Menter Iaith are advertising for 2 Development Officers. I know there are people out there that would be ready to take the plunge and start working through the medium of Welsh. They initially want people for either Llanrwst, Llandeilo or Caerffili.
Hysbyseb Swyddi Mentrau Iaith Cymru
Swyddog Datblygu x 2 (dwy swydd llawn amser)
Cyflog: £23,166- £25,694 y flwyddyn (37 awr yr wythnos)
Cytundeb: hyd at Mawrth 2018, yn ddibynnol ar gyllid, gyda phosibilrwydd o barhad wedi hynny
Lleoliad: Llanrwst, Llandeilo neu Caerffili yn ystod y cyfnod prawf o 6 mis, wedyn bydd cyfle i drafod lle sydd fwyaf hwylus i’r swyddogion.
Rydym yn chwilio am 2 berson trefnus, effeithiol a phrofiadol sydd â’r gallu i gefnogi gwaith y rhwydwaith o 23 Menter Iaith ar draws Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Mi fydd y person delfrydol â phrofiad perthnasol o amryw o’r dyletswyddau yn y swydd ddisgrifiad, ond nid o reidrwydd i gyd. Rhai o’r prif ddyletswyddau fydd cyfathrebu, trefnu, cyllid, hyrwyddo a hyfforddiant.
Bydd y person llwyddiannus yn hunan disgybledig, brwdfrydig, yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Dyddiad cau: 12pm Dydd Llun y 9fed o Ionawr 2017
Dyddiad cyfweld: 13eg o Ionawr 2017
Am wybodaeth bellach: http://www.mentrauiaith.cymru/hysbyseb-swydd/swydd-wag/ neu iwanhywel@mentrauiaith.cymru /01492 643 401