Paid poeni, rhy hwyr! 'Sdim ôts, on i’n edrych ar y map am y traeth gorau am tywod ger Caernarfon i fynd am dro â’r ci.
Dw i newydd ddechrau dysgu Siapaneg ar-lein, gyda MT (ssshhhhhh) a Memrise. Bydda
i ymweld â Siapan am rhai mis yn y hydref. Mae fy mhen yn troi!
Mae Duolingo wrthi yn datblygu cwrs Siapaneg ar hyn o bryd, ond sa i’n gwybod pa mor fuan bydd e ar gael. Dw i’n disgwyl ymlaen!
Dw i’n meddwl ei fod yn ddechrau ar 18ed mis hon, yr wythnos nesa.
Ydy Duolingo yn app, achos nid oes digon o le ar fy ffôn? Neu alla i ddefnyddio yr wefan?
Fe ges i fy ngwers canu heno. Mae fy athrowes wedi cysylltu â Bachgen Bro Taf ac maen nhw wedi gyrru cwpwl o ganeoun drosti hi. Felly, dw i’n trio dysgu hon nawr: https://www.youtube.com/watch?v=ds550n0BHPs
Yn eistedd mewn lori yn Swindon, ond wythnos nesaf, bydda i’n gweithio’n ystod y dydd. Edrych 'mlaen, achos dwi isio ail-ymuno tîm lleol.
A chael y siawns mynd i’r cyfarfod SSiW yn Winchester! Mewn pyb. Sy’n gwerthu cwrw, gyda llaw. Dim ond un peint i mi - bydda i’n dreifio. Dwi’n blasu’r cwrw rwan…mmmmm! Un peint. 'Di anghofio’r blas cwrw… neis, siwr o fod… Leffe!! Breuddwyd…
Wyt ti’n gallu defnyddio’r wefan. Dw i’n meddwl bod y wefan yn well na’r ap, a dweud a gwir!
Cân neis iawn! Dw i’n ei hoffi hi!
Pan ddes i yn ôl heddiw o daith bach i’r waith, wnaeth y DVD Popeth yn Gymraeg yn fy nisgwyl i.
Wnes i wylio’r rhaglen gynta heno (efo isdeitlau Saesneg ).
Dwi wedi gorffen darllen “Ebargofiant” acłi dwin siarad sgwenyđiaith nowanal wan. Mae nwełoweł na 1hiwbethma dwi wedi iđarłen ri oed, nd nohyvađ vyd. Dydiođim n hawđ gałvedru dałt styr geiria nd arlawrał maen mnd vel dexra darłen trocinta miwn iaith owanal ti mnd baxn nabyđus evohi. Łyfr reidneis.
Wanta, bedi nesa?
Mae’n ddrwg gen i, roedd rhaid i mi drio
Dw i’n trwsio byg yn yr SSiW app sy’n achosi’r botwm saib methu â gweithio weithia.
Wel… dw i’n gobeithio trwsio…
Mae rhaid i fi fynd i’r archfarchnad nawr, ond pan fydda i’n dod gytre, bydda i’n trio dy helpu di
Fe ges i ddiwrnod hyfryd heddiw. Es I am dro lan Moel Famau. Dyffryn Colwyn yn ardal hyfryd!! A wedyn i Landudno ac i’r top o’r Gogarth.
Nawr, Dwi’n gwylio’r rownd terfynol cwpan FA merched gyda Taid fy nghariad.
Dw i’n mynd i fynd loncian wrth ddysgu am sut i archebu bwyd yn Spaeneg! (SSiS, wrth gwrs)
Dw i wedi bod yn trio trawsblannu pabïau o’r ardd cefn i’r ardd ffrynt. Fe wnaethon nhw faru’r tro cyntaf, felly dw i wedi trio eto gydag ychydig mwy o bridd gyda pob un. Croesi bysedd!
pob lwc!
Diolch @lewie! Dw i’n dwlu ar babïau ac anrheg ffrind da o’r Almaen yw’r rhain. Byddwn i’n hapus iawn i’w gweld nhw yn tyfu o flaen fy nhŷ fi.
Es i i Aberystwyth dros yr penwythnos. O’n i’n arfer byw yn y dre. Roedd o’n rhyfedd iawn to treulio amser yn y Cymraeg yna ar ol blwyddyn o byw yna yn y Saesneg. Wnaeth o’n teimlo fel lle gwahanol i fi.
Es i i’r Cwps am peint. Wnes i eistedd i gwylio’r rugbi ar y teledu a syweddoli bod pawb yn trafod y gem yn y Cymraeg. Roedd mor hyfryd i eistedd mewn tafarn a clywed cymraeg yn bob man a deall! Beth modd arall yn gwella i ymarfer cymraeg tydy?
Es i i Siop y Pethe. O’n i’n arfer teimlo yn nerfus pan es i yna, achos wnes i teimlo yn euog achos do’n i ddim yn medru siarad cymraeg, ond y tro hwn, dechrais i sgwrs efo’r staff ac yn sydyn roedden nhw’n gwenu a siarad efo fi. Wrth y fford, Ganddo Siop y Pethe mwy llyfrau Cymraeg na Palas Print yn Caernarfon. Rwan roedden nhw wedi agor ystafell lan grisiau newydd efo anrhegion hyfryd. Felly, Aberystwyth yn dal i dre gorau y byd!
Mae Aberystwyth yn teimlo mwy arbennig i fi rwan. Medra i’n bod yn Aber yn Cymraeg ac yn Saesneg, dw i’n caru hwn cymaint!
Mae Tesco’s newydd yn siomedig, Mae o’n debyg Tesco’s eraill yn bob man.
Dw i’n wedi blino iawn iawn eto ar ol y penwythnos arall yn y Cymraeg ond dw i’n hapus!
Dwi’n cofio’r teimlad yna yn glir iawn…
Gyda llaw - yn lle ‘wrth y fford’, defnyddia ‘gyda llaw’…
Cwrddais ddyn o Siapan echdoe ar bwys y pwll nofio. Mae Ken wedi dysgu Saesneg ond mae’n moyn gwella ei ynganiad. Dw i newydd ddechrau dysgu Siapaneg ac mae eisiau i fi ymarfer gyda rhywun. Cyfleus?