bwnc ddoe es i i’r byd trydar i ofyn am syniadau. Dwedodd Catrin mi ddylwn i ddechrau efo sgwennu am fy hun, felly dyna lle dwi’n mynd i gychwyn.

Dw i ddim yn mynd i son am o le dw i’n dod, dw i’n teimlo fel dw i wedi gwneud hynna’n sawl waith. Felly, mi wna i son am fy hun y dyddiau hyn. Dw i’n byw yng Nghaerdydd efo fy ngwraig, ein cathod, ac yn fuan, ein hogyn bach! Dan ni’n ei ddisgwyl ym mis Ionawr. Mi wna i sgwennu mwy amdano mewn bach.

Dan ni’n agos iawn at ein teuluoedd. Mae rhieni Emma yn byw jyst tu allan Caerdydd ger i Sain Ffagan. Mi symudon nhw tua wyth mlynedd yn ôl i brynnu ty llai (dw i’m yn gwybod os mae “down-size” yn cael ei gyfieithu) ond dydyn nhw erioed wedi cael y ty i’w hunain…wel tan fis yn ôl. Maen nhw’n fel 'na, pobl mor gyfeillgar a chroesawgar ydyn nhw. Dros y flynyddoedd mae nhw wedi cael pobl o bob ban y byd yn cynnwys Seland Newydd, Siapan, llawer o Gymru a, hyd yn oed, rhywun o Plymouth.

Ie, mae hynna’n wir, oeddwn i arfer byw efo rhieni fy nghariad tra oedd hi’n byw efo rhieni fi yn Sywdd Dyfnaint. Ar y pryd, oedd Emma yn gorffen ei gradd ffisio yn Plymouth ac o’n i newydd ddechrau fy swydd cyntaf yng Nghymru. Felly, oedd o’n bach o gyfnewid rhieni ac oedd o’n bendant yn sefyllfa “make or break” inni.

Oedd y profiad yn wych a rwan dan ni i gyd yn agos iawn. Llynedd, y mis cyn ein priodas, symudodd fy rhieni i Gaerdydd ac maen nhw’n byw rownd y gornel ohonom yn wynebu Parc Fictoria yn Nhreganna.

Dan ni’n ffodus iawn i gael cymaint o gefnogaeth ar ôl mis Ionawr.

Mi wna i gario ymlaen efo fy hanes yfory, diolch am wrando arno

2 Likes

I gario ymlaen efo ddoe o’n i’n meddwl y ddylwn i son am fy mrodyr. Yr ieuangaf o bedwar ydw i, felly dw i’n teimlo fel oeddan nhw ofnadwy yn bwysig imi pan o’n i’n ifanc. Y dyddiau hyn, dw i’n teimlo fel dylai popeth bod yn deg a dw i’n cael hi’n anodd pryd nad ydy o neu dw i’n gweld rhywbeth annheg hyd yn oed tasai hi ddim yn gallu unrhyw effaith ar fy mywyd. Dw i’n meddwl bod hon yn dod o fy mhlentyndod, oedd rhaid i bopeth yn bod yn deg. Fel enghraifft, pob ddydd sul oeddan ni arfer eistedd am ginio fel teulu, ar gyfer pwdin oeddan ni arfer cael hufen ia vienetta felly mi oedd un o’m mrodyr yn cyfri’r swirls i wneud yn siwr bod pawb yn cael yr un maint. Oeddan ni yr un efo bagiau o sweets, bisgedi ac yn y blaen.

Mae hi’n swnio’n gret i isio gweld popeth yn deg ond mae na un problem…dw i ddim yn deilio yn dda efo annhegrwch. Dw i ddim yn teimlo fel bod gen i wydnwch. Felly, pan o’n i’n gweithio yn rhai timau o’n i’n cael hi’n anodd i’w weld pan oedd rhai bobl yn cael cyfleoedd ond nad oedd pawb.

Dyna rhwybeth mod i’n trio gweithio arno. Dw i’n trio dechrau cydnabod pryd medra i newid y sefyllfa a phryd na fedra i, a wedyn dw i isio gadael pethau mynd os na fedra i gael effaith arnyn.

1 Like

Diolch am ddweud dipyn o’th hanes, Anthony. mae anhegrwch yn anodd iawn i’w ddiodde, yntefe?
Heddiw mi es i sioe ‘quilts’ yn Bristol. Roedd llawer o bobl yno efo acen Cymraeg, ac mi torrais gaer yng Nghymraeg efo un ohonnont. Rwy wedi blino’n lan, a methu meddwl ney syllafu o gwbl, heblaw yn y Cymraeg!

doedd gen i ddim digon o amser i ysgrifennu rhwybeth heno oherwydd bod Mam Emma a’i chyfaill o ysgol wedi dod draw, felly dan ni’n cael amser ddoniol yn gwrando ar eu straeon ysgol…hunllefau oeddan nhw!!

