Y52 “Y Ffrind Newydd” gan Y Crawc Mawr
Roedd y feirws yn gwylltfilaidd. Bob dydd, aeth mwy a mwy o bobl yn froga. Pan ddigwyddodd hi i’r Prif Weinidog, penderfynodd Owen hunanynysu.
Doedd ‘na dim dewis, rili. Fel ffermwr pannas, dibynnodd Owen ar werthu pannas yn clybiau nos yr ardal (mae pobl yn prynu popeth pan maen nhw’n feddw). Ond oherwydd y feirws, aeth pobl ddim mas mwyach. Rhedon nhw i’r archfarchnad a dyna ni.
Y dydd cyntaf, roedd Owen yn cyfforddus yn ei tŷ e: digon o bannas i fwyta, digon o ffilmiau newydd ar Netflix, a tywydd heulog i ddarllen yn yr ardd.
Ond yn ôl un wythnos, aeth Owen yn bôrd gyda ffilmiau a darllen a ffonio hen ffrindiau sy wedi symud o’r cefn gwlad. Felly penderfynodd e tacluso ei dŷ e. Fel rheol, doedd dim llawer o amser gyda fe i wneud hyn, felly roedd ‘na mynyddoedd o sbwriel yn y tŷ: dillad ei wraig (adawodd sawl blynyddoedd yn ôl), teclynnau coginio ei fam (farwodd mwy na sawl blynyddoedd yn ôl), llyfrau TGAU, hen sigaréts ei dad (adawodd pan roedd e’n fachgen). Ac yn y diwedd, yn cornel bellach yr atig, daeth Owen o hyd bocsyn prennol ddoedd e erioed wedi gweld.
Yn chwilfrydig, aeth e â’r bocsyn i’r stafell fyw ac ei agorodd e. Ynddo, caeth e a hyd i lyfr trwm, bowlen metel a llen du. Agorodd e’r llyfr lle gaeth llyfrnod ei roi rhwng y tudalennau a darllenodd y pennawd: “I galw am ffrind”. Dwedodd y testun: “Ansoddwch eich hoff peth yn y byd ar y bowlen ac wedyn y bowlen ar y llen. Wedyn, dwedwch: Tyred, tyred, fy ffrind mawr. Tyred, tyred, anghenaf nawr.”
Gorwenodd Owen. Ie, roedd e angen ffrind ar hyn o bryd - roedd tacluso trwy’r dydd ar ben ei hunan yn diflas iawn. Penderfynu beth yw ei hoff peth yn y byd roedd yn hawdd iawn: pannas, wrth gwrs! Felly daeth Owen â panasen o’r gegin ac ei ansoddodd hi ar y bowlen ar y llen.
Gwenodd Owen a dwedodd e: “Tyred, tyred, fy ffrind mawr. Tyred, tyred, anghenaf nawr!”
Roedd ‘na tanchwa bach a-
“S’mae, s’mae, s’mae! Dai dw i! Shwt wyt ti? Yn iawn? Grêt! Nawr, be’ fyddwn ni’n ’neud?!”
Amrantodd Owen. Dyna, ar y bowlen, roedd yn dal y panasen. Ond nawr, roedd dau llygad, ceg, dau breichyn a dau coesyn arni hi. A siaradodd hi. Yn gyflym iawn.
“Oy! Ffrind mawr! Be’ sy’n ocyro?!” Bownsiodd y panasen o’r enw Dai ar y bowlen.
“Panasen wyt ti?” gofynnodd Owen, yn stwmp.
“Ydw!”
“Beth wyt ti’n gwneud yma?” Am gwestiwn twp, meddylodd Owen.
“Wel, wyt ti wedi galw am ffrind, on do? So dyma fi!”
“Ie. Ond … Wel, panasen wyt ti.”
“Ti ddim yn hoffi pannas?”
“Dw i’n eu caru nhw!”
“So be’ yw’r problem?”
“Wel …”
“Ha! Dw i’n rhy fach, on dydw? Nawr, gwranda—”
Ond doedd Owen ddim eisiau gwrando ar Dai yn gwichio. Cymerodd e’r llyfr trwm a darllenodd y tudalen deitl. “Celf ddu Cymru …?”
“Cywir!” gwichiodd Dai. “Pam, be’ meddyliaist ti? Cant a un rysait pannas? Na! Dyna llyfr a llen Anwyn Dewines Llys Du, gwraig Brenin—”
“Byddi di’n aros yma am byth?”
“Bydda. Ti angen ffrind, on dwyt? Wel, dw i’n dy ddeall. Mae’r holl sbwriel ‘ma’n rhedeg bob dynes,” chwarddodd Dai.
“Mae ‘na feirws tu allan,” dwedodd Owen. “Dyn ni ddim yn cael gadael y tŷ.”
“Dim problem. Dw i’n caru bod catref gyda paned a siarad, siarad, siarad.” Darweiniodd Dai ar y soffa. “Ty’d â baned. A gacen, ella?”
“Pam finnau?”
“Dw i ddim yn was. Panasen dw i.”
“Ac heblaw siarad, beth wyt ti’n gallu gwneud?”
“Wel … Canu, cellweirio, clapio, sylwadu, storïo … Yr hoff stori Anwyn roedd—”
“Wyt ti’n gallu tacluso?”
“Ydw. Ond dw i’n casáu gweithio. Mae’n well ‘da fi siarad.”
“A ti’n cysgu?”
“Dyma peth gorau am bod yn panasen byw: dim angen o gwsg!”
Ystyriodd Owen hyn am funud. Byw gyda panasen sy’n siarad trwy’r nos neu …
“Dere i’r gegin, Dai, dw i ddim eisiau cael sgwrs gan ysgegu.”
Tra roedd Dai dal yn siarad, berwodd Owen y dŵr ar gyfer y te mewn pot. Ond pan roedd e’n barod, cydiodd e Dai ac ei daflodd e yn y dŵr. Gyda gwên drist, gwrandawodd Owen ar y panasen yn coginio ac yn sgrechian. Wedyn, gyda selsig, aeth Dai’n cinio blasus iawn.
Ystyriodd Owen tanio’r llyfr clef ddu, ond wnaeth e ddim. Roedd hi’n bosib bod cyfaredd yn erbyn y feirws broga ynddo, wedi’r cwbl.