Mae’n ddrwg gen i i’w glywed e Dee! Ond da iawn gyda’r ebyst. Dw i angen 'wneud hynny hefyd! Gobeithio fod ti’n teimlo’n well yn fuan.
Dwedodd Dewi Sant “Gwnewch y pethau bychain.”
Dee, ti’n dilyn esiampl ardderchog!!
Dw i’n teimlo’n llawer gwell heddiw, diolch i bawb! Nes i hyd yn oed mynd am dro bach yn y pentre pan ddaeth yr haul mas am sbel. Dw i’n dwlu ar yr awyr ffres yn y gaeaf, ond dim pan mae’n wyntog!
Oer a heulog ydy fy hoff fath o ddyddiau! Diwrnodau’r mynyddoedd (cyn y glaw).
well 'da fi pan mae’n towlu “tân a trwsto” fel maen nhw’n gweud yng Nghwm Tawe (neu taflu “mellt a thrannau” fel maen nhw’n dweud ym mhobman arall).
Diolch i S4CTywydd ar Instagram dw i wedi dysgu’r gair “gaeafol”.
Anthony, I am confused. ‘a phethau’ isn’t that ‘and things’ ? After plurals, is it arall or eraill? Ot should I ask @garethrking
Like pobl - i think you can use both. Happy to be corrected of course.
Mae’n ddrwg gen i, dylwn i wedi teipio yn Gymraeg
A dweud y gwir, os mae pobl wedi fy neallt i, does gen i ddim ots am gamgymeriadau
A nawr, diolch i ti ac Ap Geiriadur, dw i wedi dysgu “gaeafol” hefyd!
Oedd hi’n bwrw eira yma dydd Sadwrn diwetha, ac heddiw mae hi’n -4°C, ac yn wyntog iawn - BRRRR! Gaeafol, yn bendant!
Wy ti’n byw yn yr Unol Daleithiau on’d wyt? Oes gynnoch chi dymhorau go iawn on’d oes?
Ydw, dw i’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn y gogledd-dwyrain. Mae pedwar tymhorau gyda ni yma. Mae’n anarferol i gael tywydd mor oer a wyntog â hyn ym Mis Rhagfyr, er hynny.
(Sa i’n siŵr am “er hynny” - oedd rhaid i fi ddefnyddio’r geiriadur er mwyn trio gweud hynny! )
A diolch i Radio Cymru (a wedyn llyfr dw i’n darllen ar hyn o bryd) dw i wedi dysgu’r gair “rhynllyd” - chilly.
Clywais i’r gair sawl gwaith yn ddiweddar heb fod yn siŵr yn gwmws beth oedd yr ystyr. Wedyn darllenais i’r gair yn y nofel a nes i sylweddoli.
After plurals it’s eraill
Yn ôl fy mam, a oedd yn byw yn Vermont yn ei harddegau, mae pum tymor yn yr ardal. Gwanwyn, haf, hydref, gaeaf a mŵd, pan mae’r eira yn toddi.
Dw i’n siŵr bod ni’n cael tywydd gaeafol yn gynharach na lynedd. Mae hi wedi bod yn rewllyd iawn y Rhagfyr ‘ma.
Ar y llaw arall, Mae’r tywydd 'ma wedi bod “i fynu ac i lawr” - cynnes un dirwnod ac yn rewllyd y nesa. A cynnes eto . . .
Dwedodd ffrind gorau yn merch rhywbeth od rhyw wythnos yn ol. Wedodd hi “I hate Welsh” ac rhaid i fi cyfadde mhod i’n dal yn cofio’r peth achos on i’n meddwl ar y pryd ei bod hi’n saith blwydd oed ac yn rhy ifanc i feddwl fel ‘na.
Oedd e’n od hefyd, achos don ni byth yn siarad Cymraeg, neu siarad am y peth o gwbl pan iddi yn y gytre (achos mae hi’n mynd i ysgol Saesneg - ysgol wahanol i ym merch). Ond mae popeth wedi newid.neithiwr. Clywais i rhywbeth anhygoel go iawn - ym merch ac ei ffrind oedd yn ishte yn y gegin a chlywais i
“dw i’n hoffi bwyta reis”
Dyna sypreis go iawn i fi, achos oedd ffrind ym merch yn gweud y peth – yr un sydd yn gweud yn gynt “I hate Welsh”. Oedd y dau yn parhau siarad mwy fel ‘na ac on nhw’n warae gem am y peth.
“dw i’n hoffi bwyta afal” a “dw i’n hoffi bwyta mochyn” ayyb (mochyn!!!)
Dyna oedd rhywbeth hyfryd i glywed ond nage oherwydd y Cymraeg, ond achos y newid yn y modd y dau sydd yn meddwl.a siarad amdani. Ond dyna blant i chi, tybed bydd y dau yn newid eto mwy nag unwaith cyn fory.
Mae hynny’n newyddion da! Fyddwn i ddim yn synnu os oedd y ferch 'na wedi clywed rhywun arall yn gweud “I hate Welsh” a mae hi wedi copio, ond os gall hi feddwl am Gymraeg fel rhyw fath o gêm a chael hwyl gyda’r iaith, byddai hynny’n help mawr!