2 Likes

Does dim ond gwlanhau’r tŷ i’w wneud heddiw. Mae ngŵr i wedi rhoi ‘valves’ newydd ar rheiddiaduron gwres canolog. Mae’r holl lle a’i draed i fynu.

Yn ystod yr Eisteddfod mi aethon ni i’r gîg Bryn Fôn ar Lwyfan y Maes. Ers imi gyfarfod Emma mae Un Funud Fach wedi bod ar bob playlist yn y car, felly oeddan ni’n sicr bod rhaid inni fynd i’r gîg. O’n i’n gwybod bod Bryn Fôn yn enwog iawn yng Nghymru ond, cyn y noson 'na (y noson gora rioed 'falle?! :wink:) do’n i ddim yn deall pa mor enwog ydy o.

O’n i’n disgwyl llawer o bobl yn y gîg oherwydd mod i’n gwybod fod o’n boblogaeth, ond oedd 'na rhan ohona i sy’n disgwyl pobl yn meddwl amdano fel miwsig eu rhieni. Pa mor anghywir oeddwn i!! Aeth 9mil o bobl i’r gîg! 9 mil o bob oedran a phob un ohonyn nhw yn gwybod pob gair!! Mi weles i bobl o dan 18 a dros 60 yn canu pob gair! Oedd o’n anhygoel!

Wythnos diwetha o’n i’n gwrando i bennod Beti a’i Phobl ac oedd hi’n sôn â Manon Steffan Ros. Mi wnaeth hi ddisgrifio sut oedd hi arfer gwrando ar Bryn Fôn a Michael Jackson a meddwl amdanyn nhw fel mor enwog â’u gilydd. Ac ar ôl y nos Sul 'na dw i’n deall yn llwyr beth mae hi’n meddwl gan hynna.

Mae hon yn gwneud i mi feddwl am rywbeth. Mae llawer o bobl, mwy na thebyg y mwyafrif yng Nghyrmu, yn meddwl am yr iaith fel rhywbeth yn bwysig, ond fyswn i ddim yn synnu tasen nhw ddim yn sylweddoli bod yr iaith yn byw a bod 'na ddiwylliant pop yn gwbl wahanol a chwbl annibynol yn byw yng Nghyrmu. Dw i ddim isio dweud na does dim dewis rhyngddynt a bydd llawer o bobl yn deall bod yr iaith yn byw, ond dw i’n meddwl y bysai fo’n dal nhw yn annisgwyl iddo.

Felly, mi ges i sgwrs ag un o fy nghleifion. Mae hi’n dod o’r Fenni ac oedd hi arfer byw a gweithio yn Tsieina. Oedd hi’n sôn am ba mor bwysig ydy o i ddysgu’r iaith lleol (dydy hi ddim yn siarad Cymraeg…ond ddylen ni ddim mynd lawer y ffordd 'na). Felly mi wnes i ddisgrifio’r Eisteddfod iddi, ac oedd ganddi syndod mawr! Does ganddi ddim clem o gwbl pa mor fywiog ydy’r diwylliant Cymraeg. Felly, dw i’n meddwl bod angen ar yr iaith i gael ei darllediad ar teledu a’r radio Saesneg. Un yr un ffordd dw i’n meddwl y dylsai rhaglenni fel Un Bore Mercher yn cael eu darllediad efo is-deitlau yn hytrach na cyfieithu.

Eniwê, dylwn i adael fo yno cyn i mi ddechrau bod rhy wleidyddol…

1 Like

Na, be’ dylsen nhw wneud, dw i’n meddwl, ydy cyfieithu dim ond hanner cyntaf y gyfres, ac aros am fod gan bobl ormod o ddiddordeb i stopio gwylio…

2 Likes

Sneaky!! :joy::joy:

Dw i’n deall pam maen nhw’n ei wneud o, oherwydd byddan nhw’n medru ennill mwy o arian o’r dorf Saesneg ond mae’n siomedig.

Mae gen i enghraifft arall hefyd. Aeth fy nghariad i ysgol efo Elan Evans y DJ. Oedd hi ar y sioe Eisteddfod gan Jason Mohamed ar y BBC. Oedd hi’n holi Alffa (band Cymraeg poblogaeth iawn) ond oedd y cyfweliad yn Saesneg. Dw i’n teimlo fel bod hon yn cryfhau’r syniad y Saesneg ydy’r prifiaith

Diddorol iawn! Pan yr oeddwn i’n ifanc - blynyddoedd maith yn ol - yr enwau mawr yn y byd cerddoriaith modern Cymraeg oedd Edward H Davis, Hergest, Y Tebot Piws, ac ati. Roedd gwrando ar eu recordiau yn help mawr i mi euhangau’r geirfa. Yn anffodus, mae byw yn lloegr wedi cael effaith ofnadwy ar hyn.
Mewn newyddion mwyaf hapus, rwy newydd trefnu gwesty am nos Lun nesa yn Wrecsam - rwyf am fynd i’r Saith Seren i gwrdd a ddysgwyr eraill, ar ol penwythnos yn wersyllu ger Much Wenlock.

Heddiw dwi wedi glanhau a thacluso. Mae mab ni yn dau ac dwi siwr oedd o eisau i helpi mi… Nesaf dy ni wedi paentio. Yn y prynhawn daeth fy ffrind i ganu efo fi. Roedd ein meibion ​​yn chwarae efo pob yr teganau. Roedd yn hwyl dda ond rwan rhyd i mi tacluso a glanhau eto!

1 Like

Does 'na neb yn wneud mwy o lanast na phlentyn sy’n ceisio helpu tacluso!

2 Likes

Heddiw mi es i Gloucester i ymuno a wragedd eraill WI (symudiad y merched) i ddysgu sut i wneud dol bach. Roedd llawer o hwyl a chwerthin, a doedd dim rhaid i neb rhoi punt yn a bocs rhegi! Ar ol mynd i Aldi i shopa ar y ffordd adref, rwy wedi blino’n lan. beth bynnag am hynnu, mae’n rahid imi paratoi am sesiwn yfory pan fydda i’n dysgy merched eraill i wneud torch rag ( rag wreath)

1 Like

Nawr, dw i’n eistedd yn yr Ivy Bush yng Nghaerfyrddin, aros am aelodau’r grŵp SSIW. Na fydd Rhian yn dod oherwydd ei gwyliau yn Madeira, na fydd Bill yn dod oherwydd ei gwyliau ym Mhortiwgal, ond, efallai, bydd un neu ddau arall yn dod.

@margaretnock Rwy’n gobeithio fydd rhai bobl yn troi i fyny i sgwsio efo ti!
Rwy’n mynd i’r Saith Seren yn Wrecsam nos Lun nesa i gwrdd efo bobl SSIW.
Pob lwc!

2 Likes

Un o’r syniadau eraill caeth Catrin ydy i sôn am sut dw i’n teimlo am fod yn dad.

Ers imi gofio, dw i wedi isio bod yn rhiant. Dw i’n wastad mwynhau treulio amser efo phlant, yn enwedig efo fy neiod. Ro’n i arfer gweithio fel ffisio pediatrig cyn imi newid i weithio efo oedolion, ac o’n i arfer mwynhau gweitho efo’r plant. Ond, mae hon yn mynd i fod yn wahanol on’d ydy?!

Efo phob plentyn arall o’n i’n medru eu dychwelyd nhw ar ddiwedd y dydd. Do’n i ddim angen poeni am sut oeddan nhw’n behafio neu beth bynnag. Felly, o’n i’n medru cael hwyl efo nhw, gwylltio nhw i fynny, jyst dreulio amser chwarae efo nhw, a do’n i ddim angen delio â nhw pan oeddan nhw’n flinedig ac ymladd â chwsg. Felly, ar hyn o bryd dw i wedi cael y rhan hawdd. Felly, rwan, bydd yn rhaid imi ddechrau bod yn ddisgyblwr.

Mae’n amser gwely rwan, felly mi wna i gario ymlaen yfory…nos da!

Rwyt ti’n doeth, Anthony. Mae bod yn rhiant yn hollol wahanol a ddelio efo blant yn dy swydd, ond mae hyn wedi rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn defnyddiol iawn. Does na neb yn barod i’r ffaith o ddelio â baban sy’n crio am ddim rheswm, neu ddelio â’r trydydd poonami’r dydd heb ddim cwsg a does neb yn barod i faint y fydden nhw’n caru’r creadur bach bregus.

:joy::joy::joy: dw i’n hollol sicr does neb yn barod am y poonami!

Felly, dw i’n nerfus am sut dw i’n mynd i ddelio efo’r ddisgyblaeth ond dw i’n siwr bydd hi’n gwneud sens i mi pan mae’r amser yn cyrraedd.

Dw i’n neidio o gwmpas rŵan oherwydd dyna sut mae fy ymennydd yn gweithio. Dw i’n mynd i sgwennu am sut dw i’n teimlo’n ystod yr beichiogrwydd.

Mi fyswn i’n deud mae tri theimlad:

Cyffro - mae’n gyffrous iawn! Dw i wedi isio bod yn dad ers imi gofio a rŵan dan ni wedi gwneud person bach! Mae’n wych! Dw i’n methu aros at gwrdd â fo, a dechrau’r her go iawn!

Aros - dan ni wedi myn dryw’r amser o gyffro ar ôl y sganiau i deimlo fel dim byd yn digwydd a dan ni’n aros y peth nesa.

Diymadferth - mae beichiogrwydd yn gwneud pethau rhyfedd i gyrff ferched. Mae eu hormonau yn gallu achosi poen, tristwch, rhwystredigaeth ac yn y blaen. Ac mae’n anodd iawn i’w wylio oherwydd does dim llawer y fedra i wneud i helpu.

Nôl i waith rŵan…

1 Like